Lles gydol oes yw ffocws yr ŵyl sy’n dathlu effaith ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol
16 Hydref 2023
Mae Academyddion ar fin rhannu eu gwaith gyda chynulleidfaoedd newydd yn rhan o Ŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol eleni.
Mae Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau personol a rhithiol ledled Cymru. Mae'r ŵyl sy'n cael ei chynnal rhwng 21 Hydref a 17 Tachwedd yn canolbwyntio ar thema lles gydol oes wedi'i hysbrydoli gan ben-blwydd y GIG yn 75 oed.
Ymhlith yr uchafbwyntiau mae gweithdai celf i archwilio buddion nofio gwyllt, sesiwn ryngweithiol i gynyddu hygyrchedd i gerddoriaeth trwy Iaith Arwyddion Prydain (IAP), ac arddangosfa ffotograffau a sgwrs yn trafod anifeiliaid anwes a chŵn cymorth.
Bydd academyddion yn siarad â phobl ifanc mewn ysgolion yn ystod sesiynau sy'n ymdrin ag ystod amrywiol o bynciau gan gynnwys cyfraith iechyd a moeseg, byw gyda sychder a system fwyd Cymru.
Bydd trafodaeth banel gyhoeddus ar les gydol oes yng Nghymru a fydd yn dod ag arbenigwyr o Brifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor ynghyd.
Dywedodd yr Athro Claire Gorrara, Deon Ymchwil ac Arloesedd, Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol: “Mae'r ŵyl yn gyfle cyffrous i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o'r ymchwil ragorol yn y gwyddorau cymdeithasol sy'n mynd i'r afael â heriau lles ac iechyd. Mae ein hymchwil bwerus yn llywio datblygiad polisïau, gwasanaethau a dyfeisgarwch ac yn mynd i’r afael â heriau cymdeithasol mawr yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.”
Edrychwch ar ein rhaglen a gynhelir gan Brifysgol Caerdydd.
Dywed Stian Westlake, Cadeirydd Gweithredol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol: "Mae Gŵyl Gwyddorau Gymdeithasol ESRC yn cynnig cipolwg diddorol ar rai o brif ymchwil gwyddorau cymdeithasol y wlad a'i pherthnasedd i unigolion, y gymdeithas a'r economi. Mae’r ŵyl yn cynnig cannoedd o ddigwyddiadau am ddim ledled y DU, gan gynnwys ym Mhrifysgolion Caerdydd, Bangor ac Abertawe. Rydym yn gobeithio bydd y digwyddiadau'n ddiddorol ac yn ysbrydoli pobl.”
Cymrwch gip-olwg ar raglen Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol y DU yn ei chyfanrwydd yma.
Ariennir yr Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol sydd yn rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).