Meddyliau blaenllaw ym maes ymchwil stocrestru yn ymgynnull yn ysgol haf PhD
29 Medi 2023

Yn ddiweddar, cynhaliodd Ysgol Busnes Caerdydd 16eg Ysgol Haf PhD y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Ymchwil Stocrestru (ISIR), gan ddod â myfyrwyr PhD ac arbenigwyr ym maes rheoli eiddo ynghyd.
Mae ISIR yn gymuned o wyddonwyr sydd â diddordeb ym mhob agwedd ar reoli stocrestru, o fodelu stocrestr a phrisio i ymchwil ariannol a materion economaidd.
Gan feithrin arloesedd a chydweithio, cynhaliwyd yr ysgol haf chwe-misol rhwng 24 a 28 Gorffennaf 2023 ym Mhrifysgol Caerdydd. Daeth y digwyddiad â myfyrwyr PhD ac ymchwilwyr o bob rhan o Ewrop ynghyd i gyflwyno, trafod a gwella eu hymchwil.
Thema’r ysgol haf oedd: ‘Lliniaru ansicrwydd sy’n ymwneud â stocrestru drwy theori systemau cyfan.’

Roedd yr wythnos yn cynnwys rhaglen gymdeithasol ac ymweliadau â diwydiannau’r Bathdy Brenhinol a GE Aircraft Engine Services Limited. Helpodd yr ymweliadau hyn y myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth o oblygiadau rheolaethol ymchwil rhestr eiddo mewn lleoliad ymarferol.
Dywedodd Francesco Stranieri, myfyrwraig PhD a aeth i’r ysgol haf: “Diolch yn fawr iawn am y croeso cynnes a’r trefniant rhagorol yn ystod ysgol haf ISIR yn ddiweddar. Mae’r profiad wedi rhagori ar fy holl ddisgwyliadau, gan fy ngalluogi i ennill sgiliau newydd a gadael ei farc ar fy natblygiad academaidd a phersonol.”
Dywedodd yr Athro Aris Syntetos:
“Mae’r digwyddiad hwn mor agos at fy nghalon, gan mai’r 2il ysgol haf yn Ioannina, Gwlad Groeg ym 1997 oedd y digwyddiad gwyddonol cyntaf i mi ei fynychu yn fyfyriwr PhD iau. Felly’r pleser a’r anrhydedd mwyaf oedd bod yn rhan o’r ysgol haf eleni a dod ag ef i fy mhrifysgol fy hun yng Nghaerdydd.”
Ychwanegodd: “Roedd yn wych croesawu myfyrwyr PhD mor dalentog ac ymroddedig. Roeddem hefyd yn falch iawn o gael ymuno ag uwch aelodau cyfadran o wahanol brifysgolion ac rydym yn ddiolchgar am eu hareithiau, eu gweithdai a’u tiwtorialau.”
“Aeth yr wythnos yn arbennig o dda, gyda fformat cyffrous yn caniatáu i fyfyrwyr PhD gyflwyno eu gwaith ymchwil i’w cyfoedion a chyfadran sy’n arwain y byd o bedwar ban byd. Roedd cyfle ar gyfer trafodaethau manwl a roddodd adborth i fyfyrwyr i gyfoethogi eu hymchwil o safbwyntiau damcaniaethol, ymarferol a methodolegol. Dyma longyfarch pawb a fu’n rhan o drefnu a chymryd rhan mewn wythnos hynod gyffrous ac addysgiadol!”
Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad yr oedd:
- Yr Athro Robert Boute, Ysgol Fusnes Vlerick, a KU Leuven, Gwlad Belg
- Yr Athro Steve Disney, Ysgol Busnes Prifysgol Caerwysg, y DU
- Yr Athro Rogelio Oliva, Ysgol Busnes Mays, Prifysgol A&M Texas, UDA
- Yr Athro Ruud Teunter, Adran Gweithrediadau, Prifysgol Groningen, yr Iseldiroedd
- Yr Athro Li Zhou, Ysgol Busnes, Gweithrediadau a Strategaeth, Prifysgol Greenwich, DU
Roedd yr ysgol haf wedi’i chynnal er cof am yr Athro John Boylan a fu farw yn anffodus ar 7 Gorffennaf 2023. Roedd yr Athro Boylan i fod yn siarad yn y gynhadledd.
Roedd pwyllgor trefnu’r ysgol haf yn cynnwys:
- Beverly Francis (Swyddog y Gynhadledd)
- Dr Thanos Goltsos (Cydlynydd y Diwydiant)
- Dr Irina Harris (Cydlynydd Adolygu)
- Dr Qinyun Li (Cydlynydd TG)
- Dr Paul Wang (Cydlynydd Cyflwyniadau)