Yn cyflwyno'r myfyriwr PhD, Jack Pulman-Slater
18 Medi 2023
Mae Jack Pulman-Slater yn fyfyriwr ymchwil PhD yn Ysgol y Gymraeg. Isod, mae e'n sôn ychydig am ei ymchwil a beth wnaeth ei ddenu i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Pwy ydych chi, o ble rydych chi’n dod, a beth yw eich cefndir academaidd?
Ces i fy magu yng ngogledd Sir Benfro. Bues i wedyn yn astudio Ieithyddiaeth yn Girton College, Prifysgol Caergrawnt cyn dod i Gaerdydd i astudio'r MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd. Es i ymlaen i hyfforddi fel athro a gweithio am gyfnod yn addysgu'r Gymraeg fel ail iaith mewn ysgol uwchradd cyn i mi ddychwelyd i Ysgol y Gymraeg yn 2019 i ddechrau fy PhD.
Beth wnaeth i chi benderfynu astudio PhD yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd?
Roeddwn i'n chwilio am sefydliad a oedd yn arbenigo yn y Gymraeg ac oedd yn caniatáu i mi ymchwilio ac ysgrifennu trwy gyfrwng yr iaith sydd hefyd yn destun fy ymchwil. Ar ben hynny, roeddwn i'n edrych am sefydliad a oedd yn rhan o rwydwaith ôl-raddedig ehangach. Mae fy ymchwil wedi'i ariannu a'i gefnogi gan the South, West and Wales Doctoral Training Partnership (AHRC). Mae aelodaeth Caerdydd o'r bartneriaeth hon a'm hysgoloriaeth wedi darparu mynediad at adnoddau a phrofiadau dysgu ac addysgu gwerthfawr iawn mewn prifysgolion eraill sy'n rhan o'r SWWDTP.
Rhowch drosolwg byr o'ch dewis bwnc ymchwil.
Mae fy ymchwil yn ystyried ynganiad oedolion sy'n dysgu'r Gymraeg fel ail iaith ac yn edrych yn benodol ar nodweddion goslefol o'u lleferydd. Dw i'n ystyried sut y mae acenion Saesneg gwahanol yn effeithio ar gaffaeliad o'r Gymraeg ymhlith mathau gwahanol o ddysgwyr. Dyma'r prosiect cyntaf sy'n dadansoddi goslef dysgwyr y Gymraeg.
Pam y byddech chi’n annog eraill i wneud PhD yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd?
Er bod yr Ysgol yn fach mae'n uchelgeisiol ac yn weithgar mewn sawl maes. Mae gan yr Ysgol gysylltiadau â phrifysgolion y tu hwnt i Gymru ac mae hyn yn galluogi rhwydweithio ag ymchwilwyr eraill yn ogystal â chyfleoedd i fynychu cynadleddau tramor. Mae maint yr ysgol hefyd yn golygu ei bod yn hawdd cysylltu â'r staff academaidd a chymdeithasu â myfyrwyr PhD eraill.
Beth yw eich cynlluniau ar ôl graddio?
Bydda i'n dechrau swydd ran amser fel Cydlynydd yn adran ieithoedd Coleg City Lit yn Llundain lle bydda i hefyd yn dysgu Cymraeg a Swedeg fel ail iaith. Dw i hefyd yn gobeithio y byddai modd i mi gyhoeddi ambell i erthygl yn seiliedig ar fy ymchwil PhD mewn cyfnodolion.