Ewch i’r prif gynnwys

Cyrsiau byr i gefnogi twf yn y sector lled-ddargludyddion

20 Medi 2023

Photonics solar thermal plant

Oes gennych chi ddiddordeb mewn sgiliau i gefnogi'r diwydiant lled-ddargludyddion? Allech chi neu eich sefydliad elwa o gyrsiau byr i helpu i uwchsgilio ac ailsgilio'r rhai sy'n gweithio yn y sector?

Yn rhan o Gronfa Cryfder mewn Lleoedd CSconnected, mae Prifysgol Caerdydd yn cydlynu’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno cyfres o gyrsiau byr sydd wedi’u cynllunio i gefnogi anghenion datblygiad proffesiynol parhaus CSconnected – y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yn Ne Cymru. Cyfuniad o gyflwyniadau byr ar-lein ac wyneb-yn-wyneb ydynt i feysydd allweddol y diwydiant. Cawsant eu creu drwy ymgynghori a gweithio mewn partneriaeth â chwmnïau yng nghlwstwr CSconnected i sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn ddefnyddiol.

Mae'r tri cyntaf o'r cyrsiau hyn eisoes yn fyw, sy’n golygu y gallwch chi gadw lle arnyn nhw – Protocolau’r Ystafell Lân, Cyflwyniad i Ffotoneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a Chyflwyniad i electroneg lled-ddargludyddion cyfansawdd. Mae rhagor o gyrsiau’n cael eu datblygu, a byddan nhw’n cael eu lansio dros y misoedd nesaf. Y bwriad yw y bydd rhagor o gyrsiau’n dilyn.

Protocolau Ystafell Lân

Ar gael i gadw lle arno – carfannau misol – yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr newydd yn rhan o hyfforddiant ymsefydlu.

Cwrs ar-lein sy’n cymryd tua awr i’w gwblhau.

Mae'r cwrs hwn yn rhoi trosolwg o sut beth yw gweithio mewn amgylchedd ystafell lân ar gyfer cynhyrchu nanoraddfa. Mae'n ymdrin ag arferion gwaith nodweddiadol yn ogystal ag egwyddorion cyffredinol ar gyfer gweithio'n ddiogel.

Pynciau dan sylw:

  • Safonau dosbarthu rhyngwladol ystafell lân
  • Yr amrywiaeth o ystafelloedd glân y mae gwahanol sefydliadau'n gweithredu ynddynt
  • Yr hyn y mae'r gwahanol ddosbarthiadau'n ei olygu o ran arferion gwaith nodweddiadol
  • Egwyddorion cyffredinol gweithio mewn amgylchedd ystafell lân, gan gynnwys:
    • Sut i wisgo’r dillad yn gywir
    • Sut i fynd i mewn i'r ystafell lân yn gywir
    • Sut i lanhau offer yn gywir
    • Ymddygiad disgwyliedig
    • Sut i weithio mewn ffordd lân
  • Llif aer yr ystafell lân a'r broses hidlo
  • Risgiau iechyd a diogelwch cyffredinol o weithio mewn amgylchedd ystafell lân, gan gynnwys sut i weithio'n ddiogel gyda gwahanol gemegau
  • Delio â digwyddiadau iechyd a diogelwch cyffredinol, megis gollyngiadau cemegol a larymau nwy/tân.

Cyflwyniad i Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

Ar gael i gadw lle arno

Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno technoleg electroneg lled-ddargludyddion cyfansawdd a ffyrdd o’i defnyddio.

Rhennir y cwrs hwn yn ddwy ran – (1) deunyddiau ar-lein i’r rhai sydd ar y cwrs eu cwblhau yn eu hamser eu hunain (Rhan 1), a (2) sesiwn ymarferol (wyneb-yn-wyneb) sy’n adeiladu ar yr hyn a ddysgir yn y deunyddiau ar-lein ac sy’n cynnig cyfle gwerthfawr iddyn nhw weld technoleg lled-ddargludyddion ar waith. (Rhan 2). Bydd yn rhaid ichi gadw eich lle ar Ran 1 a 2 ar wahân.

Cyflwyniad i Ffotoneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

Ar gael i gadw lle arno

Bydd y cwrs e-ddysgu hwn yn darparu (neu'n gwella) gwybodaeth am dechnoleg ffotoneg lled-ddargludyddion cyfansawdd a'i chymwysiadau. Mae hwn yn gwrs lefel rhagarweiniol a allai fod yn addas ar gyfer pobl o ystod eang o gefndiroedd.

Mae hwn yn gwrs ar-lein y gallwch ei wneud yn eich amser eich hun. Bydd yr hyfforddiant yn cymryd tua 3.5 awr i'w gwblhau.

