Ysgol yn dathlu Cymrodorion Marie Skłodowska-Curie
11 Hydref 2023
Cafwyd digwyddiad arbennig yn yr Ysgol Ieithoedd Modern i ddathlu Cymrodyr Ôl-ddoethurol Marie Skłodowska-Curie yr ysgol.
Cynhaliwyd y digwyddiad ar 14 Medi 2023 i ddathlu gwaith Dr Angela Tarantini, Mr Francesco Chianese a Dr Joanna Chojnicka.
Roedd dau o'r cymrodyr yn bresennol yn y digwyddiad a chafwyd cyflwyniadau ar eu prosiectau ymchwil.
Y cyntaf i roi cyflwyniad oedd Dr Joanna Chojnicka. Siaradodd am ei phrosiect, ‘Trans in Translation: Multilingual practices and local/global gender and sexuality discourses in Polish transition narratives.’ Roedd y prosiect yn canolbwyntio ar iaith naratifau trosi rhywedd ar y cyfryngau cymdeithasol Pwylaidd, fel blogiau a YouTube, a rôl arferion amlieithog yn y naratifau hyn.
Wrth feddwl am ei chyfnod yng Nghymru, dywedodd Dr Chojnicka: "Gan fod gen i ddiddordeb hefyd mewn ieithoedd lleiafrifol ac adfywio iaith, roedd gallu treulio amser yng Nghymru yn werthfawr iawn i mi. Roeddwn i wedi dysgu Cymraeg cyn i mi hyd yn oed wybod y byddwn i'n derbyn y grant, felly roedd profi presenoldeb y Gymraeg mewn tirweddau ieithyddol a darganfod olion cymunedau Cymraeg yn rhoi boddhad mawr. Treuliais lawer o benwythnosau hefyd yn beicio o amgylch de Cymru ac yn ymweld â safleoedd hanesyddol. Mae'n lle hyfryd."
Rhoddodd Dr Angela Tarantini gyflwyniad hefyd ar ei phrosiect ymchwil sy'n canolbwyntio ar gerddoriaeth a ddehonglir mewn iaith arwyddo. Nod y prosiect, ‘When Accessibility Becomes Performance: Sign Language Interpreting in Music as Performative Rewriting,’ yw dadansoddi sut mae dehonglwyr-berfformwyr yn trosi cerddoriaeth i iaith arwyddo, gan greu ffurf ar gelfyddyd weledol, sy'n hygyrch i bobl f/Fyddar a thrwm eu clyw.
Dywedodd Dr Tarantini: "Mae cymrodoriaeth Marie Curie yn gyfle anhygoel i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, gan ei bod yn gymrodoriaeth ymchwil a hyfforddiant. Cefais gyfle i ddysgu BSL (Iaith Arwyddo Prydain), sicrhau ardystiad Rheoli Prosiect Agile, a chyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfathrebu a lledaenu ledled Ewrop."
Y trydydd cymrawd yn yr ysgol yw Dr Francesco Chianese a nod ei brosiect, 'Transit - Many Diasporas from One Transnational Italy,' yw ehangu'r cysyniad o 'Eidalrwydd' ac ymchwilio i esblygiad diwylliant Eidalaidd y tu allan i'r Eidal.
Dywedodd Dr Chianese: "Rwyf wedi mwynhau fy ngwaith a fy swyddfa ym Mhlas y Parc a lleoliadau'r campws yn Cathays. Y tu allan i'r campws, fe wnes i wir fwynhau gwead amlddiwylliannol ac amlieithog Caerdydd, ac o ystyried ffocws fy ymchwil, mwynheais grwydro ardaloedd lle mae'r gymuned amlddiwylliannol yn byw, fel Heol y Ddinas neu Grangetown."
Mae cymrodoriaethau ôl-ddoethurol Marie Skłodowska-Curie, sy'n cael eu hariannu gan y Comisiwn Ewropeaidd, yn caniatáu i ymchwilwyr weithio gyda'r brifysgol ar brosiectau ymchwil.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r cymrodyr wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil yn yr ysgol fel rhan o'u prosiectau a hefyd wedi cyflwyno gweithdai arbennig i fyfyrwyr yn yr Ysgol Ieithoedd Modern.
Dr Ruselle Meade yw Cyfarwyddwr Ymchwil yr Ysgol Ieithoedd Modern. Dywedodd: "Mae'r tri Chymrawd Marie Curie wedi gwneud cyfraniadau effeithiol i'r Ysgol a'i diwylliant ymchwil. Mae pob un wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau cydweithredol gyda chydweithwyr o bob rhan o'r Brifysgol, yn ogystal ag ymgysylltu gyda sefydliadau o'r gymuned ehangach yng Nghaerdydd a thu hwnt. Mae myfyrwyr hefyd wedi elwa o arbenigedd unigryw ein Cymrodyr drwy eu cyfranogiad mewn goruchwyliaeth ac addysgu. Cyfrannodd y cymrodyr drwy gyflwyno addysgu dan arweiniad ymchwil ar ein rhaglen MA Astudiaethau Cyfieithu a goruchwylio traethodau hir israddedig. Mae hyn yn golygu mai ein cymuned o fyfyrwyr yw un o fuddiolwyr mawr eu gweithgareddau ymchwil."
I gael rhagor o wybodaeth am Gymrodoriaethau Ôl-ddoethurol Marie Skłodowska-Curie, ewch i'n gwefan.