Chwalu'r stigma: gwneud iechyd mislif yn rhan o sgwrs bob dydd
30 Awst 2023
Ym mis Ebrill 2023 ymunom ni â'r Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Anhwylderau Cyn-mislif (IAPMD) ar gyfer #PMDAwarenessMonth2023 i godi ymwybyddiaeth o anhwylderau cyn-mislif trwy ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol a digwyddiadau wyneb yn wyneb.
Mae Anhwylder Dysfforig Cyn-Mislif (PMDD) yn anhwylder hwyliau yr amcangyfrifir ei fod yn effeithio ar tua 5.5% o fenywod a phobl sy'n cael mislif. Mae hynny’n tua 80,000 o bobl yn y DU.
Yn ystod yr wythnos cyn dechrau gwaedu (a adwaenir fel cyfnod lwteaidd cylch y mislif), mae'r unigolion hyn yn profi newid hwyliau ac emosiynol difrifol, gan gynnwys gorbryder a hwyliau isel, llai o ddiddordeb mewn gweithgareddau arferol, anawsterau canolbwyntio a symptomau eraill.
Mae’r symptomau’n dechrau gwella o fewn ychydig ddyddiau wedi i’r gwaedu misol (mislif) gychwyn.
Yn ystod yr wythnos cyn y gwaedu mislif, a elwir yn gyfnod lwteal, mae pobl â PMDD yn profi symptomau megis:
- Iselder neu hwyliau hynod isel
- Gorbryder
- Llai o ddiddordeb mewn gweithgareddau arferol (megis gwaith, ysgol, ffrindiau a hobïau)
- Newid cyflym a gormodol mewn hwyliau
- Anniddigrwydd neu ddicter
- Syrthni, blino’n hawdd neu ddiffyg egni
- Cysgu’n ormodol neu ddiffyg cwsg
- Teimladau o fod wedi'u llethu neu allan o reolaeth
Dyfodol gofal iechyd PMDD – beth sy'n digwydd yng Nghymru?
Ddydd Mawrth Ebrill 18, ymunodd yr Athro Di Florio â Laura Murphy, Cyfarwyddwr Addysg ac Ymwybyddiaeth yn IAPMD ar gyfer trafodaeth banel ochr yn ochr â’r eiriolwyr dros PMDD Becci Frost, Laura Teare-Jones, a Debbie Shaffner o Triniaeth Deg i Ferched Cymru (FTWW).
Roedd y panel yn drafodaeth anffurfiol yn ymwneud â dulliau o drin anhwylderau cyn mislif yng Nghymru ar gyfer menywod ac unigolion a bennwyd yn fenywaidd adeg eu geni.
Roedd yr Athro Di Florio yn gallu cynnig persbectif clinigol tra bod cynrychiolwyr cleifion a'r panelwyr â phrofiad byw yn rhannu eu straeon personol ac yn trafod beth arall sydd angen ei wneud er budd y rhai sy'n byw gyda symptomau neu ddiagnosis o PMDD.
Eiriol dros newid polisi – PMDD yn Senedd Cymru
Ymunon ni â Becci Frost hefyd i godi ymwybyddiaeth o PMDD o fewn Llywodraeth Cymru yn Senedd Cymru ar Ebrill 26 mewn digwyddiad cyhoeddus a noddwyd gan Sioned Williams AS.
Mae Becci Frost yn eiriolwr PMDD sy’n eistedd ar banel FTWW ac sydd wedi ysgrifennu’n flaenorol i’r NCMH am ei phrofiadau gyda’r anhwylder.
Daeth nifer o aelodau'r Senedd i'r digwyddiad, gan drafod eu profiadau - boed bersonol neu deuluol - o iechyd meddwl atgenhedlol ac roedd yn gam pwysig at chwalu'r stigma drwy ymgorffori iechyd mislif i mewn i sgwrs bob dydd.
Drwy gydol y dydd, cafwyd dangosiadau o ffilm fer 'Sabrina' gan Amy Greenbank.
Mae'r ffilm yn adrodd hanes menyw sy'n profi PMDD ac roedd yn brosiect cydweithredol gan Greenbank a rhai â phrofiad byw fel Becci.
Wrth ysgrifennu am y digwyddiad, dywedodd Becci:
“Cefais fy syfrdanu gan y nifer o bobl a ddaeth!
“Roedd [y bobl a ddaeth] wir yn awyddus i ddysgu am PMDD a sut mae'n effeithio ar ein bywydau. Daeth eraill am eu bod wrth eu bodd fod PMDD yn cael cydnabyddiaeth o'r diwedd, neu am nad oedden nhw wedi clywed am PMDD o'r blaen."
Drwy gydol mis Ebrill, buom ni hefyd yn gweithio gyda’r ymgyrchydd Laura Teare-Jones a rannodd ei stori am fyw gyda PMDD ar ein blog.
I ddarllen mwy am ein hymchwil i PMDD, gan gynnwys sut y gallwch chi gymryd rhan, ewch i dudalen yr astudiaeth.