Gweithdy ymchwil yn llwyddiant ysgubol
6 Medi 2023
Mae gweithdy ymchwil a gynhaliwyd yn ddiweddar yn yr Ysgol Ieithoedd Modern wedi bod yn llwyddiant mawr.
Cynhaliwyd y gweithdy o'r enw 'Symbolau Japan, Japan fel Symbolau' ar 13 a 14 Gorffennaf ac fe drefnwyd y gweithdy gan Dr Christopher Hood o'r Ysgol Ieithoedd Modern a Dr Christopher Hayes, cyn-fyfyriwr PhD yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ond sydd bellach wedi'i leoli ym Mhrifysgol Teesside.
Nod y gweithdy deuddydd hwn oedd archwilio nifer o symbolau amrywiol yn Japan mewn meysydd fel llenyddiaeth, ffilm, hanes diwylliannol a diwylliant gweledol.
Daeth 15 o gyfranogwyr o'r DU, Ewrop, Gogledd America a Japan i’r gweithdy a ariannwyd gan ddau sefydliad allanol, sef Sefydliad Sasakawa Prydain Fawr a Swyddfa Sefydliad Japan Llundain Daeth myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd i’r gweithdy.
Yn ystod y gweithdy, rhoddwyd cyfle i'r cyfranogwyr rannu eu hymchwil a chael adborth gan y cyfranogwyr eraill oedd â diddordebau gwahanol ond cysylltiedig. Roedd y gweithdy hefyd yn caniatáu i'r cyfranogwyr gael profiad o gyflwyno eu hymchwil, cael cyngor ac awgrymiadau gan ysgolheigion mwy profiadol, a chyfle i gyhoeddi eu gwaith.
Dywedodd Dr Christopher Hood, Darllenydd mewn Astudiaethau Japaneaidd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern: "Roedd yn weithdy gwirioneddol wych a ddaeth ag ystod o ysgolheigion ynghyd sydd â diddordebau ymchwil amrywiol iawn, ond sy’n gysylltiedig drwy symbolaeth a Japan. Roedd y gweithdy hwn yn brawf bod gweithdai wyneb yn wyneb yn parhau i fod yn rhan hanfodol o'r byd academaidd, hyd yn oed wrth i ni barhau i chwilio am ffyrdd o fanteisio ar seminarau ar-lein a hybrid a phethau tebyg."
Mae trefnwyr y digwyddiad nawr yn bwriadu defnyddio'r gweithdy fel sbardun ar gyfer o leiaf un cyhoeddiad i sicrhau bod y gweithdy'n cael effaith barhaol.