Dad o Gaerdydd yn dychwelyd i'r ystafell ddosbarth
30 Hydref 2023
Cwblhaodd Scott Lwybr at radd ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae bellach yn astudio BSc mewn Archaeoleg.
Roedd Scott Bees yn dad gwaith prysur i bump o blant pan glywodd am Lwybr Prifysgol Caerdydd i gwbwlhau gradd mewn hanes, archaeoleg a chrefydd. Roedd Scott sy'n 34 ac yn byw yn Nhrelái, bob amser yn angerddol am ddysgu hanes ond gyda theulu ifanc a gyda biliau i'w talu teimlai nad oedd dychwelyd i'r ystafell ddosbarth yn opsiwn iddo.
Pan ddechreuodd ei blentyn ieuengaf yr ysgol, penderfynodd gwraig Scott ddechrau astudiaethau gradd ac fe wnaeth ei brwdfrydedd dros ddysgu ei ysbrydoli.
“Anogodd fy ngwraig fi i ddilyn fy mreuddwydion a manteisio ar y cyfle i ddilyn rhai cyrsiau byr. Ar ôl cael plant yn ifanc a ddim yn gwneud yn dda yn yr ysgol, roeddwn i'n meddwl mai swyddi cyffredin oedd fy nyfodol tan i mi ymddeol. Nid oeddwn erioed wedi meddwl am ddychwelyd i astudio cyn hyn gan fy mod yn meddwl nad oedd llawer o gefnogaeth, yn emosiynol ac yn ariannol, i fyfyrwyr aeddfed â phlant, ond roeddwn yn anghywir am hynny.
“Anfonais e-bost at Dr Paul Webster a drefnodd gyfarfod gyda fi. Chwe wythnos ar ôl i mi gysylltu, roeddwn yn fy ngwers ar-lein gyntaf mewn 16 mlynedd a diolch i Paul oedd hyn. Ar ôl cwblhau’r llwybr, cofrestrais ym Mhrifysgol Caerdydd i astudio BA mewn Hanes yr Henfyd ac Archaeoleg. Penderfynais yn fy ail flwyddyn i newid i'r BSc mewn Archaeoleg. Mae’r Llwybr wedi newid sut yr wyf yn edrych nid yn unig ar y gorffennol, ond sut yr wyf yn edrych ar fy nyfodol ac rwyf yn gyffrous iawn wrth symud ymlaen.
“Mae lefel y gefnogaeth y tu mewn a thu allan i’r ystafell ddosbarth wedi rhagori fy holl ddisgwyliadau. Un o'r prif bryderon oedd yr ofn na fyddai cefnogaeth. Fodd bynnag, roedd Paul a’r tîm o ddarlithwyr yn wych gyda’u hanogaeth a’u cyngor.”
Hoffai Scott helpu eraill i ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth:
“Peidiwch ag edrych ar brifysgol neu'r Llwybr yn yr un ffordd ag ysgol. Bûm yn cael trafferth yn yr ysgol am wahanol resymau, fy nghreadigaeth fy hun yn bennaf, serch hynny rwyf nawr yn y brifysgol ac rwy'n rhagori ar rywbeth yr wyf yn hynod angerddol yn ei gylch. Bydd eich tiwtoriaid yno i'ch cefnogi. Maent yn hynod groesawgar ac addysgiadol.
“Newidiodd y Llwybr fy mywyd yn llwyr”
Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan stori Scott, mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.