Ewch i’r prif gynnwys

Sicrhau dwy gymrodoriaeth Leverhulme

12 Medi 2023

Dau ganoloesydd wedi sicrhau cymrodoriaeth ymchwil o bwys

Yn sgil dyfarniadau Ymddiriedolaeth Leverhulme, bydd ysgolheigion yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth a’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yn gallu ymchwilio ac ysgrifennu llyfrau newydd.

Mae Dr Megan Leitch, Darllenydd Llenyddiaeth Saesneg, wedi sicrhau un o Gymrodoriaethau Ymchwil Ymddiriedolaeth Leverhulme 2023 i weithio ar ei hail fonograff, The Medieval Middlebrow: Romance and the Body Politic, 1300-1534.

Mae’r prosiect llyfr hwn yn ymchwilio i’r broses o ddemocrateiddio diwylliant llenyddol Lloegr yr Oesoedd Canol hwyr drwy ymchwilio i berchnogaeth llyfrau ymhlith teuluoedd dosbarth canol a dadansoddi cymeriadau dosbarth canol mewn straeon rhamant. Mae hefyd yn ymdrin â gwleidyddiaeth rhyw, dosbarth, hil, crefydd a gallu/anabledd mewn ffordd groestoriadol.

Nod y prosiect yw mynd i’r afael â synergedd sy’n cael ei ddiystyru ond sy’n arwyddocaol wrth ystyried sut roedd y rheini mewn galwedigaethau cymdeithasol newydd a pwerus ar ddiwedd yr Oesoedd Canol, megis masnachwyr, gweision, ysgolheigion a boneddigesau preswyl, yn cymryd rhan mewn symudedd cymdeithasol cwbl newydd, tra eu bod hefyd yn cael eu cynrychioli ar ffurf cymeriadau mewn diwylliant testunol a oedd gynt ond yn perthyn i’r dosbarthiadau uwch. Wrth wneud hyn, bydd yn ymchwilio i’r berthynas rhwng cymdeithas a’r ffordd mae’n cael ei chynrychioli’n llenyddol, a hynny ar adeg pan roedd mwy o bobl yn dechrau cymryd rhan mewn bywyd gwleidyddol ac yn darllen er pleser.

Mae Dr Jenny Benham, Darllenydd Hanes yr Oesoedd Canol, wedi sicrhau un o Gymrodoriaethau Ymchwil Ymddiriedolaeth Leverhulme 2023 i wneud gwaith ar ysbiwyr ac ysbïwriaeth yn y byd canoloesol cynnar. Yn rhan o Uwch-gymrodoriaeth FRESCO)# 2024/25, bydd hi’n paratoi erthyglau academaidd ychwanegol sy’n ymdrin â’r pwnc.

Mae ‘adar bach’ (e.e. cigfrain, jac-y-dos, drudwy) – sef trosiad sy’n dynodi dynion, menywod, plant, pobl anabl, lleiafrifoedd crefyddol ac alltudion sydd ynghlwm wrth ysbïo – i’w gweld yn aml yn llenyddiaeth Ladin a brodorol Ewrop yn y cyfnod 700-1200.

Mae cyd-destun hanesyddol 'adar bach' yn dangos bod ysbiwyr, eu rhwydweithiau a'u gweithgareddau wedi chwarae rôl hanfodol yng ngwleidyddiaeth y byd canoloesol. Mae adar bach i’w gweld mewn ffynonellau dogfennol a materol, gan ddangos bod ysbiwyr, eu rhwydweithiau a’u gweithgareddau wedi chwarae rôl hanfodol yng ngwleidyddiaeth y byd canoloesol – boed y jac-y-do sy’n ysbïo ar deithwyr yn yr epig go anadnabyddus o’r 11eg ganrif, Ruodlieb, neu’r ddrudwen a ddefnyddiwyd gan Bronwen i anfon llythyrau a negeseuon cyfrinachol at frenin Prydain yn y Mabinogi.

Rhannu’r stori hon