Llwyddiant cwmnïau deillio Prifysgol Caerdydd
13 Medi 2023
Mae Prifysgol Caerdydd wedi dod yn bedwerydd yn un o dablau cynghrair y DU ar gyfer llwyddiant cwmnïau deillio prifysgolion.
Mae sefydliadau’n cael eu sgorio yn ôl eu gallu i droi ymchwil yn gwmnïau ffyniannus o werth uchel.
Dim ond Prifysgol Dundee, Prifysgol Queen’s Belfast a Phrifysgol Caergrawnt a oedd yn well na Phrifysgol Caerdydd ar y rhestr, a luniwyd gan Octopus Ventures, sef un o gronfeydd cyfalaf menter mwyaf Ewrop.
Mae Adroddiad Effaith Entrepreneuraidd 2023, ‘Gateways to Growth’, yn nodi perfformiad cryf y Brifysgol yn ddiweddar.
Mae’r crynodeb yn nodi, yn 2021, mai Prifysgol Caerdydd oedd aelod mwyaf newydd partneriaeth SETsquared. “Mae’r bartneriaeth yn gweithio ar draws chwe sefydliad yn y De-orllewin i gefnogi’r ecosystem entrepreneuraidd. Mae aelod-fusnesau SETsquared wedi codi £3.9 biliwn o fuddsoddiad preifat a chyhoeddus dros yr 20 mlynedd diwethaf, gyda 70% o’r buddsoddiad hwn yn y pum mlynedd diwethaf.”
Dywedodd yr Athro Wendy Larner, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Mae Prifysgol Caerdydd yn rhagori ar droi ymchwil yn arloesedd. Mae safle’r Brifysgol ar y rhestr yn tynnu sylw at ein gallu parhaus i ddatblygu cymwysiadau sy’n cael effaith barhaol. Eleni, diolch i fuddsoddiad a gafodd ei arwain gan fy rhagflaenydd, yr Athro Colin Riordan, rydym wedi sicrhau £174 miliwn mewn grantiau a chontractau ymchwil – nid ydym wedi gweld cyfanswm o’r fath erioed. Mae ein buddsoddiad hirdymor mewn pobl fedrus, cyfleusterau ymchwil pwrpasol a phartneriaethau newydd yn helpu cwmnïau deillio i ffynnu, sy’n sicrhau manteision economaidd i Gymru a’r DU.”
Mae’r Rhestr Effaith Entrepreneuraidd yn seiliedig ar ddatgeliadau, patentau, y cwmnïau deillio a grëwyd a thrafodion ariannol dilynol sy’n gysylltiedig ag ymadawiad. Mae ymadawiad cwmnïau deillio’n hollbwysig i ba mor dda y mae prifysgolion yn perfformio ar y rhestr.
Dywedodd yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter: “Bydd ein Campws Arloesedd newydd – cartref uned hybu Arloesedd Caerdydd yn sbarc|spark a’r Ganolfan Ymchwil Drosi – yn sail i lwyddiant ein cwmnïau deillio yn y dyfodol, a fydd yn helpu arbenigwyr blaenllaw i bontio’r bwlch rhwng ymchwil gynnar a’r broses gwireddu masnachol ac yn sicrhau buddsoddiad ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.”
Mae’r adroddiad yn nodi bod y ddau berfformiwr gorau, a chwech o’r deg sefydliad gorau, y tu allan i ‘driongl aur’ Rhydychen, Caergrawnt a Llundain, sy’n amlygu bod y cryfderau academaidd sydd eu hangen ar gyfer straeon llwyddiant ym maes technoleg ddofn i’w cael ledled y DU.