Yr Athro Fonesig Teresa Rees
27 Medi 2023
Mae teyrngedau wedi’u talu i un o wyddonwyr cymdeithasol mwyaf blaenllaw’r DU a chyn Rhag Is-Ganghellor y Brifysgol.
Cafodd yr Athro Teresa Rees, a fu farw yr wythnos diwethaf, gydnabyddiaeth ryngwladol am ei hymchwil arloesol ar anghydraddoldebau rhywedd ym myd addysg, hyfforddiant, polisïau’r farchnad lafur ac ym maes polisi gwyddoniaeth.
Gwnaeth yr Athro Rees gyfraniad sylweddol i’r Brifysgol, yn Rhag Is-ganghellor ar gyfer Staff a Myfyrwyr (2004 tan 2007), ac yna’n Rhag Is-Ganghellor Ymchwil (2007 tan 2010), gan hyrwyddo polisïau cyfle cyfartal, a thrawsnewid y diwylliant ymchwil ym mhob rhan o’r Brifysgol.
Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Wendy Larner: “Mae hyn yn newyddion trist iawn. Mae ein meddyliau ni, a phawb ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda theulu, ffrindiau a chyn-gydweithwyr yr Athro Rees ar yr adeg hynod anodd hon.
“Rwy’n ymwybodol iawn o’i gwaith ysbrydoledig, o ran ei hymchwil a’i gwaith yn Rhag Is-Ganghellor. Roedd hi hefyd yn fentor doeth a hael i lawer o gydweithwyr ar ddechrau eu gyrfa, gan gynnwys fi fy hun. Cymaint oedd ei chyfraniad i’r Brifysgol, fe’i cydnabuwyd â Chymrodoriaeth er Anrhydedd yn 2016.
“Dangosodd Terry - fel yr oedd yn cael ei hadnabod yn fwy cyffredin - gynhesrwydd a thosturi tuag at bawb a oedd yn ei chyfarfod a gweithio gyda hi. Bydd colled fawr ar ei hôl.”
Roedd yr Athro Rees yn ddylanwadol wrth ddatblygu’r cysyniad o 'brif ffrydio rhywedd', gan fynd i'r afael ag anghydraddoldeb drwy edrych yn ofalus ar ddiwylliant, ar ragdybiaethau heb eu datgan, ac ar arferion bob dydd, a gwneud y rhain yn ganolbwynt newid.
Gan gyfuno’r gorau oll o ddatblygiad cysyniadol gwreiddiol â gweithredu polisi trylwyr yn seiliedig ar dystiolaeth, sefydlodd ei hun yn arweinydd datblygiad polisi prif ffrydio rhywedd Ewropeaidd, sydd bellach yn fframwaith rhyngwladol ar gyfer arfer gorau mewn perthynas â pholisïau cydraddoldeb o ran rhywedd.
Ychwanegodd Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, yr Athro Tom Hall: “Roedd Terry yn hyrwyddwr gwirioneddol dros gydraddoldeb o ran rhywedd. Roedd yn uwch wyddonydd cymdeithasol a gafodd cydnabyddiaeth am ei gwaith 'effeithiol' ymhell cyn i ni gael yr iaith honno, ac yn Rhag Is-Ganghellor Ymchwil benywaidd cyntaf Prifysgol Caerdydd.
“Roedd hi’n gefnogwr gwych o academyddion ar ddechrau eu gyrfa, fel y mae’r Is-Ganghellor wedi nodi. Ni fydd pob un o fy nghydweithwyr mwy diweddar ac iau wedi cael y cyfle hwnnw, ond bydd llawer iawn yn gwybod pwy ydy hi, er nad oedden nhw’n ei hadnabod hi neu wedi gweithio gyda hi. Mae llun Terry yn hongian yn falch yma yn yr Ysgol - presenoldeb aflonyddgar, penderfynol a hapus ochr yn ochr â’r lluniau hŷn a’r portreadau gwrywaidd tywyll yn Adeilad Morgannwg.
“Mae’n newyddion trist iawn, ac mae ein meddyliau gyda theulu Terry. Ymhen amser byddwn yn dathlu popeth yr oedd y cydweithiwr gwych hwn yn sefyll drosto ac wedi’i chyflawni.”
Gwnaeth yr Athro Rees ei marc hefyd ar fywyd cymdeithasol a gwleidyddol Cymru, gyda chyfraniad cenedlaethol parhaol i addysg uwch Cymru.
Cadeiriodd ddau ymchwiliad annibynnol ar addysg uwch i gynorthwyo Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddatblygu ei bolisïau, gan ennill Gwobr Cymraes y Flwyddyn y Western Mail Val Feld yn 2002 am ei gwaith i hyrwyddo cyfleoedd bywyd menywod yng Nghymru.
Fe’i gwnaed yn Gadlywydd yr Ymerodraeth Brydeinig am ei gwaith ar gyfle cyfartal ac addysg uwch yn 2003, a daeth yn Fonesig Comander Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn 2015 am wasanaethau i’r gwyddorau cymdeithasol.