Caerdydd yn cefnogi effaith £1.3bn SETsquared
9 Hydref 2023
Mae adroddiad annibynnol gan Warwick Economics and Development yn amcangyfrif y bydd cwmnïau a gefnogir gan Raglen Uwchraddio SETsquared yn cyfrannu £1.3bn o GYC at economi’r DU rhwng 2018 a 2030.
Wedi’i sefydlu yn 2018, mae Rhaglen Uwchraddio SETsquared, yn cefnogi busnesau arloesol sy’n tyfu, i sicrhau buddsoddiad cyhoeddus a phreifat at ddibenion cydweithio ar ymchwil a datblygu (Y&D) gyda’i chwe phrifysgol bartner (Caerfaddon, Bryste, Caerdydd, Caerwysg, Southampton, a Surrey).
Yn ôl yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd ar gyfer Ymchwil, Arloesedd a Menter Prifysgol Caerdydd: “Mae'r rhaglen wedi chwarae rhan allweddol wrth greu cydweithrediadau busnes ac academaidd ychwanegol ar gyfer Prifysgol Caerdydd, gan helpu i ehangu effaith ei hymchwil flaenllaw. Yn benodol, mae'r Rhaglen Uwchraddio wedi cefnogi naw prosiect newydd sy’n cael eu hariannu; mae’r Brifysgol yn arwain ar y rhain gyda phartner BBaCh. Mae hyn wedi cynhyrchu £1.76 miliwn o gyllid ymchwil a datblygu cydweithredol.”
Yn gyffredinol, mae’r adroddiad yn amcangyfrif bod y Rhaglen Graddio wedi helpu:
- i godi £72m o gyllid ymchwil a datblygu cydweithredol ar gyfer cwmnïau sy’n aelodau o’r rhaglen Uwchraddio
- i godi £14.2m o gyllid cydweithredol ar gyfer prifysgolion partner SETsquared
- i sicrhau 111 o brosiectau sydd wedi’u hariannu, gan roi cyfradd llwyddiant o 35.5% o ran ennill grantiau, o gymharu â chyfradd llwyddiant gyfartalog o 10%
- cwmnïau i sicrhau buddsoddiad o £713m
- aelodau i fwy na dyblu niferoedd eu cyflogeion - gyda chynnydd o 260% rhwng 2018 a 2023 (o 300 cyflogai yn 2018 i 780 yn 2023).
Wedi'i hariannu gan Gronfa Connecting Capability Research England, bu i’r Rhaglen dyfu sylfaen aelodaeth o 450+ cwmni sy’n cael ei arwain gan arloesi, ledled y DU, a hynny dros ystod o sectorau allweddol, gan gynnwys arloesi digidol, iechyd a lles, peirianneg a gweithgynhyrchu uwch a'r amgylchedd, cynaliadwyedd, a’r sector morol a morwrol.
Am bob £1 o gyllid, yr adenillion ar fuddsoddiad y Rhaglen Uwchraddio yw £7.50.
Mae’r adroddiad yn seiliedig ar arolwg a gynhaliwyd gydag aelod-gwmnïau, sy’n dangos bod pedwar o bob 10 aelod-fusnes wedi dweud bod y rhaglen wedi’u helpu i sicrhau buddsoddiad rhwng 2018 a 2023. Mae cyfanswm nifer y gweithwyr ar draws aelod-fusnesau wedi mwy na dyblu, gyda chynnydd o 260% rhwng 2018 a 2023.
Meddai Karen Brooks, Pennaeth Rhaglen Uwchraddio, SETsquared: “Mae’r Rhaglen Uwchraddio wedi bod yn fodel hynod lwyddiannus o ran hwyluso cydweithrediadau ymchwil a datblygu rhwng prifysgolion a BBaChau y mae hi’n anos ymgysylltu â nhw. Mae wedi creu marchnad ddeinamig lle gall ymchwilwyr a chwmnïau ddod o hyd i'r partner iawn ar gyfer cydweithio; mae hyn o fudd mawr i'r ddwy ochr. Mae angen i academyddion ddangos effaith eu hymchwil, ac mae angen ymchwil safon prifysgol ar gwmnïau i ddatblygu a dilysu eu mentrau arloesol yn barhaus.”
Mae SETsquared yn parhau â’i gefnogaeth gref i fusnesau technoleg ddofn, gwyddoniaeth ac arloesi mewn nifer o sectorau, gan gynnwys iechyd a lles, Sero Net a phrosiectau digidol y genhedlaeth nesaf.
Lawrlwythwch yr Adroddiad llawn ar Effaith y Rhaglen Uwchraddio