Delweddau newydd Telesgop Gofod James Webb o dwll clo Uwchnofa 1987A yn gallu datgloi rhyfeddodau sêr sy’n ffrwydro, yn ôl seryddwyr
31 Awst 2023

Yn ôl tîm rhyngwladol o wyddonwyr, mae delweddau newydd o uwchnofa a’i holion sydd 168,000 o flynyddoedd goleuni o’r Ddaear yn rhoi syniad o sut mae sêr sy’n ffrwydro’n datblygu dros amser.
Mae’r tîm, dan arweiniad ymchwilydd o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd, yn dweud bod y delweddau o SN 1987A, uwchnofa sydd wedi’i hastudio’n helaeth, yn well nag unrhyw beth y mae Telesgop Gofod Hubble a Thelesgop Gofod Spitzer wedi’i arsyllu o’r blaen.
Mae’r delweddau, a gipiwyd gan gamera lled-isgoch Telesgop Gofod James Webb ar 1 Medi 2022, yn dangos strwythurau cilgantaidd nad ydym wedi’u gweld o’r blaen yn olion yr uwchnofa. Credir bod y cilgantau hyn yn rhan o haenau nwy allanol y ffrwydrad.
Dywedodd Dr Mikako Matsuura, Darllenydd yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd sy’n arwain y gwaith o ddadansoddi’r delweddau newydd: "SN 1987A yw’r uwchnofa agosaf at y Ddaear a nodwyd ers y 400 mlynedd diwethaf. Dros y cyfnod hwnnw, mae bron pob telesgop mawr yn hemisffer y de a gwahanol genedlaethau o delesgopau gofod wedi’i harsyllu.
"Yn gwbl annisgwyl, datgelodd Telesgop Gofod James Webb nodweddion nad oeddem yn gwybod amdanynt yn flaenorol, fel y siapiau cilgantaidd hyn yn all-lif yr uwchnofa. Mae’n dangos gallu’r telesgop i gyflwyno strwythurau a astudiwyd yn helaeth mewn ffyrdd newydd a chyffrous."
Mae’r delweddau, a gipiwyd drwy harneisio sensitifrwydd a chydraniad gofodol dihafal y telesgop, hefyd yn dangos strwythur canolog tebyg i dwll clo sy’n llawn nwy clystyrog a llwch a gafodd eu taflu allan gan yr uwchnofa bron 40 mlynedd yn ôl.
Ychwanegodd Dr Matsuura: "Bu i Delesgop Gofod Spitzer arsyllu SN 1987A yn isgoch am ei oes gyfan, a rhoddodd wybodaeth bwysig i ni am sut mae’r golau o olion yr uwchnofa’n newid dros amser. Er hynny, nid oedd byth yn gallu sicrhau’r un faint o eglurder a manylder sydd i’w weld yn nelweddau newydd Telesgop Gofod James Webb.

"Mae’r manylder hwn, sydd ar lefel arall, yn golygu ein bod bellach yn gwybod beth sy’n digwydd y tu mewn i SN 1987A. Mae siocdonnau o’r uwchnofa’n gwrthdaro â chylch cyhydeddol yr olion, sy’n cynhesu’r llwch a’r nwy y tu mewn iddo yn ogystal â’r hyn sydd o’i amgylch i allyrru golau isgoch, sef yr hyn y mae Telesgop Gofod James Webb yn hynod sensitif iddo."
Mae SN 1987A, sydd yn yr alaeth nesaf at y Llwybr Llaethog, wedi bod yn destun arsylliadau dwys ar bob un donfedd, o belydrau gama i donnau radio, ers iddi gael ei darganfod yn Chwefror 1987.
Fel Telesgop Gofod Spitzer, bydd Telesgop Gofod James Webb yn parhau i arsyllu’r uwchnofa drwy ddefnyddio ei sbectrograff lled-isgoch a’i offeryn isgoch-canolig, a fydd yn galluogi seryddwyr i gipio data isgoch tra chywir newydd dros amser.
Bydd y telesgop hefyd yn parhau i gydweithio â Thelesgop Gofod Hubble, Arsyllfa Pelydr-X Chandra ac arsyllfeydd eraill i gynnig gwybodaeth newydd am orffennol a dyfodol yr uwchnofa arbennig hon.
Dywedodd Dr Roger Wesson, cydymaith ymchwil yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd ar y tîm rhyngwladol sy’n gwneud y gwaith dadansoddi: "Er gwaethaf astudio SN 1987A ers bron i 40 mlynedd erbyn hyn, mae dirgelion i’w cael o hyd.
"Oherwydd lefel y manylder ac eglurder sydd i’w gweld yn nelweddau Telesgop Gofod James Webb, gall SN 1987A roi rhyw fath o syniad o’r hyn sy’n digwydd pan fydd siocdonnau uwchnofa’n symud â grym drwy’r nwy a’r llwch o’i hamgylch."
"Oherwydd lefel y manylder ac eglurder sydd i’w gweld yn nelweddau Telesgop Gofod James Webb, gall SN 1987A roi rhyw fath o syniad o’r hyn sy’n digwydd pan fydd siocdonnau uwchnofa’n symud â grym drwy’r nwy a’r llwch o’i hamgylch."
"Mae lefel y manylder y mae JWST yn ei chreu’n syfrdanol," meddai'r Athro Haley Gomez yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd, sydd hefyd yn rhan o'r tîm rhyngwladol.

"Yn dilyn yr olygfa hynod fanwl a newydd hon o’r hyn sy’n digwydd yn sgil ffrwydrad serol enwog, gallwn ddysgu cymaint am y ffordd y bydd sêr sy’n ffrwydro’n rhyngweithio â’r hyn sydd o’u hamgylch a’i lunio."