Deall cyffredinrwydd pob clefyd yn y DU
23 Awst 2023
Mae gwefan newydd yn ei gwneud yn rhwydd i'r cyhoedd, gweithwyr iechyd proffesiynol ac ymchwilwyr gyrchu data am gyffredinrwydd pob clefyd yn y DU. Dyma lwyddiant nodedig ym maes dadansoddi gwybodaeth iechyd fyd-eang.
Mae tîm o wyddonwyr o Brifysgol Caerdydd, ac ymchwilwyr sy'n gysylltiedig â'r Brifysgol, wedi datblygu a chyhoeddi PrevalenceUK, y platfform awtomataidd cyntaf sy'n golygu bod modd bellach chwilio am ddata ynghylch cyffredinrwydd clefydau yn y DU.
Mae'r wefan yn defnyddio platfform dadansoddol o'r radd flaenaf o'r enw Livingstone i ddadansoddi data gofal iechyd arferol mewn amser real, bron iawn. Mae'r platfform hwn yn caniatáu prosesu data iechyd ymhen ychydig o funudau, sef cam ymlaen yn y maes hwn, gan ei bod yn bosibl i astudiaeth wyddonol sy'n defnyddio data cymhleth y GIG bara am rhwng 12 a 18 mis, tra y gellir cynnal yr un astudiaeth gan ddefnyddio Livingstone ymhen ychydig o funudau.
Dyluniwyd y peiriant dadansoddol gan dîm o ymchwilwyr o Ysgol Mathemateg, Meddygaeth a Gwyddorau Cyfrifiadurol a Data Dynol Prifysgol Caerdydd. Mae'r tîm yn canolbwyntio ar wella iechyd y cyhoedd, a'r nod yw y bydd modd cyrchu gwybodaeth am iechyd yn amserol.
Dyma a ddywedodd yr Athro Craig Currie, Athro ffarmaco-epidemioleg ym Mhrifysgol Caerdydd: "Yn sgil y gallu i gyrchu dadansoddiadau epidemiolegol hanfodol ar unwaith, mae Livingstone a Prevalence UK yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion, sef gwella canlyniadau gofal iechyd yma yn y DU a lleoedd eraill.
"Mae'r astudiaethau epidemiolegol hyn fel arfer yn cymryd rhwng un a dwy flynedd, am gost ariannol sylweddol, a dim ond gan ddefnyddio tîm mawr o arbenigwyr. Gall Livingstone wneud yr un peth, ac yn well, ymhen ychydig o funudau. O ganlyniad, rydyn ni wedi creu rhyngwyneb sy’n hawdd ei ddefnyddio ac sy'n caniatáu i ddefnyddwyr hidlo data cyffredinrwydd yn ôl clefydau.
"Gall y wybodaeth hon gynorthwyo i greu polisïau iechyd effeithiol ac wedi'u targedu, datblygu blaenoriaethau ymchwil feddygol a helpu i ddyrannu adnoddau gofal iechyd prin."
Dyma a ddywedodd Dr John Peters, cyn-Gyfarwyddwr Meddygol Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro: "Rydyn ni’n rhagweld hyn yn drobwynt ym maes dadansoddi gwybodaeth iechyd fyd-eang. P'un a ydych chi'n wneuthurwr polisi, yn ymchwilydd, yn ddarparwr gofal iechyd neu'n unigolyn sydd â diddordeb, mae ein platfform yn rhoi'r allbynnau i ddeall epidemioleg clefydau a sut maen nhw'n effeithio ar ein poblogaethau.
"Drwy ddeall epidemioleg afiechydon yn y DU ac o amgylch y byd ac yn sgil y gallu i greu gwybodaeth am iechyd ar unwaith sydd hefyd yn wyddonol ddilys, bellach mae modd datblygu strategaethau triniaeth mwy effeithiol, mentrau iechyd cyhoeddus a mesurau ataliol."
Gwaith dilysu gwyddonol diweddar y tîm, tystiolaeth yn y byd go iawn gan y platfform dadansoddeg gofal iechyd ar-lein cyntaf—Livingstone. Cyhoeddwyd Validation of its descriptive epidemiology module, yn y cyfnodolyn PLoS Digital Health.