Arweinwyr y gynhadledd gwrth-gaethwasiaeth yn ymladd yn erbyn caethwasiaeth fodern
1 Tachwedd 2023
Daeth arbenigwyr ac ymarferwyr at ei gilydd i fynd i’r afael â mater brys a chymhleth caethwasiaeth fodern yng Nghynhadledd Atal Caethwasiaeth Cymru 2023 – digwyddiad a gynhaliwyd ar y cyd gan Ysgol Busnes Caerdydd a Llywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd Cynhadledd Atal Caethwasiaeth Cymru 2023 yn Ysgol Busnes Caerdydd ar 18 Hydref i nodi Diwrnod Atal Caethwasiaeth, a daeth amrywiol randdeiliaid at ei gilydd dros newid. Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cynnwys cynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, yn ogystal ag unigolion â phrofiadau o gaethwasiaeth fodern mewn bywyd.
Cyd-gadeiriwyd y digwyddiad gan Dr Maryam Lotfi, Darlithydd mewn Rheoli Cadwyni Cyflenwi yn Ysgol Busnes Caerdydd, a Mr Joshua Vuglar, Pennaeth Caethwasiaeth Fodern a Hawliau Gweithwyr yn Llywodraeth Cymru.
Roedd y gynhadledd yn ymwneud â phedair thema allweddol a amlinellwyd gan Fforwm Atal Caethwasiaeth Cymru, gan gynnwys:
- dioddefwyr a goroeswyr
- atal
- hyfforddiant ac ymwybyddiaeth
- cadwyn gyflenwi a materion rhyngwladol
Cafwyd anerchiad agoriadol y gynhadledd gan yr Athro Rachel Ashworth, Deon a Phennaeth Ysgol Busnes Caerdydd, a ddywedodd:
“Mae angen i ni sicrhau bod ein holl ymdrechion yn yr ysgol hon yn gwneud gwahaniaeth i’r rhai sy’n cael eu masnachu, i’r rhai sy’n cael eu caethiwo, boed hynny yma yng Nghymru neu ar draws y byd.”
Ychwanegodd: “Mae gennym ni i gyd rôl allweddol i’w chwarae heddiw – pan rydyn ni’n dod at ein gilydd, gallwn ni fod yn fwy pwerus nag rydyn ni’n meddwl a chyflawni’r newid rydyn ni eisiau ei weld.”
Nesaf i siarad oedd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn AS, a siaradodd am heriau caethwasiaeth fodern yng Nghymru.
Mynegodd werthfawrogiad i Brifysgol Caerdydd am sefydlu'r Grŵp Ymchwil Caethwasiaeth Fodern a Chynaliadwyedd Cymdeithasol. Cyd-gadeirydd y gynhadledd, Dr Maryam Lotfi, yw cyd-gyfarwyddwr y grŵp ymchwil, sef cydweithrediad ymchwil blaengar, amlwg a rhagweithiol ar gaethwasiaeth fodern a chynaliadwyedd cymdeithasol, y cyntaf o’i fath yng Nghymru a’r DU. Sefydlwyd y grŵp gan Ysgol Busnes Caerdydd a Pharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (SPARK).
Siaradwr allweddol yn y gynhadledd oedd y Fonesig Sara Thornton, cyn-Gomisiynydd Atal Caethwasiaeth Annibynnol ac Athro Ymarfer mewn Polisi Caethwasiaeth Fodern ym Mhrifysgol Nottingham. Cyflwynodd araith yn amlinellu heriau y mae angen mynd i’r afael â nhw ar fyrder.
Wrth siarad am Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015, honnodd y Fonesig Sara Thornton y gallai llywodraeth y DU wneud mwy i adeiladu ar hyn, gan gynnwys:
- Ymestyn y gyfraith i'r sector cyhoeddus
- Gwneud adrodd yn orfodol ar gyfer rhai sectorau
- Sefydlu un dyddiad cau ar gyfer adrodd
- Cyflwyno sancsiynau ar gyfer cydymffurfio
Dywedodd mai ychydig o gynnydd sydd wedi’i wneud, sydd wedi golygu bod y DU y tu ôl i’r UE a gwledydd eraill wrth fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern.
Rhoddodd Dr Maryam Lotfi sgwrs yn y digwyddiad ar 'gaethwasiaeth fodern a'r gadwyn gyflenwi fyd-eang: pŵer ymchwil ar gyfer effaith ryngwladol'. Dywedodd:
“Mae caethwasiaeth fodern mewn cadwyni cyflenwi yn fater byd-eang. Dylai ein dull fod yn un chwyddo a dad-chwyddo. Fel arall, efallai y cawn ni Gymru heb gaethwasiaeth, ond ein bod ni’n dal i ddefnyddio a mewnforio’r nwyddau sy’n cael eu cynhyrchu i rywle arall gan gaethwasiaeth fodern.”
Ychwanegodd Dr Lotfi: “Mae caethwasiaeth fodern yn fater cymhleth y gellir mynd i’r afael ag ef trwy fentrau cydweithredol â nifer o randdeiliaid yn unig. Mae’n ddeinamig iawn, a hyd yn oed gyda digon o baratoi, mae risgiau effaith uchel a all effeithio ar y sefyllfa fyd-eang.”
Drwy gydol sesiwn y bore, bu cyfres o siaradwyr dylanwadol yn ymgysylltu â’r cynadleddwyr, a ddilynwyd gan drafodaethau panel ysgogol yn y prynhawn. Ar-lein ac wyneb yn wyneb, denodd y gynhadledd 212 o gynadleddwyr, gan ei wneud yn ddigwyddiad arwyddocaol i fynd i’r afael â mater hollbwysig caethwasiaeth fodern yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Dr Maryam Lotfi (Lotfim@caerdydd.ac.uk)