Adam Price: Ail-wneud Democratiaeth Gymreig
29 Medi 2023
Bydd Aelod blaenllaw o’r Senedd yn ymateb i’r cynigion newydd i ehangu a diwygio'r Senedd yn ystod prif ddarlith a gynhelir gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.
Bydd cynigion diweddar a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Plaid Cymru yn gweld y Senedd yn ehangu ac yn mabwysiadu system bleidleisio newydd. O dan faner Cymru’n gosod ei hun fel ‘labordy ar gyfer democratiaeth’, bydd Adam Price AS yn dadlau o blaid cyfres o ddiwygiadau pellach i ddyfnhau a chyflymu’r broses o drawsnewid y Senedd.
Yn yr araith, bydd Price yn cynnig cyfres o ‘syniadau radical’ i wella gallu a diwylliant y sefydliad, ac addysg ddinesig. Bydd yn dadlau y dylid ystyried diwygio’r Senedd fel ymateb i’r argyfwng byd-eang mewn democratiaeth, ac y dylid defnyddio’r agenda hon i sicrhau mwy o gyfranogiad yn ein democratiaeth gan ddinasyddion Cymru.
Bydd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn cynnal y ddarlith gan Adam Price, AS Plaid Cymru Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, yn Senedd Cymru ar Hydref 12fed.
Mae’r digwyddiad rhad ac am ddim yn agored i bawb a bydd yn dechrau am 18:00 yn Neuadd y Senedd. Mae cofrestru ar gyfer lleoedd ar gael yma, a bydd yr araith yn apelio i’r rhai sydd â diddordeb mewn diwygio democrataidd, craffu seneddol a chyfansoddiad Cymru.