Pynciau dan sylw:

  • ffotoneg silicon
  • ffotoneg lled-ddargludyddion cyfansawdd
  • ffiseg syml y tu ôl i briodweddau lled-ddargludyddion
  • cylchedau integredig ffotonig (sglodion ffotonig), gan gynnwys:
    • waveguides
    • cyplyddion gratio
    • cyseinyddion
    • hidlyddion
    • switsys a modylyddion
    • ffowndrïau
  • datgelu geiriau/cysyniadau allweddol o'r sector

Cyflwyniad i Fondio Gwifrau

Ar gael i gadw lle arno

Byddwch chi’n cael dealltwriaeth ddyfnach o'r broses bondio gwifrau, dull hanfodol ar gyfer cysylltedd microelectronig trwy'r cwrs hwn, yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol.

Bydd hyn yn eich helpu i ddeall offer bondio gwifrau yn well ac yn eich cynorthwyo i wneud penderfyniadau mwy gwybodus yn ystod y broses bondio gwifrau.

Dysgwch am fondio gwifrau, dull hanfodol ar gyfer cysylltiadau microelectronig, yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol.

Pynciau dan sylw:

  • Enghreifftiau o fondio gwifrau a pheiriannau
  • Deunyddiau a ddefnyddir ar gyfer bondio gwifrau
  • Camau yn y broses bondio gwifrau, gan gynnwys:
    • Gofynion deunydd gwifrau hysbys
    • Pennu’r sampl/cynnyrch targed
    • Chwiliad ‘cyn-rysáit'
    • Bondio
  • Technegau bondio pêl a lletem
  • Paramedrau sy'n effeithio ar y 'rysáit', gan gynnwys:
    • Amser
    • Pŵer Uwchsonig
    • Grym
    • Tymheredd
    • Deunyddiau gwifrau - Aur, Alwminiwm, Copr
    • Bondio pêl, lletem a rhuban
    • Siâp gwifrau - cynffon, uchder pont, ac ati
  • Hanfodion bondio uwchsonig, thermosonig, a thermocywasgu
  • Cynhwysedd cario presennol a chyfyngiadau ffiwsio
  • Rhyngweithio metelegol
  • Datrys problemau — beth all fynd o'i le yn ystod prosesu ac mewn gwasanaeth
  • Prosesau bondio gwifrau/rhuban uwch – laser a laser/uwchsonig
  • Gweithgynhyrchwyr offer a'r gadwyn gyflenwi
  • Dilysu'r broses — ansawdd a phrofi
    • Tynnu gwifrau
    • Croeswasgu pêl
    • Tynnu gwifrau a dehongliad modd methiant croeswasgu pêl (codi pêl, croeswasgu, toriad gwifrau ar y bond cyntaf a’r ail un)
    • Uchder y ddolen
    • Diamedr y bêl

Cyrsiau sydd ar ddod

CwrsStatwsDull cyflwynoTrosolwg

Cyflwyniad i Theori Ysgythru

Wrthi’n cael ei ddatblygu

Wyneb-yn-wyneb (potensial i droi rhywfaint o’r cynnwys yn gynnwys ar-lein)

Yn cyflwyno theori ysgythru gwlyb a sych (neu blasma) ac yn datblygu sylfaen wybodaeth am y rhan hon o’r broses creu wafferi, gan gynnwys dealltwriaeth ohoni.

Deall y Gadwyn Cyflenwi Lled-ddargludyddion

Wrthi’n cael ei ddatblygu

I’w gadarnhau

Yn ceisio gwella ymwybyddiaeth gyffredinol o wahanol gamau’r gadwyn cyflenwi lled-ddargludyddion/lled-ddargludyddion cyfansawdd, gan helpu’r staff i wneud penderfyniadau gwell wrth eu gwaith.

CSconnected SiPF logo

Gair am Gronfa Cryfder mewn Lleoedd CSconnected

Clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd yw CSconnected, ac mae wedi’i leoli yn Ne Cymru (y DU) a’r cyffiniau. Mae Cronfa Cryfder Mewn Lleoedd CSconnected yn brosiect 55 mis o hyd sy’n werth £43 miliwn i gyd. Mae’n cael ei gefnogi gan gyllid gwerth £25 miliwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Cryfder Mewn Lleoedd flaenllaw Ymchwil ac Arloesedd y DU.

Os hoffech gael gwybod rhagor am y cyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus sy’n cael eu cynnig/datblygu, cysylltwch â Kate.

Kate Sunderland

Kate Sunderland

Rheolwr Prosiect Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) - CSconnected | Rheolwr Datblygu Busnes - Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg

Email
sunderlandk@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9119

Rhannu’r stori hon

Cynigiwn borth i fusnesau fanteisio ar yr ystod eang o arbenigedd sydd ym Mhrifysgol Caerdydd.