Tîm Rasio Caerdydd yn cystadlu yn Formula Student UK
21 Awst 2023
Aeth tîm o 21 o fyfyrwyr, o'r Ysgol Peirianneg, ar daith i lecyn y National Pits Straight yng Nghylchdaith Silverstone i gystadlu yn Formula Student UK.
Aeth tîm o 21 o fyfyrwyr, o'r Ysgol Peirianneg, ar daith i lecyn y National Pits Straight yng Nghylchdaith Silverstone i gystadlu yn Formula Student UK.
Gan ddechrau ddydd Mercher 19 Gorffennaf, ymunodd y tîm o Brifysgol Caerdydd â 118 o dimau eraill, gyda'u car diweddaraf CR19 sy’n cael ei adnabod yn annwyl â’r enw 'Basil Faulty. '
Oherwydd ychydig o broblemau a gafwyd yn y cyfnod profi cyn y gystadleuaeth, aeth CR19 i’r gystadleuaeth mewn 'cyflwr addawol ond, i raddau helaeth, heb ei brofi', ac roedd y tîm yn ansicr ynghylch sut y byddai’n perfformio.
Yn ystod ychydig ddyddiau cyntaf y digwyddiad roedd angen sefydlu'r pant a'r maes gwersylla a chystadlu mewn cyfres o ddigwyddiadau llonydd; roedd y rhain yn cynnwys elfennau o ddylunio, rheoli prosiectau, costau, gweithgynhyrchu a busnes.
Dros y penwythnos, dechreuodd y digwyddiadau symud a oedd yn profi ymarferoldeb y car ond datblygodd CR19 broblemau gyda serfo’r clytsh gan arwain at safle is na'r hyn y gobeithiwyd amdano yn y digwyddiadau Cyflymu a Pad Sgidio.
Fe ddatrysodd y tîm y problemau’r prynhawn hwnnw gan ganiatáu i amser cystadleuol gael i gyflawni ar y digwyddiad Sbrint, ac fe baratôdd hyn y tîm ar gyfer y digwyddiad Dygnwch ar y dydd Sul.
Yn ystod y digwyddiad Dygnwch, gyrrodd CR19 yn fuddugoliaethus i fyny'r trac 22 cilomedr, gan orffen yn y safle cyntaf, a hynny am y tro cyntaf i Gaerdydd ers 2018. Fe wnaethant hefyd gyflawni amser cystadleuol a chyrraedd y trydydd safle yn y digwyddiad hwnnw, gyda Aaron Farmer, sef aelod o’r tîm yn ennill gwobr am ei yrru rhagorol.
Yn gyffredinol, gosodwyd Rasio Caerdydd yn chweched yn Formula Student UK, sy’n golygu ei bod wedi gwella ar eu safle ers y llynedd.
Dywedodd Noah Peet, Arweinydd Tîm Rasio Caerdydd a myfyriwr yn yr Ysgol Peirianneg: “Hoffwn longyfarch pawb yn nhîm Rasio Caerdydd – roedden ni’n falch iawn ohonoch. Diolch yn fawr iawn i bawb a fu'n rhan o'r modiwlau EN4101/4111, roedd eich cymorth a'ch cefnogaeth ar gyfer dylunio CR19 yn amhrisiadwy.
“Yn ogystal, mae diolch enfawr yn ddyledus i bawb yn y Gweithdy Mecanyddol ac EVONA, heb eu cymorth byddai rhannau mawr o'r car yn dal i fod heb eu gosod nawr. Yn yr un modd, heb y tîm yn islawr y sifiliaid, byddem hefyd wedi bod heb wybod lle i droi – fe fu iddyn nhw'n aml ruthro rhywbeth atom ar amserlen 'mae angen hyn arnom ni ddoe os gwelwch yn dda. '
“Yn olaf, diolch enfawr i Lee Treherne, sydd wedi mynd y tu hwnt i'w ddisgrifiad swydd eleni, ym mhob ffordd, i helpu i ofalu ar ôl y tîm hwn o bobl ac edrych ar ôl ei aelodau a helpu i adeiladu car i ni a groesodd y llinell derfyn.
“Rydym yn edrych ymlaen at y flwyddyn sydd ar ddod, felly cadwch lygad allan am CR20 – rwy'n siŵr mai hwn fydd y car gorau eto!”