Cyhoeddi cyfres cyngherddau'r hydref
22 Medi 2023
Mae'r Ysgol Cerddoriaeth yn llawn cyffro wrth gyhoeddi cyfres cyngherddau'r Hydref! Mae tocynnau ar gael am ddim ar gyfer pob cyngerdd i fyfyrwyr a staff Prifysgol Caerdydd.
Caiff y gyfres ei lansio gyda Christopher Williams a Catherine Tanner-Williams ddydd Mawrth 10 Hydref. Christopher yw un o diwtoriaid piano'r ysgol, a bydd yn cyfeilio i'w wraig Catherine ar yr obo. Dylech ddisgwyl rhaglen sy'n amrywio o weithiau cyfoes gan Richard Elfyn Jones i repertoire clasurol gan Poulenc a Mendelssohn.
Bydd un arall o'r tiwtoriaid ymarferol, Raymond Clarke, yn cyflwyno perfformiad unigol ar y piano ar 17 Hydref. Bydd y gynulleidfa'n clywed fersiwn gwreiddiol 1913 o Ail Sonata Rachmaninov, yn ogystal â gweithiau piano gwych eraill gan Tchaikovsky, Kreisler a Barber.
Cyflwynir y cyngerdd olaf ym mis Hydref, a gynhelir ar y 24ain, gan gyn-Bennaeth yr Ysgol yr Athro Kenneth Hamilton, gyda rhaglen wefreiddiol o weithiau piano.
Bydd y Solem Quartet yn perfformio yn y Neuadd Gyngerdd ar 28 Tachwedd. Mae'r pedwarawd llinynnol yn cynnwys Amy Tress a William Newell (Ffidil), Stephen Upshaw (Fiola) and Stephanie Tress (Soddgrwth). Mae'r Solem Quartet wedi derbyn canmoliaeth am eu "manylder perffaith a’u hysbryd" (The Strad) a'u "tôn diwylliedig" (Arts Desk), ac wedi sefydlu eu hunain yn un o bedwarawdau mwyaf arloesol a mentrus eu cenhedlaeth. A hwythau wedi sicrhau dyfarniad gan y Jerwood Arts Live Work Fund yn 2020, mae'r Solem Quartet wedi ennill eu lle ymhlith rhai o leisiau artistig mwyaf disglair y DU. Mae ganddynt amserlen brysur o gyngherddau, yn amrywio o deithiau rhyngwladol i berfformiadau mewn llefydd fel Neuaddau Wigmore a Queen Elizabeth yn Llundain, Neuadd Bridgewater ym Manceinion, Ystafell Gerdd Holywell yn Rhydychen, Neuadd Gyngerdd Perth (a ddarlledwyd yn ddiweddarach ar Radio 3) ac Awditoriwm Tung yn Lerpwl. Nhw yw Pedwarawd Preswyl Prifysgol Lerpwl a byddant yn aml yn ymddangos fel athrawon gwadd ledled y DU.
Wrth i ni agosáu at ddiwedd y tymor, bydd detholiad o Ensembles yr Ysgol yn arddangos eu doniau. Ar 5 Rhagfyr, bydd Côr Siambr a Collegium Prifysgol Caerdydd yn cyflwyno cyngerdd ar y cyd yn y Deml Heddwch gan arddangos amrywiaeth o weithiau lleisiol a siambr Baróc a Chyfoes. Bydd yr Ensemble Jazz yn perfformio yn ein Neuadd Gyngerdd ar 8 Rhagfyr, a'r Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes ar 12 Rhagfyr, gyda repertoire amrywiol a diddorol gan gyfansoddwyr o'r 20fed ganrif. Daw'r gyfres i ben gyda Cherddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd yn Neuadd Hoddinott ddydd Sadwrn 16Rhagfyr yn perfformio detholiad o repertoire bale a’r Firebird Suite gan Stravinsky.
Mae'r holl wybodaeth am archebu ar gael ar ein tudalen Ticketsource, yn ogystal â gwybodaeth fanylach am raglen pob cyngerdd.
Bydd ein cyfres o gyngherddau’n dychwelyd yn y gwanwyn gyda detholiad arall o gyngherddau proffesiynol a gan Ensemblau’r Ysgol i edrych ymlaen atyn nhw. Ewch i'n tudalen Instagram @cardiffunimusic i gael diweddariadau a newyddion am yr Ysgol, a'r holl wybodaeth ddiweddaraf.