Ymchwil yn nodi bod sefydliadau addysg uwch yn agored i risg o ran gwyngalchu arian
7 Medi 2023
Yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Gorllewin Lloegr, mae ‘nifer fach iawn’ o sefydliadau addysg uwch yn methu â rhoi arweiniad i’w staff a’u myfyrwyr ar y risgiau o ran gwyngalchu arian.
Mae'r ymchwil, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn The Criminal Law Review, yn dweud nad yw sefydliadau addysg uwch wedi’u cynnwys yn benodol yng nghwmpas rheoliadau atal gwyngalchu arian y DU, sy’n golygu bod ‘bwlch sylweddol’ yn y ffordd y mae’r gyfraith yn cael ei rhoi ar waith.
Cyflwynwyd ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth i 120 o brifysgolion ledled y DU er mwyn gwneud yr ymchwil. Atebodd 110 ohonynt.
Mae’r dadansoddiad a ddilynodd o’r data dienw’n dangos nad yw 20% o’r prifysgolion yn rhoi unrhyw hyfforddiant mewnol ar atal gwyngalchu arian i’w staff ar hyn o bryd. Hefyd, nid yw 24% o’r prifysgolion ychwaith yn rhoi unrhyw arweiniad i’w myfyrwyr ar y risgiau y mae troseddu ariannol a chyfundrefnol yn eu peri iddynt.
Er bod 17 prifysgol wedi nodi eu bod wedi rhoi’r gorau i dderbyn taliadau arian parod yn ystod 2019-20 neu ar ôl hynny, mae 22 prifysgol yn parhau i dderbyn taliadau arian parod ar gyfer ffioedd dysgu a llety.
Derbyniodd tair prifysgol yr un fwy na £1 miliwn mewn taliadau arian parod yn 2019-20, a hyd at £12 miliwn oedd cyfanswm y taliadau arian parod a dderbyniwyd ar draws 39 prifysgol yn yr un flwyddyn.
Mae'r canfyddiadau hefyd yn dangos nad yw’r rhan fwyaf o brifysgolion yn cyflwyno adroddiadau ar weithgarwch amheus i’r awdurdodau. Mae'r canllawiau presennol yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau ac unigolion wneud hynny pan fyddant yn amau gweithgarwch troseddol a hefyd er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n gyfrifol am drosedd eu hunain.
Gwyngalchu arian yw’r broses o wneud i enillion troseddu cyfundrefnol sy’n mynd i mewn i’r system fancio ymddangos yn arian sydd wedi dod o ffynhonnell gyfreithlon, sy’n ariannu ffordd foethus troseddwyr o fyw. Er ei bod yn anodd mesur maint y broblem, mae academyddion yn amcangyfrif y gallai ddod yn £44-£111 biliwn y flwyddyn yn y DU yn unig.
Dywedodd y prif awdur, yr Athro Nicholas Ryder, o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae gangiau troseddu cyfundrefnol yn defnyddio myfyrwyr a sefydliadau addysg uwch fwyfwy’n fodd i wyngalchu arian. Er hynny, nid oes llawer o ddealltwriaeth wedi bod hyd yma o ymateb y sector i’r broblem. Mae ein canfyddiadau'n dangos bod llawer o brifysgolion yn methu â datblygu mesurau ataliol cadarn, sy’n rhoi eu staff a’u myfyrwyr mewn perygl o gael eu targedu.
“Mae'r rhan fwyaf o brifysgolion wedi rhoi’r gorau i dderbyn taliadau arian parod, ond gwelsom fod nifer sylweddol o brifysgolion yn dal i fod yn barod i wneud hynny. Yr hyn sy'n peri pryder fwy yw’r ffaith nad yw rhai prifysgolion yn cyfyngu ar faint y gellir talu am bethau ag arian parod. Mae’n debyg hefyd nad yw’r rhan fwyaf o sefydliadau addysg uwch yn sylweddoli bod adroddiadau ar weithgarwch amheus yn cynnig deallusrwydd ariannol gwerthfawr ac yn fodd i amddiffyn eu gweithwyr.
“Mae angen cryfhau’r ddeddfwriaeth bresennol. Os na chaiff prifysgolion eu cynnwys yn benodol yng nghwmpas y rheoliadau, bydd y gyfraith yn parhau i gael ei chymhwyso mewn ffordd anghyson ar draws y sector, a bydd y risg i brifysgolion, eu gweithwyr a’u myfyrwyr o ran gwyngalchu arian a bod yn gyfrifol am drosedd yn uchel.
Dywedodd Dr Samantha Bourton, Uwch Ddarlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr: “Mae ein hymchwil wedi dangos bod prifysgolion yn derbyn taliadau amheus gan droseddwyr euog ac unigolion gwleidyddol amlwg llwgr. Hefyd, mae sawl achos ar gofnod wedi dangos sut mae myfyrwyr yn ei gwneud yn bosibl i droseddwyr cyfundrefnol gamddefnyddio eu cyfrif banc, sy’n arwain at ganlyniadau niweidiol i’w lles a’u rhagolygon o gael gwaith yn y dyfodol.
“Er gwaethaf y risgiau hyn, dangosodd ein hymchwil fod amrywiaeth sylweddol rhwng sefydliadau addysg uwch o ran rhoi mesurau sefydledig ar waith i atal gwyngalchu arian. Er mwyn mynd i'r afael â'r broblem hon, mae ein papur yn argymell bod prifysgolion yn cael eu cynnwys yn benodol yng nghwmpas rheoliadau atal gwyngalchu arian.”