Penodi arbenigwr ym maes rheoli plâu yn gynaliadwy, yn Athro er Anrhydedd
5 Hydref 2023
Mae arloeswr ym maes rheoli plâu yn gynaliadwy wedi ei benodi’n Athro er Anrhydedd gan Brifysgol Caerdydd.
Mae Dr Owen Jones, cynghorydd masnachol a rhanddeiliad yn y maes diwydiant sy'n arbenigo mewn masnacheiddio ymchwil, wedi cydweithio ers blynyddoedd lawer ag arbenigwyr yn Ysgol Cemeg y Brifysgol.
Mae’r penodiad yn cydnabod ei gyfraniad eithriadol i faes rheoli plâu sy’n bryfed, a’i gyfraniadau pwysig at ddatblygiadau diweddar yn ymchwil Prifysgol Caerdydd.
Yn un o'r ymchwilwyr cyntaf i fod yn gweithio i ddod o hyd i opsiynau cynaliadwy yn hytrach na phlaladdwyr synthetig, mae ffocws Dr Jones wedi bod ar fioblaladdwyr, opsiynau biolegol sy’n bodoli eisoes ym myd natur a all gymryd lle plaladdwyr confensiynol.
Mae bioblaladdwyr yn llai gwenwynig yn gynhenid felly na phlaladdwyr confensiynol; yn wir mae plaladdwyr confensiynol yn cael eu rheoleiddio’n fwyfwy felly ac mewn nifer o achosion yn cael eu gwahardd. Ar ben hynny, yn gyffredinol, dim ond effeithio ar y pla dan sylw mae bioblaladdwyr - yn wahanol i'r opsiynau cemegol, a all gael effeithiau dinistriol ar fywyd gwyllt.
Yn ystod ei amser yn entomolegydd ymchwil ym Mhrifysgol Southampton, fe fu i Dr Jones arloesi’r ymarfer o ddefnyddio fferomonau pryfed i reoli plâu sy’n bryfed a hynny ar hyd ystod meysydd amaethyddiaeth, coedwigaeth ac iechyd y cyhoedd. Yna sefydlodd y cwmni, a ddaeth maes o law i ddwyn yr enw AgriSense BCS Ltd, cwmni sy'n canolbwyntio ar sicrhau masnacheiddio fferomonau pryfed ar gyfer rheoli plâu ledled y byd.
Ers 2012, mae Dr Jones wedi bod yn bartner arweiniol yn Lisk & Jones Consultants Ltd yn arbenigo ym maes defnyddio cynhyrchion biolegol ar gyfer rheoli plâu, gan ganolbwyntio ar fferomonau a semiogemegion eraill.
Mae perthynas Dr Jones â Phrifysgol Caerdydd yn ymestyn dros sawl degawd ers i Brifysgol Caerdydd gydweithio ag Agrisense ar brosiect gan y Comisiwn Ewropeaidd sy'n astudiaeth o’r modd y defnyddir semiogemegion wrth reoli plâu sy’n effeithio ar goed olewydd.
Yn fwyaf diweddar, mae ei arbenigedd wedi bod yn ganolog i brosiectau dan arweiniad Caerdydd gan gynnwys datblygiad arloesol diweddar ym maes technegau cynhyrchu systemau semiogemegol newydd ar gyfer diogelu cnydau, a gwaith a ariannwyd gan Sefydliad Bill a Melinda Gates (BMGF) ar ‘trapiau siwgr’ ar gyfer mosgitos sy’n lledaenu afiechydon.
Mae ei waith yn cynnwys rheoli treialon maes yn y DU ac ar gyfandir Ewrop, yn ogystal â rhoi hyfforddiant i ymchwilwyr ôl-raddedig ym maes technolegau semiogemegol.
Wrth groesawu’r penodiad, cydnabu’r Rhag Is-Ganghellor yr Athro Rudolf Allemann gyfraniad Dr Jones: “Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu rhoi’r teitl anrhydeddus hwn i Dr Jones, sydd wedi cael cymaint o effaith ar y maes hynod bwysig hwn ac ar ddyfodol amaethyddiaeth gynaliadwy.
Ychwanegodd yr Athro John Pickett o Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd, sydd wedi gweithio’n agos gyda Dr Jones ers blynyddoedd lawer: “Mae gwaith Owen wedi bod yn hollbwysig i ddatblygiad rheoli plâu yn gynaliadwy ar raddfa fyd-eang.
“Mae’r penodiad yn gydnabyddiaeth o berthynas sy’n estyn dros sawl degawd, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos ag ef yn y dyfodol.”
Cyhoeddodd Canghellor y Brifysgol, y Fonesig Jenny Randerson, y penodiad mewn digwyddiad diweddar yn Nhŷ’r Cyffredin.