Mewn Sgwrs gyda Dafydd Wigley
18 Medi 2023
Ar ôl 50 mlynedd o wleidyddiaeth rheng flaen, mae Dafydd Wigley yn ymddeol o yrfa wleidyddol epig a welodd ddatblygiadau mawr yn nemocratiaeth, cyfansoddiad a chenedligrwydd Cymru.
Ers 1972, mae Dafydd Wigley wedi bod yn AS San Steffan, yn Aelod Cynulliad, yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi ac yn Arweinydd Plaid Cymru ddwywaith. Gan ennill nifer o etholiadau yn etholaeth Caernarfon, cafodd Wigley effaith amlwg ar wleidyddiaeth Cymru, gan oruchwylio blynyddoedd heriol i Blaid Cymru cyn profi llwyddiant rhyfeddol yn etholiadau datganoledig cyntaf y Cynulliad. Yn y Senedd, bu Dafydd Wigley yn gweithio ar faterion hollbwysig megis iawndal diwydiannol i weithwyr ac arian Ewropeaidd i Gymru, a mwy.
Yn ogystal â’i rôl aruthrol ym Mhlaid Cymru, mae Mr Wigley yn enwog am ei ymdrechion trawsbleidiol yn ymgyrch refferendwm y Cynulliad ym 1997 ac yna yn Nhŷ’r Arglwyddi, gan ymgysylltu ag arglwyddi eraill ar y ddeddfwriaeth ddiweddaraf sy’n effeithio ar Gymru.
Nawr, bydd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn cynnal 'Mewn Sgwrs gyda Dafydd Wigley', lle bydd y cyfwelydd arbenigol Rob Humphreys yn trafod gyda chyn Arweinydd Plaid Cymru, gan asesu ei yrfa a’i brofiad cyfan mewn gwleidyddiaeth a dadorchuddio myfyrdodau a mewnwelediadau newydd gan un o'r arweinwyr gwleidyddol mwyaf poblogaidd Cymru. Mae Mr Humphreys wedi cyfweld â ffigurau gan gynnwys Julia Gillard, Neil Kinnock a Michael Heseltine ar gyfer Canolfan Llywodraethiant Cymru, mewn sgyrsiau sy’n adnabyddus am eu manylion a’u hehangder.
Bydd y digwyddiad ar nos Fawrth 3 Hydref, am 18:00 yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd, yn cynnwys lluniaeth am ddim a sesiwn holi ac ateb. Mae’r sesiwn yn agored i bawb o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol sydd â diddordeb yng ngwleidyddiaeth Cymru - cofrestrwch am ddim yma. Noddir gan y Llywydd, Elin Jones AS.