Cymrodyr Ymgysylltu Gwerth Cyhoeddus Newydd
15 Awst 2023
Mae Cymrodoriaethau Ymgysylltu Gwerth Cyhoeddus wedi’u dyfarnu i 11 aelod o staff Ysgol Busnes Caerdydd.
Mae'r cymrodoriaethau'n annog ac yn cynorthwyo staff i ddod â'u sgiliau, eu gwybodaeth a'u harbenigedd i fynd i'r afael â materion o bryder yn y gymdeithas.
Rhoddir y teitl Cymrawd Ymgysylltu Gwerth Cyhoeddus i staff, ac mae nhw’n cael cymorth lwfans llwyth gwaith a chyllideb gymedrol ar gyfer treuliau.
Mae'r materion neu'r themâu sydd wedi'u cynnwys yn y cymrodoriaethau newydd yn dangos ystod y mentrau o dan ymbarél gwerth cyhoeddus. Dyfarnwyd cymrodoriaethau i staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol. Maent yn cynnwys staff ar ddechrau eu gyrfa a staff academaidd uwch ym mhob un o bum adran yr Ysgol Busnes.
Dywedodd Yr Athro Peter Wells, Y Rhag Ddeon ar gyfer Gwerth Cyhoeddus:
Y Cymrodyr Ymgysylltu Gwerth Cyhoeddus newydd a theitlau eu cymrodoriaethau yw:
Yr Athro Jane Lynch a Dr Laura Purvis | Gwneud y mwyaf o systemau bwyd a arweinir gan y gymuned yng Nghymru |
Dr Maryam Lofti a'r Athro Yingli Wang | Dal berdys mewn rhwyd mewn ffordd foesegol: sut y gall technoleg chwyldroi arferion bwyd môr cynaliadwy |
Yr Athro Luigi De Luca | Gwella ansawdd bywyd plant anabl a'u teuluoedd |
Dr Qian Li | Ymgysylltu gwerth cyhoeddus ar gymdogaethau Sero Net yn ne Cymru |
Helen Whitfield | Marigold Chain |
Yr Athro Debbie Foster | Cyflogaeth deg a chynaliadwy i bobl anabl yng Nghymru: astudiaeth ddichonoldeb |
Dr Hussein Halabi | Rhoi’r grym yn nwylo ffoaduriaid a cheiswyr lloches trwy lythrennedd ariannol |
Yr Athro Sarah Hurlow | Gwerth cyhoeddus trwy becyn o gyrsiau byr iawn ‘ar eich cyflymder eich hunan’ ar-lein |
Dr Simon Jang | Dadansoddeg gofal cymdeithasol: gwella ansawdd gwasanaethau ac anghydraddoldebau ethnig ym maes gofal cymdeithasol |
Genevieve Shanahan | Technoleg ddemocrataidd ar gyfer cwmnïau cydweithredol |
Yr Athro Melanie Jones | Hyrwyddo menywod ym maes economeg yng Nghymru |
Bydd cymrodoriaethau yn weithredol o fis Medi 2023 tan fis Gorffennaf 2024.