Broken String Biosciences yn sicrhau $15miliwn o gyllid
18 Medi 2023
Mae cwmni genomeg blaenllaw, Broken String Biosciences, wedi sicrhau $15miliwn o gyllid i gefnogi twf y cwmni yn y dyfodol.
Mae’r cyllid yn galluogi’r cwmni sydd wedi deillio o Brifysgol Caerdydd i gefnogi’r gwaith o ddatblygu a masnacheiddio technoleg berchnogol y cwmni ar gyfer mapio toriadau DNA (INDUCE-seq™) ymhellach.
Mae’r cwmni’n datblygu platfform technoleg i yrru’r gwaith o ddatblygu therapïau celloedd a genynnau sy’n ddiogelach o ran eu dyluniad, gan ddarparu ar gyfer gwaith mesur in-situ oddi ar y targed mewn celloedd clinigol berthnasol.
Cafodd rownd Cyfres A ei harwain gan Illumina Ventures ar y cyd â Mérieux Equity Partners. Cafwyd cyfraniadau gan HERAN Partners a’r buddsoddwyr presennol Tencent a Dieter von Holtzbrinck Ventures.
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu INDUCE-seq™, sef platfform mapio toriadau DNA y cwmni ar sail dilyniannu DNA y genhedlaeth nesaf, i greu ‘Platfform yn Wasanaeth’ y gellir ei ehangu. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl i’r cwmni wneud mwy na golygu genynnau, gan gynnwys ehangu ei strategaeth farchnata a gyrru llwyddiant masnachol.
Dywedodd Felix Dobbs, Prif Swyddog Gweithredol Broken String Biosciences, sydd â PhD a noddwyd gan AstraZeneca ym meysydd genomeg a golygu genynnau drwy CRISPR o Brifysgol Caerdydd: “Ein gweledigaeth yw sicrhau dyfodol lle mae therapïau celloedd a genynnau’n fwy diogel, yn fwy effeithlon ac yn fforddiadwy i gleifion. Mae INDUCE-seq™, sy’n cysylltu meysydd bioleg, biowybodeg a’r gwyddorau data, yn cynnig ateb diduedd o’r dechrau i’r diwedd i ymchwilwyr allu hwyluso a safoni eu prosesau dadansoddi.
“Mae’n rhoi gwybodaeth hanfodol yn gynharach yn y broses datblygu cyffuriau i nodi targedau therapiwtig newydd a meithrin hyder ar bob cam er mwyn osgoi methiannau clinigol ar gam hwyrach. Drwy ei ddatblygu’n gynnyrch Platfform yn Wasanaeth y gellir ei ddefnyddio, mae gennym ni’r cyfle i sicrhau twf esbonyddol yn y farchnad a chyflawni addewid therapiwtig y maes golygu genynnau.”
Sefydlwyd Broken String Biosciences gan yr Athro Simon Reed, arbenigwr ym maes astudio canser yn yr Ysgol Meddygaeth, a dau fyfyriwr, sef Felix Dobbs a Patrick van Eijk.
Bu i’r cwmni, a ddeilliodd o Brifysgol Caerdydd yn 2020, gwblhau cyfnod preswyl o chwe mis yn Illumina Accelerator yng Nghaergrawnt a sicrhau cyllid sbarduno o tua £3miliwn gan fuddsoddwyr o’r DU, yr Almaen a’r UD ym mis Medi 2021.
Mae’r rownd buddsoddi ddiweddaraf yn cefnogi twf parhaus y cwmni, gan gynnwys y gwaith o recriwtio i’w dîm yn y DU ar Gampws Genomau Wellcome yng Nghaergrawnt a sefydlu swyddfa yn yr UD.
Dywedodd Arnaud Autret, o Illumina Ventures: “Rydyn ni’n cydnabod pŵer technoleg Broken Strings Biosciences i wneud meysydd golygu genomau, bioleg genomau a thocsicoleg enetig yn ddiogelach, gan gynnwys gwella rhaglenni datblygu cyffuriau. Mae gan y platfform y potensial i fod yn ateb safon aur ar gyfer mesur gweithgarwch golygu genynnau oddi ar y targed.”
Ychwanegodd Yoann Bonnamour, o Mérieux Equity Partners: “Mae gan dîm Broken String Biosciences yr arbenigedd technegol a’r adnoddau, gan gynnwys cysylltiad cryf â sefydliad ymchwil genomeg blaenllaw, i wthio’r platfform hwn yn ei flaen a thrawsnewid sut mae rhaglenni golygu genynnau’n cael eu cynllunio a’u datblygu.”
Ychwanegodd Raf Roelands, o HERAN Partners: “Mae’r tîm wedi gwneud cynnydd sylweddol ers sicrhau cyllid sbarduno yn 2021. Mae wedi dangos yn llwyddiannus bod y platfform yn mynd i’r afael ag anghenion y farchnad, gan gynnwys sicrhau refeniw eto ar draws portffolio o bartneriaid. Bydd y cyllid newydd hwn yn ei gwneud yn bosibl datblygu a chyflwyno’r dechnoleg i ddiwallu anghenion pob cwsmer, gan roi’r cwmni mewn sefyllfa ddelfrydol i dyfu’n sylweddol.”
I gael rhagor o wybodaeth am Broken String Biosciences, ewch i www.brokenstringbio.com.