Cynhadledd y Gymdeithas Addysg Ddeintyddol yn Ewrop
15 Medi 2023

Yn ddiweddar, mynychodd aelodau o dîm CURMeDE (Sophie, Elaine ac Alison) y gynhadledd flynyddol ar gyfer y Gymdeithas Addysg Ddeintyddol yn Ewrop (ADEE) a gynhaliwyd yn Lerpwl.
Y cyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf ers y pandemig, roedd y digwyddiad 3 diwrnod yn gyfle gwych i ddal i fyny gyda hen gydweithwyr a ffrindiau a darganfod mwy am yr hyn sy'n digwydd ym myd addysg ddeintyddol.
Bu'r tîm yn rhan o sawl cyflwyniad drwy gydol y digwyddiad gyda Jon Cowpe yn cyflwyno "Blurred Lines of Professionalism in Dentistry" a adroddodd ganfyddiadau o brosiectGDC blaenorol. Cyflwynodd Hannah Barrow o Goleg Prifysgol Llundain ganfyddiadau o'r astudiaeth honno hefyd, o'r enw "Views of dental professionals and the public about dentistry professionalism standards Are they similar to other professions?”.

Tynnodd Sophie Bartlett sylw at ganfyddiadau ein gwerthusiad GDC mwy diweddar gyda ffocws ar ddewisiadau cofrestreion deintyddol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ar-lein yn erbyn DPP wyneb yn wyneb. Roedd cyflwyniadau eraill o'r astudiaeth honno yn cynnwys adrodd ar "What Influences Dental Professionals' Choices of CPD Activities?", a gyflwynwyd gan Sophie Bartlett a "Quantity against quality: are hours-based approaches to Continuing Professional Development fit to purpose?", a gyflwynwyd gan Alison Bullock.