Llyfr newydd ar effaith a dylanwad arbenigwyr
4 Hydref 2023
Mae llyfr newydd gan academyddion Ysgol Busnes Caerdydd yn archwilio'r dirywiad yn effaith a dylanwad arbenigwyr.
Mae’r llyfr, Enough of Experts: Expert Authority in Crisis, wedi’i ysgrifennu ar y cyd gan Dr Cara Reed, Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Sefydliadol, ac Athro Dadansoddiad Sefydliadol, Mike Reed.
Yn draddodiadol, mae effaith a dylanwad arbenigwyr wedi chwarae rhan bwysig yn ein cymdeithas – ond mae’r awdurdod hwn yn cael ei gwestiynu fwyfwy gan sawl ochr.
Mae'r llyfr yn dadansoddi'r heriau a'r bygythiadau i awdurdod arbenigwyr mewn economïau a chymdeithasau gwleidyddol neoryddfrydol. Mae'n canolbwyntio ar y trawsnewidiadau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol dwfn sydd wedi ansefydlogi ac erydu sylfeini sefydliadol awdurdod arbenigwyr dros fwy na phedwar degawd.
Yn ddiweddar mae Dr Reed wedi ysgrifennu ar gyfer The Conversation ar 'why so many people have had enough of experts – and how to win back trust.' Yma mae hi’n nodi tri esboniad bras am y dirywiad mewn pobl yn ymddiried mewn arbenigwyr sy’n cael eu harchwilio yn y llyfr:
Annilysu (delegitimation)
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn rhoi cyfle i bawb gyfathrebu ac yn darparu llwyfannau byd-eang i'r rhai sydd am gwestiynu strwythurau a sefydliadau cymdeithasol sefydledig. Enghraifft o hyn yw Donald Trump yn herio ac yn wfftio arbenigwyr ar COVID-19.
Datgyfrinio (demystification)
Pan fydd pobl yn dysgu mwy am arbenigwyr, gall eu heffaith leihau eto. Mae arbenigwyr unigol yn cael eu gwylio a'u beirniadu fwyfwy wrth iddynt ddod yn fwy cysylltiedig â sefydliadau megis llywodraeth, corfforaethau a banciau.
Dadelfennu (decomposition)
Mae mwy o alwedigaethau bellach yn hawlio statws arbenigol, gan gynnwys rheoli adnoddau dynol, marchnata a rheoli prosiectau. Er y gall hyn ddemocrateiddio arbenigedd, gall hefyd herio uchafiaeth y sectorau achrededig traddodiadol megis y gyfraith, meddygaeth a chyfrifeg.
Sut y gall arbenigwyr ennill ymddiriedaeth yn ôl
Mae Dr Reed a'r Athro Reed yn dadlau y gellir cynnal awdurdod ac effaith arbenigedd trwy ailfeddwl sut mae arbenigwyr yn rhyngweithio â llywodraethau a'r cyhoedd.
Dyma lyfr cynhwysfawr i ysgolheigion a myfyrwyr y gwyddorau cymdeithasol ac astudiaethau trefniadaeth a rheolaeth.
Wedi'i gyhoeddi gan De Gruyter, dysgwch ragor am Enough of Experts: Expert Authority in Crisis.
eBook ISBN: 9783110734911
Hardcover ISBN: 9783110739053