Daeth incymau uchel yn fwy derbyniol i’r gweithwyr ar y cyflogau isaf yn sgîl cyflwyno’r isafswm cyflog yn y DU, yn ôl astudiaeth
19 Hydref 2023
Bu i weithwyr a elwodd o’r newid polisi gan lywodraeth Lafur ar isafswm cyflog fynd yn fwy goddefgar tuag at incymau uchel ac yn fwy tueddol o bleidleisio dros y Blaid Geidwadol.
Defnyddiodd academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd ddata o Arolwg Panel Aelwydydd Prydain (BHPS) i gymharu barn gweithwyr a’u bwriad pleidleisio cyn ac ar ôl cyflwyno’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, a ddaeth i rym ym 1999.
Mae'r canlyniadau, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn European Economic Review, yn dangos bod y tebygolrwydd o oddef incymau uchel yn codi 11% ymhlith y sawl sydd yn elwa yn sgîl cyflwyno’r isafswm cyflog.
Mae’r dadansoddiad hefyd yn dangos bod y rheini sydd wedi elwa yn sgîl cyflwyno’r isafswm cyflog cenedlaethol yn fwy tebygol o bleidleisio dros y Blaid Geidwadol, sef 8.4% yn fwy.
Dyma a ddywedodd Dr Tommaso Reggiani o Ysgol Busnes Caerdydd: “Roedden ni eisiau darganfod a allai’r isafswm cyflog fod yn bolisi a fyddai’n creu byd, sef llawer o weithwyr yn ennill ychydig o arian ac ychydig o weithwyr yn ennill llawer, sy’n fwy derbyniol i bobl. Mae ein hastudiaeth yn awgrymu bod hyn yn wir.
“Mae’r canlyniadau rydyn ni’n eu canfod yn bendant yn mynd yn erbyn greddf: er mai nod polisi isafswm cyflog yw lleihau anghydraddoldeb, mae’r gweithwyr sy’n elwa o gyflwyno’r isafswm cyflog ar waelod y raddfa dyrannu cyflogau o hyd a gallai’r rheini elwa yn sgîl cyflwyno polisïau ail-ddyrannu. Hefyd, pam newid eich pleidlais, sef pleidleisio dros y Blaid Geidwadol sydd fel arfer yn mabwysiadu polisïau mwy rhyddfrydol?
“Hwyrach mai esboniad posibl am y canlyniadau hyn ar yr olwg gyntaf yw eu bod o natur 'dechnegol'. Er enghraifft, efallai bod yr isafswm cyflog wedi lleihau anghydraddoldeb o ran cyflog ac o ganlyniad mae’r sawl sy’n derbyn yr isafswm cyflog wedi mynd yn fwy goddefgar. Yn ein dadansoddiad rydym yn ceisio deall a yw hwn yn esboniad posibl, ond nid yw hynny’n wir. Yn ystod y cyfnod ymchwilio, ychydig iawn o effaith a gafodd cyflwyno’r isafswm cyflog yn y DU ar anghydraddoldeb cyflogau a hyd yn oed wrth reoli ar gyfer y ffactor olaf hwn mae ein canlyniadau’n parhau i ddod i’r amlwg.
“Yn gyffredinol, mae ein hastudiaeth yn dangos y gall lleihau pa mor fregus yw gweithwyr newid safbwyntiau’r gweithwyr hynny ar incwm isel ynglŷn â’r gweithle. Weithiau, bydd rhoi cyd-destun clir i weithwyr gyfeirio ato ynghylch cyflogau, sy’n cael ei ystyried yn ‘deg’, yn lleddfu pryderon ynghylch y mathau posibl o anghydraddoldeb sy’n cael eu creu gan y farchnad rydd.”
Roedd cyflwyno'r isafswm cyflog yn un o bwyntiau allweddol rhaglen etholiadol Tony Blair yn etholiad cyffredinol 1997. Ym mis Ebrill 1999, ddwy flynedd wedi’r etholiad a enillwyd gan Lafur, daeth yr isafswm cyflog i rym yn y Deyrnas Unedig. Pennwyd yr isafswm cyflog fesul awr yn £3.60 i weithwyr dros 22, a £3 i weithwyr rhwng 18 a 22 oed. Heddiw, isafswm cyflog y DU ar gyfer gweithwyr 23 oed ac yn hŷn yw £10.42, sy’n golygu ei fod yn un o’r rhai mwyaf hael yn y byd.
Arolwg hydredol sy'n seiliedig ar sampl gynrychioliadol o boblogaeth Prydain yw Arolwg Panel Aelwydydd Prydain (BHPS). Dechreuodd ym 1991 ac er iddo gael ei lunio i ddechrau i fod yn banel bywyd penagored, daeth i ben yn 2008 pan gymerodd arolwg newydd ei le. Mae'r BHPS yn cyfweld â holl aelodau parhaol yr aelwyd wyneb yn wyneb. Mae'r holiadur yn casglu gwybodaeth ynghylch nodweddion economaidd, megis statws cyflogaeth, cyflog, nifer yr oriau gwaith ac agweddau a barn bersonol.