Sefydliad Arloesi Sero Net yn cael ei lansio’n swyddogol
6 Hydref 2023
Mae Prifysgol Caerdydd wedi lansio sefydliad arloesi newydd sy'n helpu i lywio ein dyfodol cynaliadwy.
Gellir dadlau mai'r angen i leihau nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu creu gan bobl, a sicrhau allyriadau sero net, yw'r her fwyaf a'r mwyaf brys sy’n wynebu ein byd ers y chwyldro diwydiannol. Mae rhan o'r llwybr at allyriadau sero net wedi'i mapio, ond ar sail yr ymchwil ddiweddaraf, mae angen ehangu potensial ynni adnewyddadwy, lleihau a dal allyriadau carbon a meithrin economi fwy cynaliadwy ar unwaith.
Er mwyn diwallu’r angen hwn, rydym yn falch o lansio’r Sefydliad Arloesi Sero Net yn swyddogol. Mae'r sefydliad yn canolbwyntio ar nodi atebion y gellir eu rhoi ar waith yn y byd go iawn, a hynny yn sgil cydweithio â phartneriaid blaenllaw yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Ei genhadaeth yw llywio ein dyfodol cynaliadwy drwy ddod â’r ymchwilwyr mwyaf talentog, blaengar ac amlddisgyblaethol ynghyd o amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys meysydd y gwyddorau ffisegol, peirianneg, yr amgylchedd adeiledig, y gwyddorau cymdeithasol, y celfyddydau a’r dyniaethau, y biowyddorau, y geowyddorau a chynllunio.
Mae ymchwil y sefydliad yn seiliedig ar dri pheth allweddol – deall yr adnoddau sydd ar gael i ni i sicrhau allyriadau sero net; gofyn a oes modd lliniaru effeithiau ar yr hinsawdd drwy ddefnyddio gwyddoniaeth a pheirianneg; a chefnogi'r cyfnod pontio hirdymor i economi wyrddach.
Mae sawl thema ymchwil yn sail i’r pethau allweddol hyn ac yn tynnu sylw at y gorau o ymchwil y sefydliad. Mae gennym fàs critigol o ymchwilwyr sydd ar flaen y gad yn rhyngwladol mewn meysydd sy’n seiliedig ar y themâu craidd. Ymhlith y meysydd hyn mae catalysis, tanwydd di-garbon, amgylcheddau adeiledig carbon isel, lled-ddargludyddion cyfansawdd, gwaith dadansoddi systemau cyfan, trawsnewidiadau polisi a thrawsnewidiadau cymdeithasol.
Cynhaliwyd y digwyddiad lansio ddydd Mawrth, 19 Medi yn y Man Arddangos yn Adeilad Bute y Brifysgol. Yn y digwyddiad, tynnwyd sylw at y gwaith gwerthfawr sy’n cael ei wneud gan y sefydliad, a chafwyd cyflwyniadau gan y cyd-gyfarwyddwyr. Yn bresennol roedd cydweithwyr arbenigol o bob rhan o’r Brifysgol. Yn rhan o’r panel o arbenigwyr roedd cynrychiolwyr o GW4, Llywodraeth Cymru, swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a’r Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Lleihau Allyriadau sy’n Ffoi (IFEAA). Cafwyd araith arbennig gan Gerard Davies, Uwch-reolwr Portffolio Ynni a Datgarboneiddio’r Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol. Ymhlith y gwahoddedigion roedd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a thu hwnt, cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a phartneriaid allanol allweddol fel Dŵr Cymru, Platfform yr Amgylchedd Cymru a Western Gateway.
Dywedodd yr Athro Agustin Valera-Medina, un o gyd-gyfarwyddwyr y sefydliad: “Roedd y digwyddiad lansio’n gyfle gwych i ddod â holl ysgolion y Brifysgol ynghyd, a hynny i ddatblygu dull cyfannol o nodi atebion i sicrhau allyriadau sero net. Mae ein sefydliad yn addo bod yn rhywle sy’n galluogi pawb i ymuno â’r ymdrechion i nodi dewisiadau amgen i’n ffyrdd presennol o gynhyrchu, defnyddio, dal a dosbarthu CO2. Mae hefyd yn cydnabod y Brifysgol yn ganolfan Ewropeaidd ar gyfer arloesi yn y pwnc hollbwysig hwn."
Mae’r Brifysgol wedi buddsoddi £5.4 miliwn mewn pum sefydliad arloesi ac ymchwil (y mae’r Sefydliad Arloesi Sero Net yn eu plith) i fynd i’r afael â’r problemau mwyaf sy’n wynebu cymdeithas, yr economi a’r amgylchedd.