Mae gaeafau cynhesach a gwlypach yn berygl i bryfed dyfrol
7 Tachwedd 2023
Mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd wedi dangos bod y gaeafau cynhesach a gwlypach y mae’r DU yn eu profi o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar sefydlogrwydd poblogaethau pryfed yn nentydd Cymru.
Mae'r ymchwil, sydd wedi’i chynnal dros bedwar degawd, wedi dangos bod pryfed nant yn cael eu heffeithio gan aeafau cynhesach, gwlypach a achosir gan hinsawdd sy'n amrywio dros Gefnfor yr Iwerydd. Mae poblogaethau pryfed hyd yn oed yn y ffynonellau afonydd lleiaf yng Nghymru yn teimlo’r effeithiau.
"Mae gaeafau'r DU yn dod yn gynhesach ac yn wlypach ar gyfartaledd, ac roeddem am ddeall sut y gallai hyn effeithio ar ein hafonydd. Mae'r hinsawdd yn effeithio'n fawr ar nentydd ac afonydd oherwydd newidiadau yn nhymheredd aer byd-eang a dyddodiad sy'n effeithio ar batrymau llif a thymheredd y dŵr.
"Dros y blynyddoedd, rydym wedi sylwi fwyfwy bod newidiadau yn ein hafonydd hefyd yn cyd-fynd â phatrymau hinsoddol byd-eang dros yr Iwerydd, ac mae'r rhain yn rhoi cliwiau pwysig am newid hinsawdd" dywedodd yr Athro Steve Ormerod, o Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd.
Mae’r ymchwil yn seiliedig ar samplau o Arsyllfa Nant Llyn Brianne yng Nghanolbarth Cymru, un o’r prosiectau dalgylch di-dor hiraf yn y byd. Cafodd y blaenddyfroedd sy’n ffurfio Arsyllfa Nant Llyn Brianne eu samplu am y tro cyntaf ym 1981, sydd wedi caniatáu i wyddonwyr ymchwilio i newidiadau i nentydd ac afonydd yn y DU ers dros ddeugain mlynedd.
Drwy fonitro newidiadau yn ansawdd dŵr a rhywogaethau dyfrol ers yr 1980au, mae’r ymchwilwyr wedi gallu monitro sut mae newidiadau yn yr hinsawdd yn effeithio ar ddyfroedd Cymru. Ond mae hefyd yn dangos sut mae amrywiadau hinsoddol mewn ardaloedd eraill – gan gynnwys Cefnfor yr Iwerydd – yn effeithio ar ansawdd afonydd a bywyd gwyllt.
“Mae Osgiliad Gogledd yr Iwerydd yn ardal fawr o bwysedd atmosfferig yn rhanbarth Gogledd yr Iwerydd. Yn dibynnu ar bwysedd aer ar y môr, mae Osgiliad Gogledd yr Iwerydd yn dod â naill ai gaeafau oer, sych i ogledd orllewin Ewrop neu aeafau cynnes, gwlyb - gan gynyddu tymheredd yng Nghymru ar gyfartaledd hyd at 3°C a glawiad hyd at 40%.
“Mae’r newidiadau hyn yn debyg iawn i'r raddfa y mae'r hinsawdd yn debygol o newid, felly maen nhw’n rhoi cipolwg gwerthfawr ar effeithiau newid yn yr hinsawdd byd-eang. Ond y canfyddiad mwy syfrdanol oedd faint yr effeithiodd y newidiadau hyn ar bryfed dyfrol dros flynyddoedd yr astudiaeth.
“Arweiniodd gaeafau cynnes, gwlyb at newidiadau mawr ym mhoblogaethau pryfed a oedd y rhain yn cyd-ddigwydd ar draws y deg nant y buom yn ymchwilio iddynt. Roedd yr effeithiau hyn yn golygu bod cyfansoddiad y rhywogaethau yn llai tebyg ac yn fwy ansefydlog rhwng blynyddoedd cynhesach – sy’n dod yn amlach wrth i’r hinsawdd newid,” meddai Dr Stefano Larsen, o’r Fondazione Edmund Mach yn yr Eidal.
“Mae'n rhyfeddol bod amrywiadau ymhlith rhai o'r anifeiliaid lleiaf yn rhai o nentydd lleiaf ucheldir Cymru yn gysylltiedig ag amodau hinsoddol a gynhyrchwyd filoedd o gilometrau i ffwrdd dros Gefnfor yr Iwerydd. Mae ein hastudiaeth hirdymor yn dangos yr effeithiau hynny’n glir tra’n ein rhybuddio am yr hyn a allai ddod yn batrymau newid hinsawdd sylweddol.
“Ond mae’r gwaith hwn hefyd yn dangos rhai camau cadarnhaol i leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd, er enghraifft, drwy warchod ac adfer bioamrywiaeth, a thrwy reoli tirweddau ucheldir i leihau effeithiau llifogydd,” ychwanegodd yr Athro Ormerod.
Mae’r papur, Climatic effects on the synchrony and stability of temperate headwater invertebrates over four decades, wedi’i gyhoeddi yn Global Change Biology, ar y cyd rhwng y Fondazione Edmund Mach, Prifysgol California, Prifysgol Virginia a’r Sefydliad Ymchwil Dŵr ym Mhrifysgol Caerdydd.