Dadansoddi’r marwor sy’n pylu yn sgîl y Glec Fawr
9 Hydref 2023

Bydd taith telesgop gofod nodedig yn defnyddio technoleg ac arbenigedd Prifysgol Caerdydd i ddarganfod rhagor am gamau cynharaf y Bydysawd a sut y cafodd ei greu dros 13.7 biliwn o flynyddoedd yn ôl.
Bydd taith y lloeren Lite sy’n digwydd er mwyn astudio polareiddio modd-B a chwyddiant o’r Ymbelydredd y gellir ei Ganfod yn y cefndir cosmig (LiteBIRD), yn dadansoddi'r marwor sy’n pylu sy'n weddill wedi’r Glec Fawr, i wirio’r theori gyfredol ynghylch sut yr ehangodd ein Bydysawd yn syth wedi iddo gael ei ffurfio.
Mae seryddwyr yn credu bod y Bydysawd wedi ehangu'n gyflym iawn yn syth wedi’r Glec Fawr, proses a elwir yn chwyddiant cosmolegol.
Mae eu theori’n rhagweld y dylai tonnau disgyrchiant primordaidd – y crychdonnau cyntaf a gafwyd yn y gofod ac mewn amser yn ein bydysawd – fod yn deillio o'r ehangu cyflym hwn, ac y bydd modd eu gweld yn y cefndir microdon cosmig (CMB) – golau o gyrion eithaf y Bydysawd gweladwy.
Wedi'i gydlynu gan Asiantaeth Archwilio Awyrofod Japan (JAXA), nod LiteBIRD yw lansio yn gynnar yn y 2030au gyda chyfuniad o delesgopau amledd uchel, canolig ac isel ar gyfer archwilio polareiddio yn y CMB, a chanddynt sensitifrwydd digynsail, ar gyfer gwirio’r theori ar chwyddiant cosmolegol.
Gan arwain cyfraniad y DU i’r daith, bydd yr Athro Peter Hargrave a’r Athro Erminia Calabrese o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd yn dylunio ac yn adeiladu’r opteg ar gyfer dau delesgop, a’r hidlyddion ar gyfer y trydydd telesgop amledd isel a adeiladwyd yn Japan.

Bydd LiteBIRD yn ymchwilio i briodweddau penodol y golau CMB hwn mewn modd manwl gywir gan ein galluogi i chwilio am dystiolaeth ynghylch tonnau disgyrchiant y dylai chwyddiant yn syth wedi’r glec fawr fod wedi’u hachosi. Bydd hyn yn golygu y gellir cadarnhau, neu ddiystyru, dosbarthiadau eang o fodelau o chwyddiant, gan ehangu’n sylweddol felly ein dealltwriaeth o darddiad ein Bydysawd.
“Mae’n wych o beth bod y technolegau unigryw hyn y bu i Brifysgol Caerdydd a’n cydweithwyr yn y DU eu datblygu, yn gallu galluogi arbrawf mor arloesol.”
Bydd cyllid cychwynnol o £2.7 miliwn gan Asiantaeth Ofod y DU yn galluogi tîm o wyddonwyr o’r DU dan arweiniad yr Athro Hargrave i ddylunio offerynnau telesgop tra arbenigol LiteBIRD ac i gefnogi’r gwaith o gynhyrchu lensys a hidlwyr unigryw’r telesgopau ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda chymorth cydweithwyr yng Ngholeg Prifysgol Llundain a Labordy Gwyddoniaeth Ofod Mullard.

Yr Athro Calabrese sy’n arwain y tîm dadansoddi gwyddoniaeth yn y DU, gydag arbenigwyr o Brifysgolion Rhydychen, Caergrawnt, Manceinion a Sussex.
Ychwanegodd yr Athro Calabrese, Cyd-Brif Ymchwilydd ac Arweinydd Gwyddoniaeth Consortiwm LiteBIRD y DU: “Mae’n gyffrous iawn gweld y DU yn chwarae rhan allweddol yn un o arbrofion mwyaf nodedig y ddegawd nesaf, gan gyfrannu at ddealltwriaeth newydd arloesol o’r Glec Fawr a ffiseg ynni uchel."

Mae’r lloeren wedi’i chynllunio i sicrhau datblygiad mawr ym maes gwyddoniaeth: dealltwriaeth sylweddol well o sut y dechreuodd y Bydysawd, gan dargedu’r mecanwaith ffisegol y tu ôl i chwyddiant cosmig, gan naill ai wneud darganfyddiad neu ddiystyru modelau chwyddiant sydd ar gael eisoes yn sgîl cryn gymhelliant.
Mae'r DU yn bwriadu buddsoddi cyfanswm o £17 miliwn dros gyfnod oes y daith.
Dywedodd Dr Paul Bate, Prif Weithredwr Asiantaeth Ofod y DU: “Rydym yn disgwyl i LiteBIRD newid ein dealltwriaeth o gosmoleg, bydd yn ffordd o wirio ein theorïau gorau ynghylch yr hyn a ddigwyddodd ar ddechrau’r Bydysawd.
“Mae’n beth hynod gyffrous o safbwynt y DU ei bod ar flaen y gad ar y daith hon, yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol i wthio ffiniau gwyddor y gofod ac ateb rhai o gwestiynau mwyaf y ddynoliaeth.”
Mae’n beth hynod gyffrous o safbwynt y DU ei bod ar flaen y gad ar y daith hon, yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol i wthio ffiniau gwyddor y gofod ac ateb rhai o gwestiynau mwyaf y ddynoliaeth.
Mae’r DU yn rhan o Gonsortiwm Ewropeaidd a arweinir gan yr asiantaeth ofod Ffrengig CNES – a fydd yn darparu’r telesgopau amledd uchel a chanolig. Prifysgol Caerdydd fydd yn arwain llawer o'r gwaith dylunio optegol a datblygu cydrannau gyda chefnogaeth gan brifysgolion eraill y DU gan gynnwys Caergrawnt, UCL, Rhydychen, Manceinion a Sussex.
Ychwanegodd yr Athro Mike Edmunds, Llywydd y Gymdeithas Seryddol Frenhinol ac Athro Emeritws yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae'n wych gwybod y bydd y DU yn cymryd rhan yn nhaith gosmoleg gyffrous JAXA LiteBIRD.
“Bydd y lloeren hon yn ymchwilio i fecanwaith chwyddiant cyflym yn y Bydysawd cynnar iawn, iawn – syniad sylfaenol a hanfodol bwysig nad yw wedi’i brofi’n ddigonol eto."