“Elw goruwchnormal” cwmnïau adeiladu tai, mwyaf Prydain
26 Medi 2023
Bu i’r tri chwmni mwyaf ym maes adeiladu tai ddefnyddio eu pŵer yn y farchnad i sicrhau elw anarferol o fawr ac ennill mantais dros gystadleuwyr heb gynyddu’n sylweddol felly niferoedd y tai roeddent yn eu hadeiladu, yn ôl adroddiad.
Mae’r dadansoddiad gan Brifysgol Caerdydd ac Ysgol Busnes Henley, sydd wedi’i gyhoeddi gan Ganolfan Gydweithredol y DU ar gyfer Tystiolaeth Tai, yn dangos sut y defnyddiodd Taylor Wimpey, Barratt Developments a Persimmon y risg o atal cyflenwad o ran tai i ail-negodi cyfraniadau i awdurdodau lleol ac ennill cymorthdaliadau gan y llywodraeth.
Dadansoddodd Dr Chris Foye yn Ysgol Busnes Henley a Dr Edward Shepherd ym Mhrifysgol Caerdydd werth mwy na degawd (2007-2018) o drawsgrifiadau o alwadau rhwng y tri chwmni mwyaf ym maes adeiladu tai, a'u buddsoddwyr, ochr yn ochr ag adroddiadau blynyddol a metrigau perfformiad.
Mae eu canfyddiadau’n datgelu sut y bu i’r busnesau hyn gyflwyno eu strategaeth i’r sawl a fyddai’n cael elw uwch, yn uniongyrchol felly, o dalu difidendau.
Yn ôl yr adroddiad, bu i’r tri chwmni gyfathrebu’n dryloyw gyda chyfranddalwyr ynglŷn â defnyddio eu pŵer yn y farchnad i atal cyflenwad o ran tai, newid telerau cytundebau a wnaed gydag awdurdodau lleol i fod o fudd iddynt eu hunain, ac ysgogi polisïau morgais ffafriol o du’r llywodraeth fel Cymorth i Brynu.
Mae'r awduron yn dadlau bod y polisïau hyn wedi chwyddo pris adeiladau newydd ac wedi bod o fudd anghymesur i'r cwmnïau mawr ym maes adeiladu tai. Roedd y tri chwmni hefyd yn agored gyda chyfranddalwyr ynghylch cyn lleied o gystadleuaeth oedd yn eu hwynebu yn y farchnad tir, a oedd yn caniatáu iddynt gadw’r pris a dalwyd am dir i lawr ac felly gwella elw.
Mae’r canfyddiadau’n dangos bod y camau hyn wedi arwain at elw o rhwng 17-32% y flwyddyn i gyfranddalwyr ers 2014.
Dywedodd Dr Chris Foye, ymchwilydd yn Ysgol Busnes Henley: “Dros y ddegawd ddiwethaf, mae llywodraeth Lloegr wedi dibynnu ar lond llaw o gwmnïau adeiladu tai, mawr, i sicrhau cyflenwad o dai newydd, gan arbed a chefnogi’r cwmnïau hyn gyda chymorthdaliadau mawr gan y llywodraeth. Ac eto mae’r cyflenwad o ran tai, ac yn enwedig felly tai fforddiadwy, yn parhau i fod heb ateb y galw, ac mae llawer ohono o ansawdd gwael. Mae’r pŵer sylweddol sydd gan adeiladwyr tai dros farchnadoedd tai a pholisïau wedi caniatáu iddynt sicrhau elw anarferol, heb gynyddu eu cyflenwad o ran tai yn sylweddol.”
Meddai Dr Edward Shepherd, ymchwilydd yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd: “Er bod ein hymchwil yn canolbwyntio ar weithgarwch y cwmnïau mawr ym maes adeiladu tai, yn Lloegr, mae ein canfyddiadau yn debygol o fod yn berthnasol i Gymru hefyd; mae’r tri chwmni dan sylw yn gweithredu yma hefyd. Mae’r cwmnïau hyn, sy’n adeiladu’r niferoedd mwyaf o dai, wedi gallu defnyddio grym dros bolisïau yn rhannol yn sgîl amgylchedd gwleidyddol oedd yn derbyn hyn. Fodd bynnag, nid yw’r status quo yn rhywbeth anochel – cynnyrch penderfyniadau gwleidyddol ydyw. Wrth i’r gwaith datblygu tai yng Nghymru grebachu ymhellach, dylai’r llywodraeth roi’r gorau i ddibynnu ar y cwmnïau mawr hyn ym maes adeiladu tai, ac yn lle hynny, gymryd rhan llawer mwy gweithredol a chadarnhaol wrth sicrhau tai drwy ystod o ddeiliadaethau mwy fforddiadwy.”
Mae'r adroddiad, 'Why have the volume housebuilders been so profitable?’ wedi'i gyhoeddi gan Ganolfan Gydweithredol y DU ar gyfer Tystiolaeth Tai a ariennir gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Ymchwil ac Arloesi’r Deyrnas Gyfunol (UKRI) a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau UKRI.