Rhestr o Haneswyr Anrhydeddus
19 Hydref 2023
Darllenydd mewn Hanes ac Athro Cadwraeth yw’r aelodau diweddaraf yn rhestr nodedig Cymrodyr y Gymdeithas Hanes Frenhinol
Y Darllenydd Hanes Dr Padma Anagol a’r Athro Cadwraeth Jane Henderson yw academyddion diweddaraf Prifysgol Caerdydd i fod yn Gymrodyr y Gymdeithas.
Mae mwy na dwsin o haneswyr yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd hefyd yn Gymrodyr y Gymdeithas.
Arbenigwr ar hanes India yw Dr Padma Anagol, awdur Emergence of Feminism in India,1850-1920 Mae ei chyhoeddiadau niferus yn cynnwys y casgliad beirniadol a gyd-olygwyd, Rethinking Gender and Justice in South Asia, 1772-2013 ac yn fwyaf diweddar Mapping Women's History: Recovery, Resistance and Activism in Colonial and Postcolonial India. Yn un o olygyddion sylfaenol y cyfnodolyn Cultural and Social History, mae Dr Anagol yn credu’n gryf mewn lledaenu hanes ac oherwydd hynny derbyniodd rôl cynghorydd ar BBC History Magazine am 17 mlynedd a hi oedd Ymgynghorydd Asia Sefydliad yr International Baccalaureate Organization. Mae Padma ar fwrdd golygyddol Women's History Review; South Asia Research, Asian Literatures in Translation ac yn aelod o'r rhwydwaith ymchwil Asia-Africa Cluster yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.
Enillydd y fedal Plowden yn 2021, Yr Athro Jane Henderson (BSc, MSc, PACR, FIIC ) yw Ysgrifennydd Cyffredinol y Sefydliad Rhyngwladol dros Gadwraeth ac mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar ffyrdd y gall cadwraeth treftadaeth gynnal egwyddorion a gwneud penderfyniadau mwy cynhwysol ac ymatebol, megis Disruptive conservation in the material transmission of past to future, Beyond lifetimes: who do we exclude when we keep things for the future? a Touch Decisions for heritage objects. Mae y gynfyfyrwraig Jane (BSc 1987, MSc 2000) wedi cwblhau gwaith yn ddiweddar i gefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi fapio statws amgueddfeydd Cymru. A hithau’n aelod o fwrdd ymddiriedolwyr Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru, ICOM UK a phanel Adolygu Cronfa Amgueddfeydd ac Orielau Addysg Uwch, mae Jane hefyd yn aelod o gorff safonau Ewropeaidd CENTC 346 WG11 ac yn gadeirydd grŵp safonau BSI B/560 sy'n ymwneud â chadwraeth treftadaeth Ddiwylliannol Diriaethol.
Mae cymrodoriaeth yn agored i bawb y mae eu hymchwil yn gwneud cyfraniad ysgolheigaidd at wybodaeth hanesyddol, a bydd carfan 2023 yn cynnwys nifer o haneswyr sy'n gweithio mewn disgyblaethau tebyg ym maes addysg uwch megis Archaeoleg, yr Amgylchedd Adeiledig, Hanes Celf, Astudiaethau Amgueddfaol, Cerddoleg, Athroniaeth a Diwinyddiaeth.
Y Gymdeithas Hanes Frenhinol, a sefydlwyd ym 1868, yw sefydliad mwyaf y DU o rhan nifer yr aelodau i haneswyr o bob math ac mae'n meithrin cymuned ryngwladol o haneswyr, ac yn y garfan ddiweddaraf mae Cymrodyr o 11 o wledydd mor bell i ffwrdd ag Awstralia a'r Unol Daleithiau.