Gwobr T. S. Eliot 2023
18 Hydref 2023
Bardd a darlithydd ym maes Ysgrifennu Creadigol ar y rhestr fer ar gyfer y wobr fawreddog
Mae Abigail Parry sy’n ddarlithydd ym maes Ysgrifennu Creadigol yn Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth wedi cael ei henwi ar restr fer gwobr T.S. Eliot 2023, gwobr sydd yn 30 oed eleni, a hynny am ei hail gasgliad I Think We're Alone Now.
Cyrhaeddodd casgliad cyntaf Abigail Parry, Jinx (Bloodaxe Books, 2018), restr fer y Forward Prize ar gyfer y Casgliad Cyntaf Gorau a Gwobr Seamus Heaney ar gyfer y Casgliad Cyntaf Gorau, ac roedd yn un o Lyfrau’r Flwyddyn yn y New Statesman, The Telegraph a’r Morning Star. Mae hi wedi ennill nifer o wobrau a chydnabyddiaethau am ei gwaith, gan gynnwys Gwobr Ballymaloe a Gwobr Eric Gregory.
Dewiswyd y rhestr gan y beirniaid Paul Muldoon, Sasha Dugdale a Denise Saul o blith 186 casgliad o farddoniaeth a gyflwynwyd gan gyhoeddwyr Prydain ac Iwerddon, ac ymhlith y casgliadau ar y rhestr mae dau gasgliad cyntaf, dau ail gasgliad, cyn-enillydd a dau fardd sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn flaenorol.
Wedi’i threfnu gan Sefydliad T.S. Eliot, Gwobr T.S Eliot yw'r wobr fwyaf ei maint ym maes barddoniaeth Brydeinig, gyda gwobr o £25,000, a £1,500 i feirdd ar y rhestr fer. Mae'r panel beirniadu yn chwilio am y casgliad o farddoniaeth newydd gorau yn y Saesneg sydd wedi’i chyhoeddi yn y DU neu Iwerddon. Dyma'r unig brif wobr barddoniaeth sydd yn cael ei beirniadu gan feirdd sefydledig yn unig.
Dywedodd Cadeirydd y beirniaid Paul Muldoon:
“Rydym yn hyderus bod pob un o'r deg teitl ar y rhestr fer nid yn unig yn bodloni'r safonau uchel y maent yn eu gosod ar eu cyfer eu hunain ond yn trin a thrafod y moment dan sylw ac yn ymateb iddo, yn y modd mwyaf effeithiol. Os oes un gair sy’n gysylltiedig â’r moment hwn 'rhwygiadau' yw hwnnw, ac mae pob un o’r beirdd hyn yn adlewyrchu'r rhwygo hwn yn ddi-os. Mae delweddau o alar, ymfudo, a gwrthdaro wedi’u gwau drwy’r gweithiau hyn, ond maent serch hynny yn gasgliadau llawn egni a llawenydd hefyd. Bydd enwau rhai beirdd yn gyfarwydd, eraill yn llai felly; bydd pob un yn mynnu lle yn eich meddwl a'ch calon.”
Rhestr Fer Gwobr T. S. Eliot 2023
Mae’r deg bardd sydd ar y rhestr fer yn hanu o'r DU, Iwerddon, Jamaica, Hong Kong ac UDA:
Jason Allen-Paisant, Self-Portrait as Othello (Carcanet Press)
Joe Carrick-Varty, More Sky (Carcanet Press)
Jane Clarke, A Change in the Air (Bloodaxe Books)
Kit Fan, The Ink Cloud Reader (Carcanet Press)
Katie Farris, Standing in the Forest of Being Alive (Pavilion Poetry / Liverpool University Press)
Ishion Hutchinson, School of Instructions (Faber & Faber)
Fran Lock, Hyena! (Poetry Bus Press)
Eiléan Ní Chuilleanáin, The Map of the World (Gallery Press)
Sharon Olds, Balladz (Cape Poetry)
Abigail Parry, I Think We’re Alone Now (Bloodaxe Books)
Cyhoeddir enw enillydd Gwobr T.S. Eliot 2023 yn Neuadd Ŵyl Frenhinol Canolfan Southbank ar 15 Ionawr 2024, yn dilyn Darlleniadau oddi ar y Rhestr Fer ar 14 Ionawr.
Mae I Think We're Alone Now gan Abigail Parry wedi’i gyhoeddi gan Bloodaxe Books.