Gwrthdrawiad planedau mewn cysawd yr haul pell yn datgelu gwrthrych cosmolegol newydd
13 Hydref 2023
Am y tro cyntaf mae seryddwyr wedi sylwi ar wrthdrawiad dwy blaned iâ anferth mewn cysawd yr haul pell, proses maen nhw'n credu a ddigwyddodd i’r Ddaear pan oedd ond ychydig filiynau o flynyddoedd oed a arweiniodd at greu ein lleuad.
Mae’r tîm rhyngwladol, a oedd yn cynnwys arbenigwr o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd, yn dweud bod y gwrthdrawiad wedi datgelu nodweddion math newydd o wrthrych seryddol - synestia, sy’n cynnwys cwmwl o graig dawdd, wedi’i hanweddu sydd a siâp toesen.
Mae eu canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn Nature, wedi dangos bod y synestia yn datrys dirgelwch seren yn pylu’n annisgwyl, gan ddatgelu sut y digwyddodd y pylu ar ôl gwrthdrawiad rhwng dwy blaned yn cylchdroi’r seren bell.
Dechreuodd yr astudiaeth gyda rhybudd gan yr All-Sky Automated Survey for Supernovae (ASAS-SN) bod seren wedi pylu'n annisgwyl. Roedd y tîm yn amau bod hyn yn dod o blaned a oedd yn cylchdroi'r seren honno.
Dywedodd Dr Edward Gomez, un o gyd-awduron y papur a darlithydd anrhydeddus yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd: "Ar ôl y rhybudd, fe wnaethom benderfynu dreulio mwy o amser yn edrych ar y seren hon gyda rhwydwaith telesgop byd-eang Arsyllfa Las Cumbres (LCO). Datgelodd hyn fod golau’r seren yn pylu mewn ffordd gwbl annisgwyl."
Ychwanegodd prif awdur yr astudiaeth, Dr Matthew Kenworthy o Arsyllfa Leiden: "Yn wahanol i’r arfer, tynnodd seryddwr ar y cyfryngau cymdeithasol sylw at y ffaith bod y seren wedi goleuo yn yr isgoch dros fil o ddyddiau cyn i’r pylu ddigwydd. Roeddwn i'n gwybod bryd hynny fod hwn yn ddigwyddiad anarferol."
Mae'r tîm yn credu bod dwy blaned iâ y tu allan i’n cysawd yr haul wedi gwrthdaro â'i gilydd, gan greu'r golau isgoch a ddenodd sylw lloeren y Near Earth Object Wide Field Infrared Survey Explorer (NEOWISE). Yna symudodd y cwmwl malurion a oedd yn tyfu o'r gwrthdrawiad o flaen y seren dair blynedd yn ddiweddarach gan achosi i ddisgleirdeb y seren bylu ar donfeddi gweladwy.
Ychwanegodd Dr Gomez: "Mae rhoi’r ddwy ran yna o’r pos at ei gilydd wedi gwneud hwn yn ddarganfyddiad hynod ddiddorol."
Dros y blynyddoedd i ddod, bydd y cwmwl o lwch yn dechrau ymledu ar hyd cylchdro’r synestia, a bydd yn bosibl canfod golau o'r cwmwl hwn gyda thelesgopau ar y ddaear a Thelesgop Gofod James Webb.
Cymerwyd arsylwadau'r tîm gydag Arsyllfa Las Cumbres, sydd â'i hyb addysg yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd.
Cymerwyd y data archif o loeren NEOWISE a rhybudd gan ASAS-SN.
Mae'r papur, ‘A planetary collision afterglow and transit of the resultant debris cloud’, wedi'i gyhoeddi yn Nature.