Gêm fwrdd arloesol yn efelychu heriau addysg feddygol y 'byd go iawn'
2 Tachwedd 2023
Mae academyddion addysg feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cael llwyddiant wrth lansio gêm gardiau arloesol sy'n efelychu'r heriau a wynebir wrth ddarparu hyfforddiant addysg feddygol o ansawdd uchel.
Mae CARDiph Game yn cynnig ateb unigryw mewn perthynas â chynllunio gwersi a sesiynau effeithiol mewn addysg feddygol. Gan ddefnyddio cyfres o gardiau chwarae a sefyllfaoedd, mae CARDiph Game yn trochi chwaraewyr mewn amgylchedd chwareus i wella eu dull addysgu a datblygu sgiliau cynllunio sesiynau. Mae'r rheolau'n syml iawn, a gyda dros 35 miliwn o sesiynau addysgu posibl, mae'r cyfleoedd dysgu’n ddiddiwedd.
Wedi'i dylunio gan yr addysgwyr meddygol clodwiw, Dr Katie Webb a Julie Browne o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, a'r dylunwyr gemau blaenllaw Focus Games Ltd, mae CARDiph yn cynnig llwyfan creadigol a diddorol i unigolion archwilio dulliau addysgu amrywiol tra’n croesawu cydweithrediad ac arloesedd. Mewn oes lle mae addysgu traddodiadol mewn darlithfeydd yn parhau’n gyffredin, mae crewyr CARDiph yn gobeithio y bydd y dull newydd hwn yn herio’r norm ac yn arwain at bosibiliadau newydd ar gyfer addysgu meddygol.
Dywedodd Julie Browne: "Gwnaethom ddatblygu CARDiph gan nad oeddem yn gallu dod o hyd i unrhyw gemau ar y farchnad a oedd yn helpu addysgwyr gofal iechyd i wella eu sgiliau a'u hyder wrth ddylunio sesiynau. Er bod CARDiph yn gêm ddifrifol sy'n canolbwyntio ar sgiliau cynllunio addysgol ac addysgu, mae’r gwaith o’i chreu a’i mireinio gyda grwpiau amrywiol o addysgwyr gofal iechyd gwych wedi bod yn llawer o hwyl.
"Mae ’na ymdeimlad go iawn o frwdfrydedd a digon o chwerthin wrth i bobl gael profiad o’r pwysau sy’n gysylltiedig ag addysgu yn y byd go iawn. Rydyn ni'n falch iawn ei bod hi bellach ar gael i unrhyw un ei chwarae, ac mae'n edrych mor dwt yn ei bocs bach taclus, sy’n ffitio’n hawdd mewn poced neu fag gliniadur.
"Rydym yn gobeithio y bydd pobl sy'n ei chwarae yn cael ymdeimlad newydd o egni, creadigrwydd, hyder a hwyl yn eu gwaith addysgol trwy gydweithio i ddyfeisio sesiynau addysgu gwych."
Ychwanegodd Dr Katie Webb: "Trwy CARDiph, roeddem am greu platfform sy'n sbarduno newid mewn patrymau addysgu. Ein nod oedd torri'n rhydd o normau addysgu confensiynol a meithrin amgylchedd dysgu mwy diddorol, cydweithredol ac arloesol.
"Yn ystod y gwaith o ddatblygu’r gêm, rydym wedi gweld cyfranogwyr yn dangos brwdfrydedd cyson dros ddulliau dysgu rhyngweithiol. Mae grwpiau sydd wedi ymgysylltu â CARDiph wedi dyfeisio llu o weithgareddau ymarferol a diddorol, fel efelychiadau, trafodaethau, sesiynau chwarae rôl, a hyd yn oed ystafelloedd dianc.
"Rydym yn hynod o ddiolchgar am y cyllid a dderbyniwyd drwy ESRC/IAA CRoSS Funding a'r gefnogaeth fasnachol amhrisiadwy gan Focus Games. Mae'r cydweithio cryf rhwng ein sefydliadau wedi bod yn allweddol wrth wireddu CARDiph Game. Drwy gynnig ‘dull gêm’ sy'n pwysleisio creadigrwydd, rydym yn gobeithio grymuso addysgwyr ledled y byd i feddwl y tu allan i gyfyngiadau darlithfa."
Dywedodd Melvin Bell, Prif Swyddog Gweithredol Focus Games: "Rydym yn llawn cyffro i weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu a marchnata CARDiph. Mae effaith y gêm yn ddiymwad gan ei bod yn annog safbwyntiau ffres, yn meithrin gwaith tîm, ac yn magu hyder mewn addysgwyr gofal iechyd. Gyda'i natur ddeinamig ac addasadwy, mae'r gêm yn agor drws at ddyfodol mwy arloesol a diddorol i addysg gofal iechyd".
Cefnogir CARDiph Game gan Academi’r Addysgwyr Meddygol, gan ychwanegu ymhellach at ei henw da o fewn y sector addysg feddygol. Mewn datganiad, dywedodd Academi’r Addysgwyr Meddygol: "Rydym yn falch iawn o gefnogi CARDiph - y Gêm Gardiau ar gyfer Gofal Iechyd Rhyngbroffesiynol. Mae CARDiph yn offeryn addysgol gwerthfawr sy'n annog cyfranogwyr i ddysgu a meithrin sgiliau newydd fel addysgwyr meddygol, i weithio ar y cyd i wella’r broses o gynllunio a chyflwyno gwersi gyda ffocws ar y gwerthoedd sy'n hyrwyddo rhagoriaeth mewn addysg feddygol."
I gael rhagor o wybodaeth am CARDiph a'i rôl drawsnewidiol mewn addysg gofal iechyd, ewch i www.CARDiph.com