Horizon Europe
8 Medi 2023
Mae academyddion Prifysgol Caerdydd ar fin cael mynediad eto at raglen fwyaf y byd ar gyfer ymchwil, ar ôl i Lywodraeth y DU daro bargen.
Yn rhan o raglen Horizon Europe, bydd ymchwilwyr y DU yn gallu ymgeisio am grantiau a chyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau.
Mae’r rhaglen yn rhoi cyfleoedd unigryw i arwain gwaith byd-eang er mwyn datblygu technolegau a phrosiectau ymchwil newydd ar draws meysydd y gwyddorau cymdeithasol, y gwyddorau ffisegol a’r gwyddorau biolegol.
Mae’r fargen wedi cael croeso cynnes, ac mae cymuned ymchwil y Brifysgol wedi’i hannog i fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd newydd i sicrhau cyllid.
“Mae bod yn gysylltiedig â Horizon Europe yn newyddion gwych i’n hacademyddion a hefyd ar gyfer gwyddoniaeth, ymchwil ac arloesedd yn y DU yn gyffredinol,” meddai Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Wendy Larner.
“Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn ansicr, sydd wedi achosi rhwystredigaeth, yn enwedig am fod y Brifysgol wedi arwain a bod yn rhan annatod o lawer o brosiectau Horizon yn y gorffennol.
“Bydd maint yr ymchwil sy’n cael ei chefnogi gan Horizon Europe yn gwella bywydau ac yn helpu i fynd i’r afael â’r heriau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol rydym yn eu hwynebu. Mae cwmpas Horizon heb ei ail, ac mae’r rhaglen yn agor y drws i fyd o gyfleoedd i gydweithio ar ymchwil.”
Mae’r prosiectau y mae Prifysgol Caerdydd wedi’u harwain yn flaenorol wedi canolbwyntio ar fapio’r ymennydd dynol, datblygu atebion i sicrhau ynni glân a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, ymhlith pethau eraill.
Un prosiect o’r fath oedd prosiect DOWN2EARTH, a gafodd ei ariannu gan Horizon 2020 a’i arwain gan yr Athro Michael Singer. Ac yntau wedi’i drafod yn COP27, daeth y prosiect â phartneriaid o bob rhan o Ewrop ynghyd i ymchwilio i effeithiau go iawn newid yn yr hinsawdd ar gymunedau sy’n agored i niwed yn nhaleithiau sych Corn Affrica.
Yn rhan o’r fargen, bydd y DU hefyd yn gysylltiedig â Copernicus, sef y rhaglen Ewropeaidd ar gyfer Arsylwi’r Ddaear.
Bydd hyn yn galluogi sector y DU ar gyfer arsylwi’r Ddaear i weld data unigryw (sy’n werthfawr ar gyfer paratoi rhybuddion cynnar rhag llifogydd a thân, er enghraifft) ac ymgeisio am gontractau, nad yw wedi gallu ei wneud ers tair blynedd.
Dywedodd y Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter, yr Athro Roger Whitaker: “Mae'r cyhoeddiad hwn yn cynnig sicrwydd a sefydlogrwydd angenrheidiol i’n cymuned ymchwil. Rwy’n gwybod bod gennym y wybodaeth i chwarae rôl flaenllaw yn Horizon unwaith eto. Mae ein cymuned ymchwil yn barod i fynd ac ailgychwyn cysylltiadau â’n partneriaid Ewropeaidd. Rydym hefyd yn barod i weithio i wneud y gorau o gyfleoedd Horizon.”