£2.2m o gyllid i ddod o hyd i gyffuriau lleddfu poen sydd ddim yn achosi caethiwed
2 Hydref 2023
Dyfarnwyd £2.2 miliwn i ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd mewn ymgais i ddod o hyd i driniaethau sydd ddim yn achosi caethiwed nac yn opioid ar gyfer poen cronig.
Mae poen cronig yn effeithio ar tua 20% o boblogaeth y byd a gall gael effaith ddwys ar ansawdd bywyd yr unigolyn.
Bydd cefnogaeth y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) yn caniatáu i'r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau (MDI) archwilio dull newydd sy'n defnyddio ddata o fynd i’r afael â rhwystro signalau poen.
Mae'r cyllid, a ddyfarnwyd ym mis Mehefin, yn cyd-fynd ag ymgais fyd-eang am gyffuriau lleddfu poen mwy diogel sy’n achosi llai o gaethiwed. Mae sgandal gofal iechyd yr Unol Daleithiau yn parhau i ddatblygu o amgylch marchnata'r opioid OxyContin sy’n achosi caethiwed difrifol.
Wedi'i ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy gynllun Sêr Cymru Llywodraeth Cymru, mae tîm MDI o 40 o ymchwilwyr a staff cymorth yn trosi ymchwil biofeddygol yn feddyginiaethau newydd ar gyfer anghenion clinigol sydd heb eu diwallu.
Bydd y dyfarniad, trwy Gynllun Cyllido Llwybr Datblygu MRC, yn ariannu prosiect o'r enw “Allosteric modulators of spinal cord glycine receptors for the treatment of chronic pain.”
Dywedodd yr Athro John Atack, Athro Sêr Cymru ym maes darganfod cyffuriau trosiadol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae ein gwaith yn adeiladu ar allu ein tîm i reoleiddio sianeli ïon gyda moleciwlau cyffuriau penodol iawn. Pan fydd y rheolwyr allweddol hyn ar signalau nerfau yn peidio â gweithio’n iawn, mae'n bwysig deall y camau i’w cymryd er mwyn eu dychwelyd i'w cyflwr iach.
“Mae gan yr MDI flynyddoedd lawer o brofiad o wneud hyn yn llwyddiannus ac mae dyfarniad y Cyngor Ymchwil Meddygol yn gydnabyddiaeth o alluoedd blaenllaw tîm MDI. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu triniaethau yn y pen draw a fydd yn gwneud bywyd o ddydd i ddydd yn haws i lawer o bobl nad oes ganddynt unrhyw opsiwn ond byw gyda phoen gwanychol.”
Gall poen cronig newid bywyd. Mae'n effeithio ar tua un o bob pump o unigolion ledled y byd. Mae achosion lluosog yn cynnwys poen cefn, osteoarthritis, canser a niwropatheg ddiabetig.
Ni fyddai triniaethau sy'n seiliedig ar fodiwleiddiwr alosterig yn achosi caethiwed, na sgil-effeithiau sylweddol lladdwyr poen eraill a gaiff eu defnyddio at ddibenion lleddfu cyflyrau cronig.
Mae'r tîm MDI yn gobeithio dechrau profi ei therapïau newydd gyda chleifion dynol cyn pen pum mlynedd.
I gael rhagor o wybodaeth am waith MDI, ewch i: https://www.cardiff.ac.uk/cy/medicines-discovery