Cwmni sy’n deillio o Gaerdydd yn tyfu’n fwy na’i gartref yn yr uned hybu busnes
26 Medi 2023
Mae cwmni sy'n arbenigo mewn ehangu organoidau ar raddfa yn paratoi i adael Medicentre Caerdydd.
Mae Cellesce, cwmni deillio o Brifysgolion Caerdydd a Chaerfaddon, wedi bod yn denant yn Medicentre ers 2017. Tyfodd y busnes i fod yn defnyddio pum uned yn y ganolfan hybu biodechnoleg a thechnoleg feddygol.
Mae Cellesce yn defnyddio technoleg bioadweithio unigryw a biobrosesau perchnogol i ehangu organoidau ar raddfa.
Mae organoidau yn feithriniadau meinwe tri dimensiwn bach sy'n deillio o fôn-gelloedd. Gall yr 'organau bach' hyn efelychu cymhlethdod organau. Maent yn rhoi dealltwriaeth i wyddonwyr o sut mae organau'n ffurfio ac yn tyfu, a gallant ddangos sut mae cyffuriau'n rhyngweithio, gan greu posibiliadau newydd ar gyfer darganfod cyffuriau.
Ym mis Rhagfyr 2022 cafodd Cellesce ei gaffael gan Molecular Devices - un o brif ddarparwyr systemau mesur bioddadansoddol perfformiad uchel, meddalwedd a nwyddau traul ar gyfer ymchwil ym maes y gwyddorau bywyd. Gyda niferoedd y staff wedi dyblu ers cael ei gaffael, mae Cellesce bellach ar fin symud i gyfleusterau labordy pwrpasol yng Nghaerdydd.
Dywedodd Victoria Marsh Durban, Prif Swyddog Gweithredol Cellesce, “Rydyn ni'n dechrau cyfnod o newid enfawr i'r cwmni ar ôl pum mlynedd yn datblygu ein tîm a'n gwasanaethau yn Medicentre. Rydym yn gyffrous ein bod yn 'graddio' o fod yn fusnes sy’n deor ac yn falch iawn o fod wedi ymuno â Molecular Devices. Gyda'n gilydd, rydym yn symud ymlaen gyda gweledigaeth rydym yn ei gyd-rannu i roi bioleg 3D a llifoedd gwaith o'r dechrau i'r diwedd i’n cwsmeriaid, yn enwedig ym maes datblygu fferylliaeth a biotherapiwteg.
“Rhoddodd Medicentre y dechrau perffaith i ni – amgylchedd cefnogol, lleoliad gwych, a lle i ddatblygu a thyfu. Mae'r amser yn iawn i symud ymlaen, gyda sylfeini cadarn ac angerdd i fynd â'r busnes i'r lefel nesaf.”
Mae gallu Cellesce i dyfu organoidau safonol, atgynyrchadwy ar raddfa wedi dal sylw arbenigwyr ym maes ymchwil feddygol, darganfod cyffuriau a thocsicoleg ledled y byd.
Dywedodd Elizabeth Fraser, Partner Strategaeth yn Cellesce, “Mae angen sgiliau a phrofiad technegol i ddeillio a meithrin organoidau. Fe'i perfformir mewn labordai arbenigol iawn ac mae'r broses yn llafurus, yn cymryd llawer o amser ac yn gostus. Mae meithrin â llaw fel arfer yn arwain at symiau bach o organoidau sy’n amrywio o ran ansawdd a maint; mae hyn yn cyfyngu ar y gallu i ddefnyddio’r rhain yn eang yn fasnachol felly. Mae gennym y dechnoleg i gynhyrchu sypiau atgynyrchadwy o organoidau pwrpasol ar raddfa ddiwydiannol at ddefnydd masnachol ym maes sgrinio cyfansawdd therapiwtig ac ar gyfer cymwysiadau trwygyrch uchel eraill.”
Bydd y gwaith hwn yn parhau o gartref newydd Cellesce, gyda chyfleoedd i ehangu ac arallgyfeirio ymhellach.
Dywedodd Rhys Pearce-Palmer, Rheolwr Arloesi Medicentre Caerdydd, “Mae wedi bod yn fraint cael tîm Cellesce yn Medicentre a'u cefnogi ar hyd y ffordd. Mae eu gwaith yn hynod bwysig, mae’n paratoi'r ffordd ar gyfer gwell dealltwriaeth o ganser a chlefydau eraill, gan roi rhagor o ddewis o ran therapïau a gwell canlyniadau i gleifion. Dymunwn y gorau i'r tîm a byddwn yn cadw llygad craff ar eu llwyddiant parhaus.”