Mae Prifysgol Caerdydd a Siemens Healthineers wedi creu cynghrair strategol
26 Hydref 2023
Mae Prifysgol Caerdydd a Siemens Healthineers wedi ymrwymo i bartneriaeth strategol i ddatblygu technolegau meddygol uwch, gan ganolbwyntio ar ddelweddu a diagnosteg in vitro.
Mae'r gynghrair yn ffrwyth cydweithio am ddeng mlynedd rhwng y cwmni atebion gofal iechyd byd-eang a'r Brifysgol, gan gefnogi arloesi ym maes ymchwil ddelweddu o'r radd flaenaf a diagnosteg fanwl gywir.
Dyma a ddywedodd yr Athro Ian Weeks, Rhag Is-ganghellor a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd: “Bydd y cydweithio unigryw hwn yn gweddnewid y ffordd rydyn ni’n defnyddio ein harbenigedd ar y cyd ym maes delweddu, diagnosteg y labordy clinigol a gwyddor data i ddatblygu dulliau diagnostig integredig i allu gwneud diagnosis a thrin afiechyd yn gynt ac yn fwy manwl gywir. Mae’r bartneriaeth wedi ymrwymo i’r ymdrech fyd-eang i newid bywydau a phrofiad y rheini y mae angen ymyraethau gofal iechyd arnyn nhw, a hynny mewn ffordd gadarnhaol.”
Mae Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) wrth galon y bartneriaeth, ac mae’n cyfuno technoleg cyseiniant magnetig (MR) Siemens Healthineers ag arbenigedd blaenllaw Prifysgol Caerdydd ym maes mapio’r ymennydd ac arloesi clinigol.
Bydd y partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i fanteisio ar datblygiadau arloesol ym maes caledwedd MR, modelu bioffisegol a strategaethau caffael MR gan ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial i ddatblygu protocolau caffael hynod effeithlon i ddal 'olion bysedd' hynod gymhleth microstrwythurau yn y meinwe yng nghyd-destun iechyd, prosesau datblygiadol, heneiddio, a chyflyrau amrywiol clefydau. Bydd hyn yn trawsnewid y ddealltwriaeth o systemau biolegol cymhleth a bydd modd rhoi diagnosis a thrin cyflyrau niwrolegol a seiciatrig megis dementia, epilepsi, sglerosis ymledol a sgitsoffrenia yn gynharach.
Ar ben hynny, bydd cyfuno dulliau dadansoddi delweddu a biocemegol yn cynnig ffyrdd arloesol o roi diagnosis a thrin cyflyrau eraill gan gynnwys canser a chlefydau sy'n gysylltiedig â haint ac imiwnedd.
Dyma a ddywedodd Cyfarwyddwr CUBRIC, yr Athro Derek Jones: “Rwy wrth fy modd ein bod yn ffurfioli ein cydweithredu hirsefydlog gyda Siemens Healthineers - gweithgynhyrchwr offer MR sy’n arwain y byd.
“Drwy gydweithio’n agosach ar amcanion a rennir, byddwn yn gwthio ffiniau’r hyn y gellir ei gyflawni ym maes delweddu cyseiniant magnetig, yn enwedig ym meysydd delweddu microstrwythurol, caledwedd y genhedlaeth nesaf a democrateiddio MRI – bydd hyn yn rhoi mynediad o bell i genhedloedd llai cefnog i’n sganwyr pen ucha’r farchnad a’r holl ddata y maen nhw’n ei greu.”
Mae gan Siemens Healthineers bresenoldeb o bwys yng Nghymru a’r llynedd dathlodd 30 mlynedd o’i adeilad yn Llanberis drwy lansio canolfan ragoriaeth newydd ym maes technoleg gofal iechyd gyda chymorth Llywodraeth Cymru, gan ganolbwyntio ar ymchwil, datblygu a gweithgynhyrchu.
Mae cyfleusterau ymchwil CUBRIC yn cynnwys system MRI 3 Tesla MAGNETOM Skyra Connectom gan Siemens Healthineers, sganiwr MRI wedi'i addasu'n arbennig sydd â chryfder graddiant heb ei ail, a dim ond pedwar o'r rhain sydd yn y byd.
Wrth groesawu’r bartneriaeth strategol, dyma a ddywedodd Dr Craig Buckley, Pennaeth Ymchwil a Chydweithredu Gwyddonol, Siemens Healthineers Prydain Fawr ac Iwerddon: “Y bartneriaeth strategol hon rhwng Canolfan Delweddu Ymchwil yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd a Siemens Healthineers yw’r cam nesaf tuag at gyflawni ein gweledigaeth gyffredin, sef y bydd y broses o roi diagnosis yn fwy cynnil, bydd triniaethau’n fwy manwl gywir a bydd gofal iechyd yn fwy cynaliadwy. Gan ddefnyddio fflyd o systemau MRI a gefnogir gan wyddonwyr Siemens Healthineers, mae'r bartneriaeth ar fin gallu sicrhau datblygiadau ym maes ymchwil delweddu microstrwythurol ymhlith meysydd cyffrous eraill sy’n ymwneud â delweddu a meddygaeth fanwl. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n gweithio i hwyluso mynediad agored i ofal, gan rymuso tegwch iechyd.”
Mae'r bartneriaeth hefyd yn ychwanegu at y prosiectau cydweithio presennol ym maes diagnosteg y labordy clinigol. Mae CUBRIC eisoes wedi croesawu un gwyddonydd ar y safle o Siemens Healthineers, gan ddatblygu prosiectau ar y cyd ag ymchwilwyr CUBRIC i greu newidiadau sylweddol ym maes technoleg ddelweddu. Mae CUBRIC eisoes wedi defnyddio dylanwad technoleg ddelweddu Siemens Healthineers i sicrhau incwm grant o fwy na £54.5 miliwn.
Bydd y bartneriaeth yn cefnogi amcanion Siemens Healthineers ym maes ymchwil a datblygu, talent, sgiliau, amrywiaeth a chyfrifoldeb dinesig a chymdeithasol. Gan gynnull partneriaid eraill o Gaerdydd, gan gynnwys y GIG, ei nod ywgrymuso darparwyr gofal iechyd i sicrhau canlyniadau gwell i gleifion am gost is, a hynny drwy ehangu meddygaeth fanwl gywir, gwella profiad cleifion, a digideiddio gofal iechyd.