Dewch i gwrdd â Phennaeth newydd ein Hysgol
7 Tachwedd 2023
Yr Athro Haley Gomez MBE yn Bennaeth newydd yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth.
Mae’r Athro Gomez wedi bod yn rhan o gymuned Prifysgol Caerdydd ers dros ugain mlynedd. Ar ôl graddio gydag MPhys Astroffiseg yn 2001, aeth ymlaen i wneud PhD o dan oruchwyliaeth yr Athro Mike Edmunds a’r Athro Steve Eales. Dyfarnwyd gwobr y Gymdeithas Seryddiaeth Frenhinol iddi am y traethawd doethuriaeth orau yn 2004, ac ar ôl cymrodoriaeth ymchwil, daeth yn ddarlithydd yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn 2014 ac yn Athro yn 2015.
Mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar darddiad llwch cosmig yn y bydysawd, yn benodol, a yw ffrwydradau titanig o sêr enfawr yn gyfrifol am lygru galaethau â llwch.
Yn 2018, dyfarnwyd MBE i’r Athro Gomez am ei gwaith ymchwil ac ymgysylltu â’r cyhoedd, sy’n cynnwys gweithgareddau allgymorth i ysgolion, athrawon a’r cyhoedd.
Beth sbardunodd eich diddordeb mewn seryddiaeth?
Dwi wastad wedi caru seryddiaeth ers pan roeddwn i'n ifanc iawn. Roeddwn i eisiau astudio'r Bydysawd a chael gwybod am yr holl bethau nad ydym yn gwybod eto. Syrthiais mewn cariad â’r pwnc pan oeddwn yn gwneud fy mhynciau Safon Uwch, ac roedd gennyf athrawes mathemateg hynod gefnogol, a ddangosodd lyfr i mi am wyddonydd o’r enw Vera Rubin – hi oedd un o’r bobl gyntaf i ddarganfod mater tywyll ac, o’r eiliad honno, roeddwn i wedi gwirioni.
Allwch chi grynhoi eich gwaith ymchwil yn gryno?
Rwy'n ceisio deall tarddiad llwch cosmig – y gronynnau bach, solet yn y gofod sy'n gallu clystyru i ffurfio grawn llwch anferth sydd, yn y bôn, yn blanedau creigiog. Mae cwestiynu tarddiad llwch yn golygu ymchwilio i darddiad y Ddaear a bywyd ei hun. Rwy'n awyddus iawn i ddarganfod pryd daeth y grawn llwch hyn i’r olwg gyntaf yn y Bydysawd, oherwydd bydd hynny'n ein helpu i ddarganfod pryd y crëwyd y planedau cyntaf. Felly, rwy'n defnyddio telesgopau gofod a thelesgopau ar y ddaear i geisio ateb y cwestiwn sylfaenol hwnnw.
Yn ogystal â gwaith ymchwil ac addysgu, rydych wedi cael sawl rôl ymgysylltu â'r cyhoedd (yn y Brifysgol a’r tu allan iddi). Pam mae hyn yn bwysig ichi?
Rwy’n meddwl ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod ni, fel gwyddonwyr, yn ymgysylltu â’n cymunedau. Fel rhywun a ddaeth o gefndir economaidd-gymdeithasol isel ac sy’n rhan o grŵp lleiafrifol, yn astudio ffiseg yn gyntaf ac yna, yn ddiweddarach, yn gweithio yn y byd academaidd, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn mynd allan a siarad â’r gymuned ac ymgysylltu â nhw.
Y neges rydw i'n ceisio ei chyfleu yw y gall ffisegwyr fod yn fenywaidd – y gall unrhyw un fod yn ffisegydd os ydyn nhw eisiau. Ni ddylai fod unrhyw rwystrau i unrhyw un sy'n astudio ffiseg. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig i rywun fel fi, sy’n ddigon ffodus i fod wedi dod yn ffisegydd ac yn academydd, i ymgysylltu â’n cymuned ac yn enwedig i helpu plant ysgol i wireddu eu potensial.
Pwy sy'n eich ysbrydoli?
Mae'r seryddwr benywaidd enwog Vera Rubin yn un o'r bobl sy'n fy ysbrydoli fwyaf. Roedd darllen amdani fel plentyn yn gwneud i mi sylweddoli pa mor arloesol oedd hi – doedd dim hyd yn oed toiledau merched yn yr athrofa lle’r oedd hi’n gweithio. Dwi’n cofio meddwl mod i eisiau gwneud beth wnaeth hi a darganfod rhywbeth newydd sbon am y Bydysawd.
Rwyf hefyd wedi fy ysbrydoli gan fy nghydweithwyr yma yng Nghaerdydd. Rwy'n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a gefais gan bob un o'm cydweithwyr, ond yn arbennig fy nghydweithwyr benywaidd sydd wedi bod yn esiamplau arbennig i mi. Rwy'n cael fy ysbrydoli'n fawr gan y pethau anhygoel maen nhw'n eu gwneud bob dydd ac rwy'n teimlo'n ffodus iawn i weithio gyda nhw.
Beth sy'n bwysig i chi yn eich rôl fel Pennaeth Ysgol, a beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni?
I mi, un o’r pethau pwysig fel Pennaeth Ysgol yw dod â phobl at ei gilydd – symud ymlaen o’r pandemig a’r cyfyngiadau symud a cheisio cael ein hymdeimlad o gymuned yn ôl. Rwyf am gefnogi holl staff ein Hysgol i gyrraedd eu potensial. Mae gennym ni gymaint o bethau gwych yn digwydd ym maes Ffiseg a Seryddiaeth ac rydw i eisiau adeiladu ar hynny a chefnogi staff i allu sylweddoli'r pethau gwych maen nhw'n ceisio eu gwneud – fy ngwaith i yw eu helpu i fod yn wych. Yr hyn yr hoffwn ei gyflawni fel Pennaeth yr Ysgol yw gwneud yn siŵr bod ein staff yn hapus ac yn gallu gwneud eu gwaith gorau.
A oes unrhyw beth yr hoffech ei rannu gyda'n myfyrwyr ffiseg a seryddiaeth?
Mae ein myfyrwyr wedi bod trwy lawer, ac yn dal i fynd trwy lawer gyda phopeth sy’n digwydd ledled y byd. Yr hyn rwyf am ei ddweud wrth ein myfyrwyr yw ein bod ni yma i chi, ac fel rhan o’n cymuned, byddwn yn gwneud ein gorau i’ch cefnogi – i’ch helpu i ddysgu, i’ch helpu i dyfu yn eich gyrfa, yn eich sgiliau cymdeithasol a sgiliau trosglwyddadwy. Felly, siaradwch â ni oherwydd rydych chi’n bwysig i ni!
Gwyliwch gyfweliad yr Athro Gomez ar YouTube.