Fideo: Mae’r ‘Hollt Ddanheddog’ yn parhau i waethygu heriau cyfiawnder troseddol
16 Awst 2023
Clywodd cynulleidfa yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ganfyddiadau allweddol llyfr nodedig gan academyddion o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.
Wrth siarad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan yn gynharach ym mis Awst, dangosodd yr Athro Richard Wyn Jones sut roedd yr ‘Hollt Ddanheddog’ rhwng cyfrifoldebau polisi datganoledig a’r rhai a gadwyd yn ôl wedi gwaethygu problemau yng nghyfundrefn cyfiawnder troseddol Cymru. Seiliwyd y sgwrs ar ei lyfr gyda Dr Robert Jones, The Welsh Criminal Justice System: On the Jagged Edge (Gwasg Prifysgol Cymru).
Yn ystod y cyflwyniad, dangosodd Wyn Jones ddata newydd ar y gyfradd garcharu bresennol a gwasgariad daearyddol Cymry Cymraeg ar draws y system carchardai.
Mae'r fideo llawn gan Brifysgol Caerdydd ar gael isod.