Ethol Athro Regius ac arbenigwr ar Led-ddargludyddion Cyfansawdd yn Gymrodyr yr Academi Frenhinol Peirianneg
20 Medi 2023
Mae’r Athro Cemeg Regius, Graham Hutchings, a’r arbenigwr ar Led-ddargludyddion Cyfansawdd Dr Wyn Meredith wedi cael eu hethol yn Gymrodyr yr Academi Frenhinol Peirianneg (RAEng).
Yn arbenigwr rhyngwladol ym maes catalysis, mae gwaith yr Athro Hutchings wedi helpu i lanhau diwydiannau cemegol ledled y byd.
Arweiniodd ymchwil yn Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI), a sefydlwyd gan yr Athro Hutchings, at ddull glanach o gynhyrchu polyfinyl clorid gan ddefnyddio aur yn gatalydd yn hytrach na mercwri sy’n niweidiol.
Mae ei waith gyda phartneriaid rhyngwladol blaenllaw mewn meysydd megis y diwydiannau modurol, tanwydd a gweithgynhyrchu cemegol wedi helpu i droi ymchwil at ddefnydd peirianneg gemegol ledled y byd.
Mae’r arbenigwr ar Led-ddargludyddion Cyfansawdd, Dr Wyn Meredith, cadeirydd Clwstwr Lled-ddargludyddion Cymru, CSconnected, hefyd yn derbyn Cymrodoriaeth.
Yn Gyfarwyddwr anweithredol y Catapwlt Cymwysiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (Compound Semiconductor Applications Catapult), dyfarnwyd Athro Anrhydeddus gan Brifysgol Caerdydd i Dr Meredith yn 2021 i gydnabod ei waith gyda’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth a’i gyngor arbenigol ar fasnacheiddio ymchwil.
Wrth groesawu y ffaith ei fod bellach yn Athro Anrhydeddus, dyma a ddywedodd yr Athro Hutchings: “Mae’n anrhydedd mawr ac rwy’n derbyn y Gymrodoriaeth yn wylaidd. Mae dod o hyd i atebion gwyddonol arloesol i broblemau yn y byd go iawn bob amser wedi bod wrth galon fy ymchwil, ac mae’n cyd-fynd yn berffaith â nod yr Academi i greu cymdeithas gynaliadwy ac economi gynhwysol sy’n gweithio i bawb.”
Dyma a ddywedodd Dr Meredith: “Rwy’n falch iawn o dderbyn y Gymrodoriaeth gan ei bod yn cydnabod gwaith CSconnected i ddatblygu technolegau galluogi o bwys, yn cefnogi diben yr Academi i harneisio grym peirianneg ac yn dod â manteision economaidd i’n diwydiant a’n partneriaid academaidd yng Nghymru a thu hwnt.”
Yr Academi Frenhinol Peirianneg yw academi peirianneg genedlaethol y DU, a’i diben yw sicrhau manteision i’r cyhoedd yn sgil rhagoriaeth ym maes peirianneg ac arloesi technolegol.
Dyma a ddywedodd yr Athro Syr Jim McDonald FREng FRSE, Llywydd yr Academi Frenhinol Peirianneg: “Mae peirianneg ym mhob man, ond heb fod yr un fath yn unman, ac mae ein Cymrodyr newydd yn cynrychioli ehangder ac amrywiaeth sylweddol y peirianwyr sy'n ymdrechu i fynd i'r afael â rhai o heriau mwyaf cymhleth y byd - gan ychwanegu budd felly at y gymdeithas a'r economi. Boed yn rhwydweithiau pŵer y genhedlaeth nesaf, systemau dŵr neu gyfrifiadura cwantwm a deallusrwydd artiffisial, mae ein Cymrodyr newydd yn llunio’r dyfodol.”
Yn wreiddiol o Weymouth yn Dorset, enillodd yr Athro Hutchings ei PhD mewn Cemeg Fiolegol o Goleg Prifysgol Llundain. Ymunodd â Phrifysgol Caerdydd yn 1997 yn Athro Cemeg Ffisegol a Phennaeth yr Ysgol Cemeg.
Mae’r CCI byd-enwog yn rhan o Ganolfan Ymchwil Drosi flaenllaw Prifysgol Caerdydd – gan ddod â byd diwydiant a gwyddonwyr at ei gilydd i ddatrys heriau byd-eang cymhleth – ac mae’n gartref i Ganolfan Max Planck newydd y Brifysgol er Hanfodion Catalysis Heterogenaidd (FUNCAT).
Astudiodd Dr Meredith, sy'n hanu o Abertawe, Ffiseg ym Mhrifysgol Caergrawnt cyn ennill PhD mewn datblygu laserau lled-ddargludyddion Blue ym Mhrifysgol Heriot Watt, Caeredin. Mae ganddo 30 mlynedd o brofiad diwydiannol a chyd-sefydlodd y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn 2015, sef menter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd ac IQE Plc.
Mae’r Athro Hutchings a Dr Meredith yn ymuno â 71 o Gymrodyr eraill yr Academi a etholwyd yn 2023.