All time high for Cardiff entries to Mandarin language competition
18 Hydref 2023
Yr haf hwn, ymgeisiodd y nifer uchaf erioed o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ac ysgolion Athrofa Confucius i fod yng nghystadleuaeth Mandarin fyd-enwog y ‘Bont Tsieinëeg’.
Fe wnaeth chwe ysgol gofrestru 57 o ddisgyblion i gystadlu yn y cystadlaethau cynradd ac uwchradd, sef deg gwaith yn fwy na 2022! Gyda chefnogaeth tiwtoriaid Sefydliad Confucius Caerdydd, cofrestrodd yr Ysgol Ieithoedd Modern hefyd bedwar o'i hisraddedigion BA Tsieinëeg. Llwyddodd 20 o ddisgyblion cynradd ac un disgybl uwchradd i gyrraedd y rowndiau terfynol, ynghyd â thri myfyriwr o Brifysgol Caerdydd.
Fe gamodd Cymru i’r brig eleni, ar ôl i Lily Braden, myfyrwraig breifat yn Sefydliad Confucius Bangor o Ymddiriedolaeth Ysgol St Gerard's ennill categori dechreuwyr unigol y gystadleuaeth i ddisgyblion Ysgol Uwchradd. Sefydliad Confucius Bangor yw ein partner ym Mhrosiect Ysgolion Cymru Tsieina, a gallwch ddarllen rhagor am fuddugoliaeth Lily ar eu gwefan.
Mae’r Bont Tsieinëeg yn gystadleuaeth a drefnir gan Ganolfan Addysg a Chydweithrediad Ieithyddol (CLEC) y DU, ac a gefnogir gan y Cyngor Prydeinig. Dywedodd y trefnydd Christina Zhang o CLEC UK:
“…cafwyd y nifer fwyaf o geisiadau erioed ers lansio’r digwyddiad yn 2021 yn y gystadleuaeth eleni ac roedd safon y cyflwyniadau unigol a grŵp yn y rownd derfynol yn wych. Bydd yn ysbrydoliaeth wych i annog addysgu a dysgu Mandarin ymhellach mewn ysgolion cynradd ledled y wlad.”
Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Gynradd Maes Y Coed ac Ysgol Gynradd Sili, Ysgol Garth Olwg, Ysgol Eirias, Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ac Ysgol Aberconwy am wneud mor dda yn y cystadlaethau. Rhown gymeradwyaeth hefyd i Guilhermina Mendes, Isaac Yehia, Isabelle Watt a Benjamin Miller o Brifysgol Caerdydd, a gystadlodd yn frwd yn ail gystadleuaeth ar hugain Hyfedredd y Bont Tsieinëeg eleni.
Yn olaf, hoffem ddiolch yn arbennig i diwtoriaid Sefydliad Confucius Caerdydd Wei Tang, Zigeng He, Zhang Qi, Xueting Lei, Yongping Fu, Miao Zhang, Hao Kun a Shiyi Deng a helpodd y myfyrwyr i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth. Llongyfarchiadau i bawb!