Cloddio archaeoleg
6 Medi 2023
Mae haul yr haf ar ein gwarthaf a’r cloddio'n cydio: bellach, mae myfyrwyr archaeoleg a chadwraeth wedi mynd allan ar leoliad yn rhan o’u gradd
5 gwlad. 10 prosiect. 120 o israddedigion.
Mae israddedigion graddau archaeoleg a chadwraeth yn cloddio ym Mhrydain a thu hwnt yr haf hwn, gan roi eu sgiliau ar waith i ddatgelu'r gorffennol.
Eleni, mae 120 o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn mynd allan i safleoedd Neolithig, Oes yr Haearn, Oes yr Efydd, Rhufeinig a chanoloesol cynnar yng Nghymru, Lloegr, Denmarc, yr Almaen a'r Weriniaeth Tsiec dros gyfnod o dri mis o gloddio.
Cynhelir y lleoliadau, fydd yn para am bedair wythnos, bob haf gan roi cyfoeth o brofiad ymarferol i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 eu gradd.
Bydd yr israddedigion yn manteisio i’r eithaf ar bartneriaethau hirsefydlog y Brifysgol â rhanddeiliaid ac ymarferwyr ledled Cymru a thu hwnt iddi, a bydd rhai yn cael profiad ym maes rheoli treftadaeth yn ogystal ag archaeoleg gymunedol ac arbrofol.
Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn mynd i safleoedd yng Nghymru a Lloegr. Bydd pedwar yn cael eu harwain gan archaeolegwyr o Gaerdydd, gan gynnwys Trelái ar gyrion Caerdydd, Ffwl-y-mwn a Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg. Mae gwaith cloddio yn y DU hefyd yn digwydd yn Dorset, Henffordd a Wiltshire dros y ffin.
Bydd 34 o fyfyrwyr yn chwarae eu rhan ymhellach i ffwrdd yn Middelaldercentret yn Nenmarc, Piepenkopf a Grotenburg yn yr Almaen a Těšetice-Kyjovice yn y Weriniaeth Tsiec.
A hithau’n fyfyrwraig israddedig, dewisodd Katie Faillace (Archaeoleg, PhD 2021 a BA 2015) i gloddio yn y trysor cudd hwnnw yng Nghaerdydd, sef bryngaer Caerau cyn ail leoliad yn Amgueddfa Archaeoleg Llundain.
A hithau bellach yn diwtor ôl-raddedig, dyma farn Katie: ‘Mae lleoliadau archaeoleg yr haf gan Brifysgol Caerdydd yn amhrisiadwy - ro’n i’n ddigon ffodus o gael gweithio yn y maes mewn uned fasnachol fawr, gan roi’r sgiliau amrywiol imi allu gweithio ym maes archaeoleg yn y dyfodol, llu o gysylltiadau ym myd diwydiant a gwneud ffrindiau arbennig newydd.”
‘Mae lleoliadau’n elfen annatod o’r graddau Archaeoleg a Chadwraeth yng Nghaerdydd, ac mae hyn yn rhywbeth sy’n amlwg yn sgil ein hymrwymiad i ddod o hyd i’r elfen werthfawr hon yn y rhaglen, ei diogelu a’i hariannu’, esbonia’r Athro Jacqui Mulville, Pennaeth Archaeoleg a Chadwraeth.
Cynigir Archaeoleg yng Nghaerdydd ar ffurf BA a BSc Anrhydedd Sengl, ac ar y cyd â Hanes yr Henfyd a Hanes, ac mae Cadwraeth Gwrthrychau mewn Amgueddfeydd ac Archaeoleg (BSc) ar gael ar ffurf Anrhydedd Sengl.