Rhwydwaith rhyngddisgyblaethol newydd ar gyfer ymchwil ffrwythlondeb i'w lansio yn yr Ysgol Mathemateg
14 Medi 2023
Gwahoddir arbenigwyr ym maes ffrwythloni in vitro (IVF) a phawb arall sydd â diddordeb mewn ymchwil ffrwythlondeb ryngddisgyblaethol i ddigwyddiad undydd ar ymchwil IVF yn Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd.
Mae’r digwyddiad cyd-greu hwn, sy’n cael ei gynnal ar 29 Medi rhwng 10am a 5pm, yn lansio gweithgareddau rhwydwaith newydd GW4, sef Fertility: In Vitro, in Silico, In Clinico (inFer) sy’n canolbwyntio ar wella cyfraddau llwyddiant IVF, a hynny drwy ymchwil ryngddisgyblaethol a chydweithio rhwng y bydd academaidd a chlinigau.
Prifysgol Caerdydd sy’n arwain y rhwydwaith newydd hwn. Prifysgol Bryste, Prifysgol Caerfaddon a Phrifysgol Caerwysg yw’r partneriaid eraill.
Bydd y digwyddiad yn dod â modelwyr mathemategol, dadansoddwyr data, ymchwilwyr i ddeallusrwydd artiffisial, arbrofwyr, clinigwyr, diwydianwyr a llunwyr polisïau ynghyd.
Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad fydd Giles Palmer (Uwch Embryolegydd Clinigol a Chyfarwyddwr Gweithredol y Fenter IVF Ryngwladol) a’r Athro Karl Swann (Cadeirydd Bioleg Celloedd Atgenhedlol ym Mhrifysgol Caerdydd). Bydd cyflwyniadau hefyd gan ymchwilwyr a chlinigwyr, sesiynau grŵp rhyngweithiol a chyfleoedd anffurfiol i rwydweithio.
Bydd arweinwyr rhwydwaith inFer, sef Dr Katerina Kaouri (Darllenydd) a Dr Thomas Woolley (Uwch Ddarlithydd) o Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd, yn rhoi trosolwg o’r rhwydwaith a’u hymchwil IVF ryngddisgyblaethol.
Dywedodd Dr Kaouri: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ymchwilwyr a chlinigwyr i’r digwyddiad i lansio rhwydwaith newydd GW4 ar gyfer ffrwythlondeb, sef un o’r heriau cymdeithasol mwyaf yn y byd. Bydd y rhai sy’n bresennol yn rhyngweithio drwy gydol y dydd a, gyda’n gilydd, byddwn yn nodi heriau allweddol i fynd i’r afael â nhw’n rhan o weithgareddau’r rhwydwaith yn y dyfodol, a fydd yn cynnwys Hacathon a gweithdy cyd-greu.”
Dywedodd Dr Woolley: “Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i gyflwyno aelodau’r rhwydwaith newydd o’r byd academaidd, clinigau neu’r diwydiant i rwydwaith GW4. Rydym yn annog arbenigwyr ym maes IVF ac ymchwilwyr eraill, gan gynnwys ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, sydd â diddordeb mewn ffrwythlondeb i gofrestru i ddod i’r digwyddiad hwn – mae’n gyfle gwych i gydweithio er mwyn gwella triniaeth IVF ar gyfer y dyfodol.”
Cofrestrwch heddiw i ddod i’r digwyddiad, a fydd yn cael ei gynnal yn Abacws, yr Ysgol Mathemateg, Prifysgol Caerdydd CF24 4AG. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 19 Medi 2023.
Mae cyllid ar gael ar gyfer llety a theithio (mae’n rhaid i ni roi blaenoriaeth i’r rhai sy’n ymwneud â GW4 o Brifysgol Caerfaddon, Prifysgol Bryste, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerwysg. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Dr Katerina Kaouri drwy ebostio kaourik@caerdydd.ac.uk a Dr Thomas Woolley drwy ebostio woolleyt1@caerdydd.ac.uk.