Cyn-fyfyrwyr ysbrydoledig yn disgleirio mewn seremoni wobrwyo
6 Hydref 2023
Enwyd dau gyn-fyfyriwr o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio yn enillwyr ail Seremoni Wobrwyo Cyn-fyfyrwyr Tua 30.
RoeddAleena Khan (BSc 2020, MSc 2023) ac Andrea San Gil León (MSc 2016) ymhlith yr enillwyr mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd gan Lywydd ac Is-Ganghellor newydd Prifysgol Caerdydd, yr Athro Wendy Larner ac a oedd yn cynnwys Meistr y Defodau Matt Barbet (BA 1997, PgDip 1999) yn adeilad arloesol sbarc | spark y Brifysgol ar 5 Hydref.
Gan osgoi fformat rhestrau traddodiadol '30 o dan 30', bwriad y gwobrau hyn yw cydnabod y rheini sy'n ysgogi newidiadau, yr arloeswyr a'r sawl sy'n torri rheolau o blith cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd o dan neu dros 30 oed, ond sy'n teimlo eu bod (tua) 30 oed.
Cydnabuwyd dau o raddedigion yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio yn y categori Ymgyrchydd Amgylcheddol.
Aleena Khan yw’r comisiynydd ieuengaf ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC). Mae Aleena yn gyd-arweinydd prosiect Ynni Adnewyddadwy CSCC a chadeirydd Grŵp Cynghori'r Prosiect, y Sefydliad Siartredig Trafnidiaeth a Phriffyrdd [Cymru] - arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Ar hyn o bryd mae Aleena’n Gynllunydd Trafnidiaeth Graddedig yn Atkins, lle mae’n gyd-arweinydd ar ‘Fforwm Gyrfaoedd Ifanc Trafnidiaeth y DU ac Ewrop’ Atkins, ac yn aelod o ‘Fforwm Arweinwyr Graddedigion y DU ac Ewrop’.
Arbenigwr rhyngwladol ac arweinydd y meddwl ym maes cynaliadwyedd, dinasoedd a thrafnidiaeth yw Andrea San Gil León. Ymhlith anrhydeddau Andrea mae cael ei henwi’n un o 40 Prif Arweinydd Costa Rica o dan 40 gan bapur newyddion ‘El Financiero’. Hi yw un o Lunwyr Byd-eang Fforwm Economaidd y Byd, un o ffigurau benywaidd pwysig LATAM ym maes trafnidiaeth gan y Banc Datblygu Rhyng-Americanaidd, a chafodd ei henwi’n un o’r Lleisiau Ffeministiaid Rhyfeddol ym maes Trafnidiaeth yn 2023 gan y Fenter Trawsnewid Symudedd Trefol (TUMI).
Enillodd Aleena Khan hefyd wobr cydnabyddiaeth arbennig Ymgyrchydd Amgylcheddol, a gyflwynwyd gan Wir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Bablin Molik (BSc 2001, PhD 2008, TAR 2014).
Roedd 23 o gyn-fyfyrwyr y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ymhlith y rhestr hynod ddisglair o enillwyr, gan amlygu amrywiaeth y llwybrau gyrfaol y bydd graddedigion dyniaethau Prifysgol Caerdydd yn eu dilyn.
Llongyfarchiadau i'r holl gyn-fyfyrwyr ysbrydoledig a gafodd gydnabyddiaeth yn rhestr Gwobrau Cyn-fyfyrwyr Tua 30 eleni.