Mae mam yn ennill gwobr dysgu cenedlaethol ac yn ei chysegru er cof am ei mab
15 Medi 2023
Mae mam yn ennill gwobr dysgu cenedlaethol, ar ôl dychwelyd i addysg i ddilyn gyrfa mewn nyrsio plant er anrhydedd i'w mab 13 oed, a gollwyd yn drasig i salwch sydyn.
Ymunodd Elinor Ridout, 40 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, â'r cwrs Llwybr Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd ar ôl iddi golli ei mab, William, i salwch sydyn ac acíwt yn ystod anterth y pandemig ym mis Mawrth 2021. Roedd hi’n hapus yn treulio’i bywyd yn canolbwyntio ar Will, a oedd ag anableddau, a'i chwaer hŷn Jenny.
Yn fuan wedi hynny, roedd hi’n teimlo bod yn rhaid iddi ddod o hyd i bwrpas, a gwneud rhywbeth er cof am Will, felly cofrestrodd ar lwybr hwn Prifysgol Caerdydd i ddilyn ei breuddwyd ac astudio gradd mewn nyrsio plant. Mae'r cwrs Llwybr at Ofal Iechyd yn llwybr clir i ddysgwyr sy'n oedolion sy'n gobeithio astudio gradd yn yr Ysgol Gofal Iechyd - mae Elinor wedi mynd ymlaen ers hynny i ddechrau gradd mewn Nyrsio Plant ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ar ôl cwblhau blwyddyn gyntaf ei gradd yn llwyddiannus, mae Elinor wedi ennill Gwobr Inspire! yn y categori Newid Bywyd a Dilyniant gan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru.
Meddai Elinor: "Rwy'n falch iawn o ennill y wobr hon. Hoffwn cyflwyno'r wobr er anrhydedd i'm dau blentyn sydd bob amser wedi fy ysbrydoli i fod y person gorau y gallaf fod. "Roeddwn wedi dysgu cymaint gan Will dros y blynyddoedd ac felly roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth a fyddai'n caniatáu imi ddefnyddio popeth yr oedd wedi'i ddysgu imi, ac rydw i wedi mwynhau gweithio gyda phlant erioed.
"Roedd Will i mewn ac allan o'r ysbyty yn aml oherwydd ei epilepsi dros y blynyddoedd, ac roedd wrth ei fodd gyda'i nyrsys yn ei ysgol a'n hysbytai lleol. Roeddwn i’n hynod ddiolchgar am y ffordd yr oedden nhw’n gofalu amdano, ac nid oedd ofn arno fod yn yr ysbyty oherwydd hynny.
"Rwy'n gwybod y byddai Will wedi bod yn hynod o falch pe bawn i'n nyrs. Y syniad o ddefnyddio popeth a ddysgodd Will imi a gallu helpu teuluoedd eraill ar eu taith oedd y cam cywir a’r unig ffordd ymlaen.
"Roeddwn i mor nerfus ynghylch dechrau astudio eto ar ôl cynifer o flynyddoedd, yn enwedig pwnc nad oeddwn i wedi'i astudio o'r blaen. Roedd y gefnogaeth a'r cyfathrebu cyn i'r cwrs ddechrau yn wych, ac roeddwn yn teimlo'n fwy cartrefol cyn i'r ddarlith gyntaf gael ei chynnal hyd yn oed.”
Cynhaliwyd Gwobrau Dysgu Oedolion Inspire! yn Neuadd Dinas Caerdydd ar 14 Medi.
Dywedodd Joshua Miles, Cyfarwyddwr Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru: "Mae Elinor wir yn haeddu'r gydnabyddiaeth drwy'r Wobr Newid Bywyd a Dilyniant. Fel mae plant Elinor wedi ei hysbrydoli hithau, mae hi'n ein hysbrydoli ninnau i gyd. Mae ei stori yn dangos sut y gall dysgu helpu i greu dyfodol disglair a chadarnhaol i ni i gyd yn wyneb heriau niferus bywyd."
Fe wnaeth Elinor hefyd annog ei merch i gwblhau'r Llwybr at Fusnes ac mae Jenny bellach yn astudio cyfrifeg yn Ysgol Busnes Caerdydd.