Mae seryddwyr wedi canfod strwythurau “nad yw’r un telesgop wedi gallu eu gweld o’r blaen” mewn delweddau newydd sy’n dangos seren sydd wrthi’n marw
21 Awst 2023
Mae delweddau newydd o seren sydd wrthi’n marw yng nghanol nifwl planedol adnabyddus sydd 2,600 o flynyddoedd golau o'r Ddaear yn dangos ei bod yn system tair seren, yn ôl tîm rhyngwladol o wyddonwyr.
Mae’r tîm, sy’n cael ei arwain gan ymchwilwyr yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd, yn dweud bod y delweddau o Nifwl y Fodrwy a dynnwyd gan y JWST rhwng Gorffennaf ac Awst 2022 yn dangos strwythur y nifwl mewn manylder nas gwelwyd erioed o’r blaen.
Mae'r delweddau'n dangos, gan ddefnyddio datrysiad gofodol a sensitifrwydd sbectrol na fu ei debyg o’r blaen, tua 20,000 o globylau trwchus yn y nifwl sy'n llawn hydrogen moleciwlaidd. Y tu allan i'r cylch llachar mae lleugylch gweladwy â channoedd o bigau rheiddiol a thua deg arc consentrig.
Credir bod yr arcau’n tarddu o’r ffaith bod y seren ganolog yn rhyngweithio â seren màs isel arall sy’n cylchdroi o bell, ac y gellir ei chymharu hyn â'r cylchdro rhwng y Ddaear a'r blaned gorrach Plwton. Yn y modd hwn, mae nifylau megis Nifwl y Fodrwy yn datgelu rhyw fath o archaeoleg seryddol, wrth i seryddwyr astudio'r nifwl i geisio dysgu am y seren a oedd wedi’i greu.
Dyma a ddywedodd Dr Roger Wesson, Cydymaith Ymchwil yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd a arweiniodd y dadansoddiad: “Mae'r delweddau newydd hyn a dynnwyd gan y JWST yn dangos strwythurau nad oedd yr un telesgop blaenorol yn gallu eu gweld.
“Bellach, gallwn ni weld dylanwad cynnil trydedd seren, nad oedden ni’n gwybod amdani cyn hyn, yn y system, ochr yn ochr â seren llawer ymhellach i ffwrdd a ddarganfuwyd yn 2021. Mae’r drydedd seren hon wedi cerfio’r all-lif o’r seren yng nghanol y nifwl sydd wrthi’n marw ac wedi gosod patrwm consentrig gwan yn rhan o rannau allanol y nifwl.”
Bydd nifylau planedol fel y Fodrwy yn ymffurfio pan fydd sêr sydd â hyd at wyth gwaith màs ein Haul yn defnyddio’r hydrogen wrth eu craidd ac yn cael gwared ar eu haenau allanol.
Gan eu bod yn ffynhonnell llawer o'r carbon a'r nitrogen yn y bydysawd, mae'r ffordd y mae'r sêr hyn yn esblygu ac yn marw yn hollbwysig er mwyn deall tarddiad yr elfennau hyn gan na fyddai bywyd ar y Ddaear wedi gallu datblygu hebddynt.
Ychwanegodd Dr Wesson: “Ar un adeg, ystyrid nifylau planedol yn wrthrychau syml iawn, yn sfferig ar y cyfan ac yn meddu ar un seren wrth eu canol. Dangosodd Hubble eu bod yn llawer mwy cymhleth na hynny, ac yn sgil y delweddau diweddaraf hyn mae JWST yn dangos manylion mwy cymhleth eto o ran y gwrthrychau hyn.
“Mae’r dystiolaeth bod gan y seren gydymaith deuaidd agos sy’n ffurfio ei hall-lif yn rhoi rhai atebion hir-ddisgwyliedig ynglŷn â tharddiad y manylion hynod gymhleth hyn.”
Rhaglen ryngwladol a lansiwyd ym mis Rhagfyr 2021 dan arweiniad NASA ar y cyd â'i phartneriaid, Asiantaeth Gofod Ewrop (ESA) ac Asiantaeth Gofod Canada, yw JWST.
Hon fydd prif arsyllfa'r degawd nesaf ac oherwydd JWST bydd seryddwyr ledled y byd yn gallu astudio pob cam yn hanes ein Bydysawd, boed y tywynnu llachar cyntaf ar ôl y Glec Fawr, y systemau serol a phlanedol sy'n gallu cynnal bywyd ar blanedau fel y Ddaear yn ymffurfio neu esblygiad ein Cysawd yr Haul ni.
Dyma a ddywedodd Dr Mikako Matsuura, Darllenydd yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae telesgop JWST, sydd chwe metr ar led, deirgwaith yn fwy na thelesgop Hubble ac mae ganddo hefyd ddau gamera isgoch sy'n gallu canfod tonfeddi hirach na’r hyn y gall llygad dyn nac, yn wir, Hubble eu gweld.
“Mae'r arloesi hwn o ran y telesgop a chanfod elfennau isgoch yn golygu nad oedd seryddwyr cyn hyn yn gallu gweld llawer o fanylion y Fodrwy sydd i’w gweld bellach yn nelweddau diweddaraf JWST.
“Lle roedden ni ond yn gallu gweld modrwy, bellach rydyn ni’n gwybod bod 20,000 globiwl yn rhan ohoni. Ac, am y tro cyntaf, gallwn ni hefyd weld y tu hwnt i’r fodrwy, sy’n ymestyn gyda’i phigau a’i harcau gwan, gan greu strwythur tebyg i betalau sy’n debyg i flodyn.”
Cwblhawyd yr arsylwadau hyn yn rhan o Raglen Arsylwi Telesgop Gofod James Webb GO 1558.