Grŵp ymchwil newydd yn mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern a chynaliadwyedd cymdeithasol
12 Medi 2023
Mae grŵp ymchwil newydd a sefydlwyd gan Ysgol Busnes Caerdydd a SPARK, Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, yn dod ag arbenigwyr academaidd a phartneriaid allanol ynghyd i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern a chynaliadwyedd cymdeithasol.
Y Grŵp Ymchwil i Gaethwasiaeth Fodern a Chynaliadwyedd Cymdeithasol yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru a’r DU.
Dr Maryam Lotfi, Darlithydd mewn Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi yn Ysgol Busnes Caerdydd, a Dr Anna Skeels, Cymrawd Ymchwil ym Mharc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (SPARK), yw cyd-sylfaenwyr a chyd-gyfarwyddwyr y grŵp.
Gan weithio gyda phartneriaid allweddol ar draws y byd academaidd, diwydiant, busnes, a sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector i feithrin a rhannu arbenigedd, eu nod yw darparu atebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth i heriau yn y maes hwn.
Mae caethwasiaeth fodern yn fater cymhleth a chudd, sy'n her i ymdrechion ymchwil sy'n archwilio natur a maint y broblem. Mae ymchwil ar gynaliadwyedd yn tueddu i or-ganolbwyntio ar agweddau economaidd ac amgylcheddol ar draul cynaliadwyedd cymdeithasol.
Nod y grŵp ymchwil yw llywio polisi ac arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gaethwasiaeth fodern a chynaliadwyedd cymdeithasol, gan gael effaith gadarnhaol ar gymunedau yng Nghymru, y DU, ac yn rhyngwladol.
Gan alinio ag is-grwpiau Fforwm Gwrth-Gaethwasiaeth Cymru (ASFW) Llywodraeth Cymru, trefnir ymchwil o amgylch y themâu canlynol:
- hyfforddiant ac ymwybyddiaeth
- dioddefwyr a goroeswyr
- atal
- cadwyni cyflenwi a rhyngwladol
Llwyddodd y grŵp i sicrhau cyllid Kickstarter gan y Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Troseddu a Chudd-wybodaeth i helpu â digwyddiad amlasiantaeth, amlddisgyblaeth, yn ogystal ag ariannu teithiau ymchwil ac ymweliadau cyfnewid gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r Grŵp Ymchwil a'r hyn y mae’n canolbwyntio arno.
Cynhaliodd y grŵp lansiad ar 27 Gorffennaf. Yn y digwyddiad poblogaidd, daeth ymchwilwyr a phartneriaid at ei gilydd i ddysgu am y grŵp a thrafod ymchwil ar reoli risg caethwasiaeth fodern yn y gadwyn gyflenwi a phobl sydd â phrofiad go iawn o gaethwasiaeth fodern. Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o Brifysgol Caerdydd, prifysgolion eraill y DU, a phartneriaid fel Llywodraeth Cymru, Unseen UK, Barnardo’s, a llawer o rai eraill.
Rhagor o wybodaeth am y Grŵp Ymchwil i Gaethwasiaeth Fodern a Chynaliadwyedd Cymdeithasol.