Mae egin fusnesau sy'n ehangu yn dathlu llwyddiant
26 Medi 2023
Mae cwmnïau newydd sy'n defnyddio lle cydweithio yn Arloesedd Caerdydd wedi bod yn dathlu llwyddiant.
Mewn digwyddiad rhwydweithio 'Carfan 2023' cafodd cwmnïau a grëwyd gan fyfyrwyr, graddedigion a chyn-fyfyrwyr sy'n manteisio ar ddesgiau poeth a chyngor busnes o’r radd flaenaf yn uned hybu ddiweddaraf y ddinas y cyfle i ddod ynghyd.
Yn sbarc|spark, mae Arloesedd Caerdydd yn rhoi cymorth fforddiadwy i’r sawl sy’n cydweithio â’r Brifysgol i droi syniadau gwych yn arloesi go iawn.
Daeth y digwyddiad â chydweithwyr o nifer o fusnesau ynghyd, gan gynnwys y platfform iechyd a gofal cymdeithasol integredig Haelu, y busnes dylunio a phrototeipio cyflym Rusty Design a Student Wallet, sy'n helpu myfyrwyr i wneud y gorau o'u harian.
Dyma a ddywedodd Ellie Seddon, Prif Swyddog Gweithrediadau Haelu: “Roedden ni wedi bod yn ceisio penderfynu ble roedden ni eisiau i'n desg fod. Bob tro, byddem yn eistedd yn rhywle newydd a byddai'r cymdogion yn dod i ddweud helo wrthon ni. Bellach, rwy'n hoffi dewis lleoedd lle dw i ddim yn nabod y bobl sy’n eistedd yno, felly dyma ni’n dechrau siarad ac mae hynny'n ychwanegu at ein rhwydwaith – mae'n wych.”
Ychwanegodd Paddy Gardner, Prif Swyddog Gweithredol Haelu: “Y peth gwych am Arloesedd Caerdydd yw nifer y cwmnïau gwahanol ac amrywiol sydd yma yn sbarc|spark. Er enghraifft, heddiw cawson ni’r cyfle i gwrdd â phobl a oedd yn gweithio ym maes dysgu peirianyddol deallusrwydd artiffisial (DA) ac argraffu 3D. Er nad ydyn nhw efallai'n uniongyrchol berthnasol i'n busnes, po fwyaf y byddwn ni’n siarad, mwyaf i gyd fydd y cysylltiadau ar y cyd y byddwn ni’n dod o hyd iddyn nhw, gan greu syniadau y byddwn ni’n gallu eu rhannu.
“Fy hoff ran o fod yn sbarc|spark yw'r cyfleoedd i rwydweithio’n gyson, boed y sgyrsiau anffurfiol ac ystrydebol ond pwysig neu’r digwyddiadau rhwydweithio strwythuredig rydyn ni’n eu gwerthfawrogi'n fawr.”
Mae Bleddyn Williams, Cyfarwyddwr, Rusty Design, yn cytuno. “Dyma'r swyddfa fwyaf dymunol hyd yn hyn yng Nghaerdydd, ac rydyn ni wedi gweithio mewn gwahanol lefydd o amgylch y ddinas. Mae'r golygfeydd yn anhygoel ac yn ein barn ni mae’n cyfateb i'r uchelgais sydd gennym ni. Rydyn ni wedi siarad â llawer o entrepreneuriaid eraill yma: mae llawer o bobl yn gwneud pethau hynod ddiddorol ac rydyn ni eisiau bod yn rhan o’r diwylliant hwnnw.”
Rhys Pearce-Palmer Rheolwr Gweithrediadau Arloesedd Caerdydd “Mae Arloesedd Caerdydd yn lle ysbrydoledig i weithio, gan ei fod yn dod â phobl ynghyd ac yn sbarduno’r broses o arloesi. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi croesawu 11 o egin fusnesau a chwmnïau deillio i'n swyddfeydd cyffrous lle mae desgiau poeth. Mae’r entrepreneuriaid yn gweithio gyda ni i ddatblygu ac ehangu eu busnes. Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd rhwydweithio i rannu sgiliau a chydweithio yn ogystal â chysylltu cydweithwyr â'r Brifysgol ehangach, ei phartneriaid a’i rhwydweithiau.”
Yn Arloesedd Caerdydd ceir cyfleusterau sy’n troi breuddwydion yn realiti, gan gynnwys swyddfeydd y gellir eu gosod, lleoedd cyfarfod ffurfiol ac anffurfiol, cyfleusterau cynadledda o safon, labordy gwlyb a lleoedd arddangos/cyflwyno ar y cyd.
Mae'r Ganolfan, ym Mharc Maendy yng nghanol Caerdydd, yn cynnwys ystod o gyfleusterau newydd a fydd yn caniatáu i arloesi ffynnu gan gynnwys band eang cyflym, caffi Milk & Sugar, lleoedd cydweithio, derbynfa ganolog yn ogystal â’r cyfle i gael arbenigedd busnes proffesiynol y Brifysgol.
Oes gennych chi ddiddordeb yn nesgiau poeth Arloesedd Caerdydd? Cysylltwch â Rhys gan ebostio sbarcinnovations@caerdydd.ac.uk