Athro Regius yn cael ei ethol yn Gymrawd Anrhydeddus o Gymdeithas Gemegol Tsieina
14 Tachwedd 2023
Mae’r Athro Graham Hutchings CBE FREng FRS wedi’i ethol yn Gymrawd Anrhydeddus y Gymdeithas Cemegol Tsieineaidd (CCS) i gydnabod ei “gyfraniadau sylweddol i ddatblygiad cemeg”.
Mae'r Athro Hutchings, arbenigwr rhyngwladol yn catalyddu, wedi derbyn yr anrhydedd uchaf y mae'r CCS yn ei rhoi i unigolyn.
Sefydlodd yr Athro Hutchings y Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) byd-enwog, ac arweiniodd ei ymchwil at ddull glanach o gynhyrchu polyfinyl clorid gan ddefnyddio aur yn gatalydd yn hytrach na mercwri sy’n niweidiol. Roedd hyn yn naid fawr ymlaen, a arweiniodd at ddiwydiannau cemegol ledled y byd yn gwneud mwy i warchod yr amgylchedd.
Mae ei waith gyda phartneriaid rhyngwladol blaenllaw mewn meysydd megis y diwydiannau modurol, tanwydd a gweithgynhyrchu cemegol wedi helpu i drosi ymchwil at ddefnydd peirianneg gemegol ledled y byd.
Y Gymdeithas Cemegol Tsieineaidd yw academi genedlaethol Tsieina ar gyfer prif gemegwyr, gyda dim ond deg Cymrodoriaeth Ryngwladol yn cael eu dyfarnu bob blwyddyn.
Dywedodd yr Athro Hutchings: “Mae cael cydnabyddiaeth i'm hymchwil fel hyn yn anrhydedd fawr. Dros y blynyddoedd rwyf wedi sefydlu cysylltiadau agos gyda grwpiau ymchwil Tsieineaidd ac edrychaf ymlaen at weld fy ymchwil ar y cyd yn parhau yn y dyfodol”.
Dywedodd yr Athro Lijun Wan, Llywydd CCS, yn y llythyr penodi: “Mae derbyn y Gymrodoriaeth er Anrhydedd yn anrhydedd sy’n cydnabod enw da academaidd rhyngwladol yr Athro Hutchings. Mae hefyd yn gydnabyddiaeth fawreddog o’i gyfraniad amlwg i gemeg yn Tsieina”.
Daw’r anrhydedd hon yn sgil penodiad diweddar yr Athro Hutchings yn Gymrawd yr Academi Beirianneg Frenhinol, academi peirianneg genedlaethol y DU. Mae hefyd yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol a dyfarnwyd CBE iddo yn 2018 am ei ymchwil arloesol i gatalysis heterogenaidd.
Mae’r CCI yn rhan o Ganolfan Ymchwil Drosi flaenllaw Prifysgol Caerdydd – gan ddod â byd diwydiant a gwyddonwyr at ei gilydd i ddatrys heriau byd-eang cymhleth – ac mae’n gartref i Ganolfan Max Planck newydd y Brifysgol er Hanfodion Catalysis Heterogenaidd (FUNCAT).